Cwestiynau cyffredin: cludiant o'r cartref i'r ysgol a’r coronafeirws

Mae’r wybodaeth yma'n berthnasol i ddisgyblion sy'n gymwys i deithio ar gludiant addysg yn unol â’n polisi cludiant (Cyngor Wrecsam).

Oes raid i mi anfon fy mhlentyn ar y bws ysgol?

Does dim rhaid i’ch plentyn ddefnyddio cludiant ysgol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylai disgyblion gael eu hannog i ddewis cyfleoedd teithio llesol megis cerdded neu feicio lle bo'n rhesymol, ymarferol a diogel. 

Dylech chi ond anfon eich plentyn ar y bws/tacsi ysgol os ydych chi wedi gofyn am sedd ar gerbyd i’ch ysgol a’ch bod chi wedi derbyn cadarnhad bod lle wedi’i neilltuo ar gyfer eich plentyn.  

Os ydych chi’n gyrru’ch plentyn i’r ysgol, cofiwch y bydd mwy o draffig o gwmpas ysgolion felly caniatewch ddigon o amser i gyrraedd ar amser a chofiwch hefyd gymryd gofal ychwanegol gan y bydd yna blant yn cerdded i’r ysgol.

Beth fedraf i ei wneud fel rhiant/gofalwr i gefnogi cludiant ysgol?

Sicrhewch eich bod wedi darllen, ac yn gyfarwydd gyda’r ddogfen protocol rhieni sy’n cefnogi gweithdrefnau cludiant o'r cartref i'r ysgol o fis Medi 2020.

Mae golchi dwylo yn rheolaidd yn un o’r prif ffyrdd i atal lledaeniad y feirws. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn golchi ei ddwylo cyn gadael y tŷ, ac ar ôl cyrraedd adref. 

Beth os yw fy mhlentyn yn defnyddio cludiant cyhoeddus?

Mae’n rhaid i ddisgyblion sy’n defnyddio cludiant cyhoeddus fel rhan o’u siwrnai o’r cartref i’r ysgol ddilyn y canllawiau diweddaraf sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyfyngiad “teithio hanfodol" ar gludiant cyhoeddus wedi cael ei godi, ac mae'r nifer o wasanaethau bws yn cynyddu.  Cofiwch bod rhaid i unrhyw un dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb ar bob math o gludiant cyhoeddus.

Bydd angen gorchudd wyneb?

Bydd. Bydd angen i ddisgyblion dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb ar holl lwybrau teithio cludiant o'r cartref i'r ysgol. Ni fydd disgyblion yn cael eu gwrthod rhag dod ar y cerbyd os ydynt wedi anghofio gorchudd wyneb. 
 
Rydym yn deall nad oes modd i bawb wisgo gorchudd wyneb am resymau meddygol. Os mai dyma yw’r achos, ni fydd disgyblion yn cael eu gwrthod ar gludiant.

A fydd y cludiant o'r cartref i'r ysgol arferol yn gweithredu?

Bydd cludiant i'r ysgol yn parhau i weithredu ond bydd newidiadau mewn lle oherwydd cadw pellter cymdeithasol ac ymarfer hylendid da.  Bydd cludiant dim ond yn gweithredu i’r amseroedd cyrraedd a gadael penodol a osodwyd i bob ysgol unigol.   

A fydd y bysiau/tacsis yn cael eu glanhau’n rheolaidd?

Bydd y cerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael eu glanhau cyn casglu disgyblion yn y bore ac ar ddiwedd y prynhawn ar ôl cludo pawb gartref.  Bydd mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml yn cael eu glanhau yn rheolaidd yn ystod y diwrnod, a bydd y cerbyd yn cael ei lanhau yn drylwyr unwaith y diwrnod.

A fydd y bysiau yn cael eu glanhau’n rheolaidd?

Bydd y cerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael eu glanhau cyn casglu disgyblion yn y bore ac ar ddiwedd y prynhawn ar ôl cludo pawb gartref.  Bydd mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml yn cael eu glanhau yn rheolaidd yn ystod y diwrnod, a bydd y cerbyd yn cael ei lanhau yn drylwyr unwaith y diwrnod.

Sawl disgybl fydd yn gallu teithio yn y cerbyd?

Bydd nifer y teithwyr yn amrywio, yn dibynnu ar faint y cerbyd.   Rydym ni wedi adolygu’r holl ddarpariaeth cludiant i gyfrifo sawl disgybl fydd yn derbyn sedd, yn seiliedig ar faint y cerbyd a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol.  Bydd cludiant arall neu ychwanegol yn cael ei ddarparu lle bo angen.

A fydd plant eraill yn pasio fy mhlentyn wrth iddyn nhw fynd ar ac oddi ar y bws?

