Mae gennym ddyletswydd i gyhoeddi adroddiadau ar ymchwiliadau i ddigwyddiadau llifogydd sylweddol, o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (dolen gyswllt allanol).
Mae’r adroddiadau’n ddatganiad cyhoeddus o amgylchiadau digwyddiad llifogydd a’u nod yw sefydlu beth ddigwyddodd, beth yr effeithiwyd arno a pham. Maent yn cynnwys:
- Gwybodaeth gefndir am leoliad llifogydd
- Crynodeb o ddigwyddiad glawiad
- Gwybodaeth am raddfa'r llifogydd
- Rolau a chyfrifoldebau pob awdurdod rheoli risg a'r camau a gymerwyd neu a gynigiwyd gan yr awdurdodau hyn
- Camau a argymhellir yn dilyn yr ymchwiliad
Mae ymchwiliadau Adran 19 yn gymhleth ac fel arfer yn cymryd rhwng 9 mis a blwyddyn i’w cwblhau.