Os ydych yn ddeiliad contract diogel gyda landlord cymdeithasol (yn cynnwys Cyngor Wrecsam), mae hawl gennych wneud cais i gyfnewid tai gyda deiliad contract diogel/tenant arall o unrhyw landlord cymdeithasol arall.  Gelwir hyn yn trosglwyddo contract diogel (roedd hwn yn arfer cael ei gyfeirio ato fel ‘cydgyfnewid’).

Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawl i drosglwyddo (neilltuo) eich contract i rywun arall - ond dim ond gyda’n caniatâd ni. 

Os ydych chi eisiau cyfnewid cartrefi, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i rywun i gyfnewid gyda cyn gofyn am ein caniatâd i drosglwyddo eich contract.  Mae’n rhaid i’r unigolyn yr ydych chi’n cyfnewid cartref gyda hefyd fod yn ddeiliad contract diogel gyda ‘landlord cymdeithasol’ (awdurdod lleol neu gymdeithas tai). 

Cysylltwch â’ch swyddfa ystâd leol am fwy o fanylion os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo eich contract diogel.