Llywodraethu

Cod Llywodraethu

Mae llywodraethu corfforaethol yn cyfeirio at y prosesau a ddilynir er mwyn cyfarwyddo, rheoli, ac arwain sefydliadau (fel cynghorau) a'u dwyn i gyfrif. Mae hefyd yn ymwneud â diwylliant a gwerthoedd - y ffordd y mae cynghorwyr (aelodau) a gweithwyr yn meddwl ac yn gweithredu. I grynhoi, os yw rheoli yn ymwneud â rhedeg cyngor, mae llywodraethu corfforaethol yn ymwneud â sicrhau y caiff ei redeg yn gywir.

Mae Cyngor Wrecsam yn sefydliad cymhleth, sy’n effeithio ar bawb sy’n byw a gweithio yn Wrecsam, yn ogystal â’r busnesau a’r sefydliadau sy’n seiliedig yma.

Felly mae’n hanfodol bod ffydd yn ein llywodraethu corfforaethol, ac fel cyngor rhaid i ni felly sicrhau:

  • fel corff democrataidd, ein bod yn ymgysylltu â’n dinasyddion a’n budd-ddeiliaid yn effeithiol, a’n bod yn atebol iddynt
  • ein bod yn cyflawni ein busnes yn unol â’r gyfraith ac i safonau priodol
  • ein bod yn sicrhau bod modd egluro lle caiff arian cyhoeddus ei wario, a’i fod yn cael ei ddefnyddio mewn modd economaidd, effeithlon ac effeithiol
  • ein bod yn sicrhau bod rheolaethau yn gymesur â risg fel nad ydynt yn rhwystro perfformiad
  • ein bod yn gwella’r ffordd rydym yn gweithredu’n barhaus, o ran effeithiolrwydd, ansawdd gwasanaethau sydd ar gael, tegwch, cynaliadwyedd ac arloesedd.
  • ein bod yn cyflawni ein pwrpas a chyflawni ein blaenoriaethau fel a nodir yng Nghynllun y Cyngor

Felly, rydym wedi ymrwymo i lywodraethu corfforaethol da – i wneud y pethau iawn y ffordd iawn ar gyfer y bobl iawn mewn modd sy’n amserol, cynhwysol, agored, onest ac atebol.

Mae’r Cod hwn yn nodi ein dull o gyflawni a chynnal llywodraethu corfforaethol da. Mae'n dilyn canllawiau a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol ac Uwch Reolwyr (SOLACE).

Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Diben y  Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw nodi i ba raddau y mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â’r Cod Llywodraethu.  Mae’n disgrifio sut mae effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu wedi'u monitro a'u gwerthuso yn ystod y flwyddyn ac yn nodi unrhyw feysydd i’w gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’n Datganiad Cyfrifon Blynyddol, ond gan nad yw wedi ei gyfyngu i faterion cyllidol, mae’n cael ei gyhoeddi yma fel dogfen ar wahân. Gellir canfod ein Datganiad Cyfrifon Blynyddol o dan dogfennau cyllid

Hunanasesu

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer etholiadau, democratiaeth, llywodraethu a pherfformiad llywodraeth leol.  

Mae’r Ddeddf hon yn golygu bod rhaid i bob Cyngor yng Nghymru adolygu’r graddau y maen nhw’n bodloni’r ‘gofynion perfformiad’, a hynny trwy hunanasesu. Mae’n rhaid i bob Cyngor adolygu sut mae’n:

  • Gweithredu ei swyddogaethau yn effeithiol 
  • Defnyddio ei adnoddau’n economaidd, effeithlon ac yn effeithiol
  • Sicrhau bod dulliau llywodraethu’n effeithiol ar gyfer bodloni’r amcanion uchod

Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi dyletswydd ar Gynghorau i gyhoeddi adroddiad yn nodi canlyniadau eu hunanasesiad unwaith ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Dylai’r adroddiad gynnwys unrhyw gamau gweithredu mae Cyngor yn bwriadu eu cymryd er mwyn bodloni’r gofynion perfformiad ymhellach. Mae’n rhaid i adroddiadau’r dyfodol gynnwys adolygiad o’r camau gwelliant ac ystyriaeth o sut maen nhw wedi cynyddu’r graddau y maen nhw’n bodloni’r gofynion perfformiad.