Rhan o Wythnos Cysylltiadau Coetir (dolen gyswllt allanol)
Ymunwch â ni am daith dywys am ddim! Bob mis yn ystod y gwanwyn a'r haf rydym yn cynnig taith dywys o 10am tan 12pm trwy rai o'n parciau gwledig.
Mehefin 17 - Goed y Nant
Dewch draw am daith gerdded hamddenol a diddorol trwy goetir a pharcdir, lle gallwch ddysgu adnabod amrywiaeth o goed cyffredin, planhigion gwyllt a blodau.
Mae'r teithiau cerdded yn cael eu hariannu gan ein tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ac yn cael eu cynnal gan Woodland Classroom (dolen gyswllt allanol).
Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad (dolen gyswllt allanol)
Rhaid archebu ymlaen llaw (nifer cyfyngedig o leoedd)
E-bost: hey@woodlandclassroom.com
Gwasanaeth bws gwennol am ddim ar y diwrnod
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth bws ar ddiwrnodau digwyddiadau Cerdded gyda Choed, o Tŷ Pawb (dolen gyswllt allanol) yng nghanol y ddinas.
- Bydd y bws yn gadael Tŷ Pawb am 9.30am (i gyrraedd mewn pryd ar gyfer y daith dywys am 10am).
- Bydd y daith gerdded yn dod i ben am 12pm a bydd y bws wedyn yn gadael y parc am 12.30pm ac yn dychwelyd i Tŷ Pawb.
- Gall pobl hefyd ddefnyddio'r bws hwn i ymweld â'r parc am y bore (nid oes rhaid i chi fynychu'r daith dywys).
Os yw'n haws, mae croeso i chi wneud eich ffordd eich hun i'r parc ar gyfer y daith dywys.
Archebwch eich tocyn bws am ddim ar Eventbrite (dolen gyswllt allanol)