Mae’r llygryddion aer canlynol yn cael eu mesur yn y Fwrdeistref Sirol.

Nitrogen Deuocsid (NO2) ac Ocsid Nitrogen (NOx)

NOx yw'r term am Ocsid Nitrogen ac yn cynnwys Nitrogen Ocsid (NO) a Nitrogen Deuocsid (NO2).

Nid yw Nitrogen Ocsid yn cael ei ystyried yn niweidiol i iechyd ond unwaith y mae wedi cael ei ryddhau i’r atmosffer mae’n cael ei ocsideiddio gan ffurfio NO2. Ystyrir NO2 yn niweidiol i iechyd ac felly caiff ei reoleiddio.

Y brif ffynhonnell o NO yw cerbydau a phrosesau hylosgiad diwydiannol.

Y prif bryderon iechyd o ddod i gysylltiad i lefelau uwch o NO2 yw poen yn yr ysgyfaint ac ymwrthedd llai i heintiau anadl. Gall dod i gysylltiad am amser hir achosi cynnydd mewn salwch anadl aciwt mewn plant.

Mae monitro parhaus yn Sir Wrecsam wedi dangos bod y lefelau o NO2 yn is na’r targedau fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru), ac yn debygol o aros felly.

Sylffwr Deuocsid (SO2)

Mae Sylffwr Deuocsid (SO2) yn cael ei gynhyrchu pan fydd sylffwr sy’n cynnwys tanwydd (glo neu olew trwm fel arfer) yn cael ei losgi.

Prif ffynhonnell y DU yw gorsafoedd trydan sy’n dal i losgi’r tanwyddau ffosiledig. Gall llosgi glo domestig hefyd arwain at lefelau uchel o SO2 ar lefel leol.

Y prif bryder o ran iechyd ar ôl dod i gysylltiad â SO2 yw i’r rhai sy’n dioddef o asthma. Mae tyndra yn y frest a phesychu’n digwydd pan fydd lefelau’n uchel, a gall amharu ar weithrediad ysgyfaint pobl gydag asthma i’r graddau fod angen cymorth meddygol.

Ystyrir llygredd SO2 yn fwy niweidiol pan gyfunir â lefelau uchel o fathau eraill o lygredd aer.

Mae monitro parhaus y Sir Wrecsam wedi dangos bod y lefelau o SO2 yn is na’r targedau fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru), ac yn debygol o aros felly.

Gronynnau Mân (PM10/ PM2.5)

Term yw gronynnau mân sy’n cwmpasu popeth o ran amrywiaeth eang o ddeunyddiau sy’n deillio o amrywiaeth o ffynonellau:

  1. Ffynonellau ymlosgiad (traffig y ffyrdd yn bennaf)
  2. Gronynnau eilaidd, sylffad a nitrad yn bennaf, sy’n cael eu ffurfio trwy adweithiau cemegol yn yr atmosffer, ac yn aml cael eu cludo o bell ar draws Ewrop
  3. Gronynnau bras, priddoedd mewn daliant a llwch (er enghraifft o’r Sahara), halen y môr, gronynnau biolegol a gronynnau o waith adeiladu

Caiff maint gronynnau mân eu disgrifio mewn nifer o wahanol ffyrdd, gyda PM10 yn cyfeirio at ronynnau gyda diamedr erodynamig o 10 µm (h.y. 10 miliynfed o fetr).

Mae strategaethau ansawdd aer wedi canolbwyntio ar PM10 oherwydd ei effeithiau ar iechyd, er bod diddordeb yn cynyddu mewn PM2.5 hefyd.

Mae gronynnau mân yn gallu treiddio’n ddwfn i’r ysgyfaint lle gallent achosi llid a gwaethygu cyflwr pobl gyda chlefydau’r galon a’r ysgyfaint. Gallent hefyd gludo cyfansoddion carsinogenig a amsugnwyd o arwynebau i’r ysgyfaint.

Mae monitro parhaus yn Sir Wrecsam wedi dangos fod y lefelau o PM10 yn is na’r targedau a amlinellir yn y Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru).

Sut ydym yn mesur llygredd aer

Rydym yn monitro llygredd aer yn Sir Wrecsam mewn dwy ffordd, awtomatig ac â llaw.

Monitro Awtomatig

Mae tair gorsaf monitro awtomatig yn Sir Wrecsam: 

  1. Ffordd Fictoria – mae'r orsaf hon yn rhan o Rwydwaith Gwledig a Threfol Awtomatig (AURN) sydd yn rhwydwaith o orsafoedd Ansawdd Aer sydd yn cyflenwi'r DU. Mae’r orsaf yn monitro Ocsidau Nitrogen (NOx), Sylffwr Deuocsid (SO2) a Mater Gronynnol (PM10 a PM2.5) yn barhaus. 
  2. Lôn Lwyd, Y Waun – rydym yn berchen ac yn cynnal a chadw’r orsaf hon. Mae’n monitro Ocsidau Nitrogen (NOx), Cyfansoddion Organig Anweddol (VOCs) a Mater Gronynnol (PM10 a PM2.5) yn barhaus.
  3. Ysbyty Cymuned y Waun, Y Waun – rydym hefyd yn berchen ac yn cynnal a chadw’r orsaf hon. Mae’n monitro yr un llygryddion â safle Lôn Lwyd.

Gallwch ddod o hyd i fanylion ynghyd â mesuriadau lefelau ansawdd aer presennol ac yn y gorffennol ar gyfer yr holl safleoedd hyn ar wefan Ansawdd Aer yng Nghymru.

Monitro heb fod yn awtomatig

Rydym yn cyflawni gwaith monitro nad yw’n awtomatig o NO2 gan ddefnyddio tiwbiau trylediad. Mae’r rhain yn ffordd syml a chost effeithiol i fesur llygryddion dros gyfnod o amser (un mis fel arfer).

Mae’r tiwbiau trylediad yn cael eu hagor dros y fwrdeistref sirol bob mis, ac yna’n cael eu hanfon i labordy annibynnol ar gyfer eu dadansoddi. Gallwch ddod o hyd i rai o’r canlyniadau ar wefan Ansawdd Aer Cymru (dolen gyswllt allanol)

Lle rydym yn mesur llygredd aer

Rydym yn mesur llygredd aer mewn nifer o leoliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y dangosir ar y map yn y ddolen isod.