Mwy o weithgareddau

Gallwch hefyd ddod o hyd i ddigwyddiadau rheolaidd sy'n digwydd trwy'r lleoliadau/prosiectau canlynol:

Digwyddiadau blynyddol

Dydd Gŵyl Dewi

Bob blwyddyn ar 1 Mawrth, mae Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda pharêd yng nghanol y ddinas a rhaglen o weithgareddau ar thema Gymraeg. 

Mae'r digwyddiad yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Menter Iaith, ac yn dod ag ysgolion, grwpiau cymunedol a thrigolion at ei gilydd i ddathlu’r diwrnod.

Y Pasg

Mae ein Helfa Cwningod y Pasg bob gwanwyn yn ffordd gyfeillgar a llawn hwyl i deuluoedd ddarganfod canol dinas Wrecsam, yn dilyn cliwiau i ddod o hyd i gwningod wedi'u cuddio yn ffenestri busnesau lleol.

MotorFest

Mae Motorfest yn ddigwyddiad mawr ar gyfer pawb sy’n dwlu ar gerbydau modur, wedi’i gyflwyno ar y cyd â Hosbis Tŷ’r Eos.

Yn fwy na sioe geir yn unig, mae'n ddiwrnod llawn adloniant i’r teulu gydag arddangosfeydd styntiau arena cyffrous, cerddoriaeth fyw, ffair, a bwyd a diod.

Cynnau'r Goleuadau Nadolig

Dathliad yng nghanol y ddinas mewn partneriaeth â Hosbis Tŷ’r Eos,  Canolfan Siopa Dôl Yr Eryrod, Rheoli Digwyddiadau Ffair a Heart Radio Gogledd Cymru. 

Mae Marchnad Grefftwyr Wrecsam yn cael ei chynnal yn ystod y dydd - yn cefnogi busnesau bach lleol ac yn cynnig amrywiaeth eang o stondinau i ymwelwyr eu mwynhau. Bydd bwyd stryd, a diodydd, ar gael, ochr yn ochr ag amrywiaeth o anrhegion gan gynnwys eitemau wedi'u gwneud â llaw. 

Pan fydd y goleuadau wedi'u cynnau, bydd y dathliadau'n parhau gyda pharêd  llusernau Hosbis Tŷ'r Eos trwy ganol y ddinas, yn arwain at ddiweddglo mawreddog yn Nôl yr Eryrod, gydag artistiaid cerdd a pherfformwyr gwych ar y brif lwyfan.

Marchnad Nadolig Fictoraidd

Mae Marchnad Nadolig Wrecsam yn rhan hynod boblogaidd o weithgareddau’r Ŵyl, gydag awyrgylch traddodiadol yng nghanol y ddinas tua dechrau Rhagfyr bob blwyddyn, gydag elfennau hanesyddol difyr.

Yn cynnwys adloniant stryd Fictoraidd, perfformiadau cerddoriaeth fyw yn Eglwys St Giles, ac amrywiaeth eang o stondinau o bob rhan o'r rhanbarth, mae'r farchnad yn brofiad siopa Nadolig unigryw.

Yn 2024, ymestynnwyd y digwyddiad i bedwar diwrnod a chyflwynwyd cytiau pren traddodiadol ar hyd y stryd fawr, oedd yn creu llwybr hyfryd tuag at yr eglwys.

Dolenni perthnasol

Trefnwyr y digwyddiad

Ar gyfer llogi lleoliadau eraill, gallwch hefyd archebu ystafelloedd yn ein canolfannau cymunedol, yn ogystal â'n Hwb Lles (archebion anfasnachol yn unig yn yr Hwb).