Efallai yr hoffech gasglu tystiolaeth a darparu’r dystiolaeth honno pan rydych yn rhoi gwybod am niwsans sŵn.

Gan y gall niwsans sŵn ddigwydd ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, nid yw bob amser yn bosibl i un o’n swyddogion fod yn bresennol i glywed y sŵn. Fodd bynnag, mae sawl ffordd y gallwch gasglu tystiolaeth eich hun...

Camera digidol neu ffôn symudol

Recordiwch fideo neu glip sain ar eich camera digidol neu ffôn symudol. Gall recordio fideo fod yn ddefnyddiol pan yr ydych eisiau recordio cloc i ddangos pryd yn union yr ydych yn clywed y sŵn, ond cofiwch osgoi recordio unigolion gan y gall hyn gael ei ystyried yn wyliadwriaeth.

Yna gellir llwytho’r dystiolaeth i’ch cyfrifiadur (drwy e-bost, cebl neu gerdyn SD) ac yna ei chyflwyno’n defnyddio ein ffurflen rhoi gwybod am sŵn ar-lein. Cadwch faint eich recordiad mor fach â phosibl, nid yw ein system e-bost yn derbyn e-byst mwy na 10MB ar gyfer yr e-bost cyfan, yn cynnwys atodiadau. Os oes gennych ffôn clyfar, mae’n well i chi ddefnyddio’r Ap Sŵn i gyflwyno recordiadau sain (gweler isod).

Y mathau o ffeiliau y gallwch eu llwytho yw jpg, bmp, gif, jpeg, tif, png, mp3, wav, mid a zip. Mae gan bob ffurflen i roi gwybod am sŵn gyfyngiad maint llwytho ffeil o 5Mb (fel rheol mae hyn tua 30 eiliad i un munud o recordiad yn dibynnu ar faint y ffeil a recordiwyd).

Os ydych yn cael trafferth llwytho eich clip sain/fideo rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at cysylltwch@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 292040.

Peidiwch â phoeni os ydych yn chwarae eich recordiad ar eich camera/ffôn ac nad yw'n swnio fel y byddech yn disgwyl iddo. Fel arfer, bydd y recordiad yn gynrychioliadol o’r sŵn y clywsoch chi pan fyddwn yn ei dderbyn a’i chwarae gan ddefnyddio ein meddalwedd.

Ap Niwsans Sŵn

Rydym bellach yn derbyn recordiadau sŵn gan ddefnyddio'r Ap Sŵn (ar gael ar Android ac iPhone), ar ôl i’r gŵyn gael ei chofrestru’n ffurfiol gyda’r Ganolfan Gyswllt.

Mae’r Ap Sŵn yn golygu y gallwn dderbyn cwynion sŵn ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gan ganiatáu i chi anfon recordiadau sŵn byr yn uniongyrchol at y swyddogion ymchwilio.

Mae'n rhaid i chi gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad yr eiddo lle mae'r sŵn yn dod (ni chaiff cwynion dienw eu hymchwilio). Bydd arnoch chi hefyd angen disgrifiad o'r math o sŵn rydych yn cwyno amdano.

Rydym ond y derbyn 10 recordiad i bob cwyn a gallwn rwystro unigolion rhag defnyddio'r gwasanaeth os ydynt yn cam-ddefnyddio’r ap.

Taflen gofnod o niwsans sŵn

Os oes ymchwiliad parhaus i’ch cwyn am sŵn, yna mae’n debygol y bydd rhaid i chi gwblhau taflen gofnod o niwsans sŵn. Mae'r rhain yn rhan hanfodol o ymchwiliadau i gwynion sŵn gan eu bod yn cofnodi manylion pob digwyddiad sŵn ac yn eich galluogi i ddweud sut mae'r sŵn yn effeithio arnoch chi (neu'ch teulu). Os nad ydych yn cadw cofnod o niwsans sŵn wrth iddo ddigwydd gallai’r wybodaeth hanfodol hon gael ei cholli.

Gall unrhyw gofnod yr ydych yn ei gadw helpu ein Swyddogion...

  • I ddeall eich cwyn yn llawn a’u galluogi i farnu a yw'r sŵn yn debyg o fod yn 'Niwsans Statudol'. 
  • I nodi unrhyw batrymau o ran pryd mae'r sŵn yn debygol o ddigwydd, rhag ofn bod angen iddynt ymweld. 

Hefyd, gallai’r cofnodion fod yn rhan o'r dystiolaeth os bydd y mater yn cyrraedd y llys, naill ai trwy ein camau ni neu os byddwch chi’n cymryd eich camau cyfreithiol eich hun.

Os nad ydych yn cwblhau taflenni cofnod o niwsans sŵn yn ystod ymchwiliad parhaus efallai na fydd eich achos yn symud ymlaen.

Gall datganiad tyst fod yn fath arall o dystiolaeth y gallwch chi ei darparu (lle bo hynny’n briodol) er y byddai’r dystiolaeth fel arfer ond yn cael ei defnyddio yn ddiweddarach yn yr ymchwiliad.

Os ydych yn defnyddio camera digidol, ffôn symudol neu’r Ap Sŵn i gasglu tystiolaeth, cofiwch y dylid ond recordio’r sŵn pan fo’i effaith ar ei waethaf.  

Yr hyn y dylech wybod cyn caglu tystiolaeth

Mae angen i'ch tystiolaeth fod yn wir, hyd y gwyddoch chi ac y credwch chi. Gallai methu â gwneud hyn arwain i chi gael eich erlyn.

Hawliau Dynol

Wrth gasglu eich tystiolaeth, mae'n bwysig peidio â thorri deddfwriaeth hawliau dynol. Wrth lenwi taflen gofnodi niwsans peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol. Wrth recordio eich tystiolaeth sain neu fideo o’r sŵn, ceisiwch gasglu tystiolaeth o'r sŵn yn unig a pheidiwch â busnesa ar eich cymdogion - recordiwch yn eich tŷ neu eich gardd eich hun heb bwyso dros ffensys.

Colli Tystiolaeth

Ni allwn fod yn gyfrifol am golli unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd, felly cofiwch gadw copi.