Mi fydd yna gynllun eistedd clir ar waith gyda’r gweithredwyr cludiant sy’n sicrhau fod seddi ar gerbydau wedi eu trefnu mewn grwpiau blwyddyn. Bydd hyn yn golygu fod rhai disgyblion yn pasio ei gilydd wrth fynd neu dod oddi ar y cerbyd.

Wrth adael yr ysgol yn y prynhawn, lle bo’n bosib, bydd grwpiau blwyddyn yn mynd ar y cerbyd mewn trefn, fel ei fod yn cael ei lenwi o’r cefn i’r tu blaen.

Sut fydd y disgyblion yn cadw ar wahân ar y bws?

Bydd grwpiau yn eistedd mewn clystyrau grwpiau blwyddyn ac, os oes lle, bydd seddi gwag yn creu pellter ychwanegol rhwng y grwpiau blwyddyn.

Sut mae gwybod pwy sydd ar y cerbyd?

Dim ond disgyblion sydd wedi cael eu derbyn ar y cerbyd, ac sydd wedi derbyn pas teithio, sy’n cael dod ar y cerbyd. Bydd yr wybodaeth yma felly yn sicrhau y bydd modd dilyn gweithdrefnau Profi, Olrhain, Diogelu, os bydd angen. 

Beth am drefniadau cadw pellter cymdeithasol yn y safle bws wrth aros am fws?

Byddwn yn disgwyl i ddisgyblion dros 11 oed o wahanol aelwydydd gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol, yn unol â’r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru. 

A fydd yr un gyrrwr yn gyrru’r bws?

Os yn ymarferol, bydd yr un gyrrwr yn gyrru’r bws. Ond, os nad yw’r gyrrwr arferol ar gael, bydd gyrrwr arall yn gyrru. Os nad oes modd defnyddio’r bws am unrhyw reswm, yna bydd bws arall yn cael ei ddefnyddio.

Beth sy’n digwydd os nad yw’r plant yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol?

Bydd rhaid i rieni ddarllen cod ymddygiad mis Medi 2020 sy’n ddisgwyliedig cyn i’r plentyn ddefnyddio cludiant ysgol.  Os nad yw plentyn yn gallu deall yr hyn sy’n ofynnol, dylai rhieni ystyried dulliau teithio amgen.

Mae fy mhlentyn yn defnyddio'r cynllun seddi consesiwn (a delir amdano), a fydd modd iddo deithio?

Ni fyddwn yn gweithredu’r cynllun seddi consesiwn (a delir amdano) gan mai ychydig iawn o ddisgyblion cymwys sy’n gallu teithio ar ein cludiant oherwydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol.

Beth mae hyn yn ei olygu i ddisgyblion nad ydyn nhw’n gymwys i dderbyn cludiant am ddim?

Ni fydd y cyngor yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion nad ydyn nhw’n bodloni’r gofynion a byddwn yn eu hannog i gerdded neu feicio i’r ysgol.

Beth os ydi cerbydau yn orlawn?

Rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n darparwyr cludiant i fonitro capasiti cerbydau i wneud y mwyaf o’r capasiti yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Pan fo’n briodol, bydd gofyn i ddarparwyr cludiant wneud newidiadau i osgoi gorlenwi a rhoi gwybod i ysgolion, rhieni a gofalwyr. 

Oes modd bwyta neu yfed ar fws/tacsi?

Nid oes modd bwyta nag yfed ar unrhyw fath o gludiant i'r ysgol na chludiant cyhoeddus yn ystod y siwrnai.

Beth sy’n digwydd os oes gan fy mhlentyn gynorthwyydd teithio?

Os oes wir angen cynorthwyydd teithio, gall y trefniadau hynny barhau.  Fodd bynnag, gan na fydd rhai aelodau o staff ar gael, efallai y bydd newidiadau o ran staffio. 

Os nad oes modd i staff cludiant weithio oherwydd bod rhaid iddyn nhw hunan-ynysu, efallai y bydd angen newid staff ar fyr rybudd. 

Os oes unrhyw broblem gydag argaeledd cynorthwyydd teithio, bydd rhieni yn cael gwybod am hynny.

Beth sy’n digwydd os yw fy mhlentyn yn sâl yn ystod y dydd?

Bydd rhaid i chi nôl eich plentyn o’r ysgol. 

A fydd fy mhlentyn yn cael mynd ar y bws os oes ganddo anwyd?

Na fydd. Os oes gan eich plentyn neu aelod arall o’ch aelwyd y symptomau canlynol ni ddylech adael y tŷ:

  • gwres
  • peswch parhaus, newydd
  • wedi colli synnwyr arogli a blasu

Mae’n hollbwysig eich bod chi’n sicrhau nad ydi’ch plentyn yn teithio os oes ganddo’r symptomau hyn. Mae hyn yn unol â chyngor y llywodraeth a’r GIG.  Os ydi’ch gweithredwr cludiant yn dod yn ymwybodol o symptom cyn y daith, yna bydd yn gwrthod cludo’ch plentyn.