Mae’r pwyllgorau craffu yn cynnwys yr holl aelodau (a elwir hefyd yn gynghorwyr) nad ydynt yn aelodau o’n Bwrdd Gweithredol.

Eu prif bwrpas yw: 

  • adolygu a gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu fel cyngor 
  • gwneud argymhellion ar opsiynau polisi ar gyfer y dyfodol 
  • gweithredu fel dull gwirio ar gyfer y Bwrdd Gweithredol drwy ei ddwyn i gyfrif am ei benderfyniadau 

Mae craffu yn bwysig er mwyn arddangos atebolrwydd y cyngor. Er enghraifft, gall aelodau craffu ofyn i aelodau’r Bwrdd Gweithredol a swyddogion y cyngor fynychu eu cyfarfodydd er mwyn egluro eu penderfyniadau.

Mae pump o bwyllgorau craffu yn Wrecsam:

Mae’r Grŵp Cydlynu Craffu (sy’n cynnwys cadeiryddion ac is-gadeiryddion y pwyllgorau craffu) yn arolygu ac yn cydlynu llwyth gwaith y pum pwyllgorau craffu.

Beth mae pwyllgorau craffu yn gallu eu gwneud?

Gallant:

  • adolygu polisïau a phenderfyniadau 
  • ymwneud â datblygu polisïau 
  • dwyn y Bwrdd Gweithredol a swyddogion cyngor i gyfrif 
  • cynnal adolygiadau i wella gwasanaethau 
  • adolygu a chraffu ar wasanaethau asiantaethau allanol sy’n effeithio pobl Wrecsam
  • gwneud argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth 
  • cyfeirio argymhellion i’r Bwrdd Gweithredol neu’r Cyngor llawn, fel bo’n briodol 

Sut mae’r materion yn cyrraedd y pwyllgorau craffu?

Gall pwyllgorau craffu gymryd awgrymiadau gan amrywiol ffynonellau, gan gynnwys y cyhoedd, yn ogystal ag aelodau a swyddogion unigol. Gall pob pwyllgor hefyd nodi eu meysydd eu hunain i’w hadolygu.

Pan gyflwynir problem, mae aelodau craffu yn ystyried blaenoriaethau yn Wrecsam, beth sydd angen ei adolygu, a lle gallai craffu wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag mae eu rhaglenni gwaith yn cael eu cadw’n hyblyg, er mwyn gallu ystyried materion annisgwyl.

Cymryd rhan yn y broses craffu

Gall aelodau o’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd craffu, oni ba bod eitemau personol neu gyfrinachol yn cael eu hystyried.

Mae pob pwyllgor fel arfer yn cyfarfod bob mis, er y gellir galw cyfarfodydd ychwanegol.

Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Y Dref, Wrecsam. Fodd bynnag, os yw’n briodol, cynhelir cyfarfodydd mewn lleoliadau eraill. Os hoffech fynychu neu fod yn rhan o gyfarfod pwyllgor craffu, darllenwch y protocol ymgysylltu â’r cyhoedd.

Cyhoeddir agendâu o flaen llaw. Gallwch chwilio am agendâu ar ein tudalen agenda, cofnodion ac adroddiadau pwyllgorau.

I gael mwy o wybodaeth ar sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â’n tîm craffu.

Cyfarfodydd craffu a rhaglen waith

Mae pob pwyllgor craffu yn adolygu eu rhaglen waith bob mis.

Rhaid chwilio drwy’r calendr o gyfarfodydd i weld y rhaglenni gwaith mwyaf diweddar (dewiswch gyfarfod, lle dangosir y pwyllgor craffu perthnasol, i weld yr agenda a’r adroddiad rhaglen waith). 

Os nad yw’r agenda ar gyfer y cyfarfod penodol hwnnw ar gael eto, gwiriwch yr agenda ar gyfer y mis blaenorol, neu cysylltwch â’n tîm craffu. 

Mae Adran 7 y Cyfansoddiad yn cynnwys cylch gorchwyl y pwyllgorau craffu. 

Dolenni perthnasol

Cysylltwch â’n tîm craffu 

E-bost: scrutiny@wrexham.gov.uk