Os ydych yn chwilio am eiddo gwag yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam, neu os hoffech nodi argaeledd tir, gallwch wirio ein cronfa ddata tir ac eiddo.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am argaeledd eiddo neu dir, gallwch gysylltu â ni.  

Os ydych yn ystyried rhentu eiddo masnachol am y tro cyntaf, mae Llinellfusnes yn gallu darparu taflenni ffeithiau yn amlinellu beth mae’r broses yn ei olygu yn ogystal â manylu unrhyw gostau.

Mae gennym hefyd y taflenni ffeithiau canlynol ar gael i ofyn amdanynt:  

  • Canllaw i ddewis eiddo busnes
  • Canllaw i weithle a reolir  
  • Arweiniad i ardrethi busnes

  • Arweiniad i forgeisi masnachol
  • Canllaw cyfreithiol i gynnal busnes o gartref

Cyfraddau Busnes/Cyfraddau Annomestig

Ardrethi Annomestig, yw’r ffordd mae busnesau a defnyddwyr mwyafrif o eiddo annomestig yn cyfrannu tuag at gostau gwasanaethau’r awdurdod lleol. Dylech allu dod o hyd i werth ardrethol y rhan fwyaf o eiddo masnachol o ddiddordeb ar-lein (dolen gyswllt allanol).

Yna bydd y gwerth ardrethol angen ei luosi gan luosydd ardrethi busnes presennol Cymru cyn y bydd unrhyw ryddhad ardrethi yn cael ei gymhwyso, mae manylion ar gael ar wefan Busnes Cymru (dolen gyswllt allanol)

Os byddwch yn penderfynu rhentu/prynu uned, byddwch angen hysbysu businessrates@wrexham.gov.uk er mwyn cofrestru ar gyfer ardrethi annomestig.  Yna byddwch yn derbyn hysbysiad talu yn nodi’r swm o ardrethi sydd angen i chi eu talu, os o gwbl.  Gallwch wneud unrhyw daliadau perthnasol driwyr rhyngrwyd. Fel arall, gallwch dalu dros y ffôn (0300 333 6500) gyda cherdyn debyd. Gallwch wneud taliadau misol hefyd drwy ddebyd uniongyrchol/archeb sefydlog, neu drwy’r system BACS.

Os ydych yn ansicr am unrhyw agwedd o rwymedigaeth ardrethi busnes, neu beth fyddwch angen ei dalu cyn cymryd drosodd uned, dylech anfon e-bost at businessrates@wrexham.gov.uk neu ffonio: 01978 298990.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r eiddo (dolen gyswllt allanol), cysylltwch â’n hadran Ardrethi Busnes 

Os yw’r eiddo angen prisiad newydd, mae’r adain Ardrethi Busnes yn gallu cyfeirio’r mater i’r Asiant Swyddfa Brisio ar eich rhan unwaith y byddwch wedi darparu’r cyfeiriad llawn, dyddiad y dechreuodd eich prydles ac enw’r parti sy’n atebol.

Eiddo Hunanarlwyo / Llety Gwyliau

Os ydych yn rhedeg eiddo hunanarlwyo neu lety gwyliau yn Wrecsam, bydd angen ei brisio ar gyfer ardrethi busnes os bodlonir amodau penodol.

Eto, byddwch angen cysylltu â’n hadran Ardrethi Busnes (drwy’r manylion cyswllt a ddarparwyd uchod) i adael iddynt wybod manylion yr eiddo. Yna byddant yn trosglwyddo’r wybodaeth berthnasol i’r Asiant Swyddfa Brisio er mwyn iddynt neilltuo prisiad ardreth annomestig ar gyfer yr eiddo.

Sylwer os ydych wedi trosi eiddo domestig yn lety gwyliau, byddwch angen talu Treth y Cyngor ar yr eiddo nes byddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwyster i gynnwys yr eiddo fel eiddo annomestig.

Busnesau sy’n gweithio o gartref

Mae’n bosibl y bydd eiddo domestig a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes  angen neilltuo gwerth ar gyfer ardrethi annomestig ar gyfer y rhan o’r eiddo a ddefnyddir at ddibenion busnes yn ogystal ag angen talu Treth y Cyngor.
Roedd hyn yn dibynnu ar, er enghraifft: 

  • Os yw eich eiddo yn rhannol fusnes ac yn rhannol ddomestig, er enghraifft os ydych yn byw uwchlaw siop.
  • Pa un a yw’r eiddo wedi’i addasu er mwyn rhedeg y busnes, fel garej yn cael ei drosi yn salon trin gwallt.
  • Pa un a yw bobl wedi eu cyflogi i weithio yn yr eiddo. 
  • Pa un a yw eiddo neu wasanaethau wedi eu gwerthu i bobl sy’n ymweld â’r eiddo.

Caniatâd cynllunio ddim ei angen fel arfer ar gyfer y cartref, oni bai bod yna effaith amlwg ar eich cymdogion (o ran sŵn er enghraifft), byddai yna gynnydd amlwg mewn traffig / argaeledd parcio/y nifer o bobl yn ymweld, neu os byddwch yn derbyn cyflenwadau rheolaidd / amlwg ac ati. Bydd adran gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych yn hyn o beth.

Fel y soniwyd uchod, rydym yn gallu darparu canllawiau cyfreithiol ar gyfer rhedeg busnes o gartref, byddai’n werth darllen drwy hwn os yw hwn yn rhywbeth yr ydych yn ei ystyried.  Byddwch yn gallu gofyn am gopi drwy lenwi ein ffurflen ymholiad.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Bydd angen i chi gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (dolen gyswllt allanol) os oes gennych unrhyw ymholiadau o ran y gwerth ardrethol ar eich eiddo neu, er enghraifft:

  • Os ydych yn credu bod eich prisiad ardrethi busnes yn anghywir
  • Os yw’r eiddo neu’r ardal wedi newid 
  • Os nad yw eich eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes 
  • Os yw eich eiddo wedi cael ei ddymchwel 

Caniatâd Cynllunio

Er mwyn datblygu tir neu eiddo, er enghraifft trwy adeiladu adeilad masnachol newydd neu wneud newidiadau sylweddol i adeilad presennol, mae fel arfer yn angenrheidiol gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Efallai bydd angen caniatâd cynllunio i newid defnydd tir neu eiddo hefyd. Bydd yr adran gynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu ateb unrhyw ymholiadau o’r safbwynt hwn.

Os fydd caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd yn angenrheidiol, byddwch angen hysbysu Asiantaeth y Swyddfa Brisio (dolen gyswllt allanol) am hyn.

Nodi grantiau / cyllid ar gyfer eich busnes

Os ydych yn edrych ar wella safon yr eiddo sydd gennych, mae cymorth ariannol ar gael drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Drwy amrywiol adnoddau ein gwasanaeth gwybodaeth busnes arbenigol; mae Llinellfusnes yn gallu darparu mynediad i wybodaeth gywir a diweddaraf ar gynlluniau grant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, y gallech fod yn gymwys i’w dderbyn, ynghyd â manylion darparwyr cyfalaf menter, benthyciadau, platfform cyfoedion i gyfoedion a chystadlaethau gyda gwobr ariannol. 

Byddwch yn gallu gofyn am chwiliad ariannol i nodi ffynonellau cyllid a allai fod o ddiddordeb. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar gynlluniau cyllid a restrwyd sy’n agored ar gyfer cais ar gronfeydd data cyllid trydydd parti. 

Gallwch hefyd ymuno â'n rhestr bostio i’w diweddaru gydag unrhyw gyfleoedd cyllid.