Mae ardaloedd cadwraeth yn dystiolaeth ffisegol gyfoethog o’r gorffennol, ac maent yn cyfrannu at ein llesiant. Maent yn amgylcheddau byw ac mae angen eu rheoli’n ofalus i sicrhau bod eu cymeriad a’u golwg yn cael eu diogelu a’u gwella.

Beth yw ein rôl wrth reoli ardaloedd cadwraeth?

Yn ôl Adran 69 y Ddeddf Gynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae’n ofynnol i ni (fel yr awdurdod cynllunio lleol) roi sylw arbennig i’r angen i gadw neu wella ardaloedd cadwraeth ym mholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio mewn ardal gadwraeth neu gerllaw.

Mae’r ddyletswydd statudol hon wedi’i nodi hefyd ym Mhennod 6 Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Technegol rhif 24 ‘Yr Amgylchedd Hanesyddol’ lle mae rhagdybiaeth gyffredinol o blaid diogelu neu wella cymeriad a golwg ardal gadwraeth.

Mae’r dogfennau hyn hefyd yn pwysleisio bod rhagdybiaeth gref yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau, gan gynnwys hysbysebion, sy’n amharu ar gymeriad neu olwg ardal gadwraeth i lefel annerbyniol.

O’r herwydd, mae angen cymryd mwy o ofal wrth ddylunio a dewis defnyddiau ar gyfer gwaith newydd, addasiadau a gwaith trwsio i sicrhau bod cynllun yn cadw neu’n gwella diddordeb arbennig ardal.

Rheoliadau cynllunio mewn ardaloedd cadwraeth

Er mwyn hwyluso’r gwaith o reoli ardal gadwraeth, mae rheoliadau cynllunio mwy llym yn bodoli, ac mae’r rheoliadau hyn yn cynnwys y canlynol:

Hawliau datblygu gwahanol a ganiateir

Mae’r rhain yn gymwys i dai annedd mewn cysylltiad ag estyniadau, newidiadau ac estyniadau i doeau, gosod ffenestri mewn toeau, tynnu simneiau, defnyddio cladin ac inswleiddio waliau allanol, gosod decin, llwyfannau ac ardaloedd amgaeedig, gosod offer solar a thermal a lleoliad dysglau lloeren.

Rheolaeth dros ddymchwel

Er mwyn dymchwel rhai adeiladau yn gyfan gwbl mewn ardal gadwraeth, mae’n rhaid cael caniatâd ardal gadwraeth. Rhaid cael y caniatâd hwn hefyd i ddymchwel unrhyw gât, ffens neu ddull amgáu arall sydd dros 1 metr o uchder wrth ymyl priffordd, dyfrffordd neu fan agored, neu sydd dros 2 fetr o uchder mewn unrhyw fan arall.

Torri coed

Os ydych yn bwriadu torri a thocio coed â diamedr coesyn o 75 mm neu fwy, wrth eu mesur ar 1.5 metr o’r ddaear, mewn ardal gadwraeth, mae’n ofynnol i chi roi o leiaf chwe wythnos o rybudd i ni (yr awdurdod cynllunio lleol). Mae methu gwneud hyn yn drosedd a gall arwain at ddirwyon sylweddol i’r rheini sy’n gysylltiedig yn dilyn erlyniad llwyddiannus.

Cyfarwyddiadau Erthygl 4 (2)

Cyfarwyddyd cyfreithiol yw hwn a wneir o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Mae’n ein galluogi ni (fel yr awdurdod cynllunio lleol) i gael rheolaeth ychwanegol dros fân ddatblygiadau ac addasiadau i dai annedd, drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno ceisiadau cynllunio ffurfiol.

Gall newidiadau tameidiog ar raddfa fach achosi’r niwed mwyaf i gymeriad a golwg ardal gadwraeth.

Trwy ddileu rhai hawliau datblygu a ganiateir, mae cyfarwyddiadau erthygl 4(2) yn cynnig mwy o amddiffyniad i’r elfennau sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig yr ardal drwy reoli mân ddatblygiadau a fyddai fel arall yn cael eu caniatáu heb ganiatâd penodol (gall datblygiadau o’r fath erydu’r cymeriad yn raddol os byddant yn cael eu gwneud mewn ffordd anghydnaws).

Diben y cyfarwyddyd felly yw sicrhau bod addasiadau i flaenolwg annedd sy’n wynebu priffordd, llwybr, dyfrffordd neu fan agored yn cael eu gwneud mewn ffordd sy’n gydnaws â chymeriad arbennig yr ardal.

Lle mae cyfarwyddyd erthygl 4(2) yn weithredol, mae rheoliadau cynllunio ychwanegol yn gymwys. Mae’n rhaid cael caniatâd cynllunio felly ar gyfer yr addasiadau canlynol lle byddai’r gwaith yn wynebu priffordd, llwybr, dyfrffordd, neu fan agored:

  • Ehangu tai annedd gan gynnwys codi adeileddau neu osod arwynebau caled o fewn eu cwrtil
  • Newid defnyddiau waliau allanol tai annedd, gan gynnwys drysau allanol, ffenestri, fframiau ffenestri, cafnau dŵr ac ati, ac eitemau allanol eraill a phaentio’r eitemau hynny (ac eithrio eu hailbaentio â’r un lliw)
  • Unrhyw addasiadau eraill i ffenestri a drysau allanol tai annedd
  • Unrhyw addasiadau eraill i doeau tai annedd, gan gynnwys simneiau (gan gynnwys gosod ffenestri yn y to)
  • Gosod antenau lloeren ar dai annedd neu o fewn eu cwrtil
  • Addasu neu ddymchwel waliau terfyn, neu unrhyw ddull amgáu arall

Cyfarwyddiadau Erthygl 4(2) ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Ar hyn o bryd mae 12 cyfarwyddyd erthygl 4(2) yn weithredol mewn 11 ardal gadwraeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Y rhain yw:

  • Bangor Is-coed
  • Cefn Mawr
  • Y Waun
  • Fairy Road
  • Gerald Street (yn ardal gadwraeth Grosvenor Road)
  • Grenville Terrace (yn ardal gadwraeth Rhiwabon)
  • Holt
  • Owrtyn
  • Dyfrbont Pontcysllte
  • Rossett
  • Rhiwabon
  • Salisbury Park

Gwneud cais cynllunio am waith a reolir o dan gyfarwyddyd erthygl 4(2)

Rydym bob amser yn eich cynghori chi i drafod eich cynigion gyda’n hadran gynllunio cyn cyflwyno cais. Efallai bydd ein gwasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais yn ddefnyddiol i chi, yn enwedig os oes angen gwybodaeth fwy arbenigol arnoch cyn cyflwyno cais cynllunio.

Gallwch wneud cais cynllunio ar-lein drwy Porth Cynllunio Cymru.

Nid oes ffi am geisiadau sy’n ofynnol o ganlyniad i gyfarwyddyd erthygl 4(2) yn unig.