Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol yn hysbysu’r prynwr o safonau hylendid y safle bwyd er mwyn eu cynorthwyo i ddewis ble i fwyta neu siopa.

Dan y cynllun, mae lleoliadau bwyd, megis bwytai, safleoedd prydau parod a thafarndai, yn cael eu harchwilio gan ein Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd i wirio bod eu safonau hylendid yn bodloni’r gofynion cyfreithiol.

Mae’r safonau hylendid a ddarganfyddir o'r archwiliadau hyn yn cael eu sgorio ar raddfa'n cychwyn ar 0 (gwelliannau brys yn angenrheidiol) i 5 (da iawn) yn dilyn archwiliad hylendid bwyd heb rybudd.

Mae’r sgôr yn adlewyrchu’r safonau hylendid bwyd ar ddiwrnod yr archwiliad (nid yw’n ganllaw i safon y bwyd).

Archwiliad

Yn ystod archwiliadau, bydd swyddogion yn gwirio pa mor dda mae’r busnes yn bodloni’r gyfraith drwy edrych ar yr holl ffactorau canlynol:

  • Pa mor lân y caiff y bwyd ei drin - sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
  • Cyflwr strwythur yr adeiladau – glanweithdra, y cynllun, goleuadau, awyru a chyfleusterau eraill
  • Sut mae’r busnes yn rheoli ac yn cofnodi'r camau a gymerir i sicrhau fod bwyd yn ddiogel
  • Hyfforddiant diogelwch bwyd

Bydd yr holl sgorau yn cael eu hanfon i weithredydd y busnes bwyd o fewn 14 diwrnod o’r archwiliad.

Beth mae’r sgorau yn eu golygu

0 - Angen gwella ar frys
1 - Angen gwella yn sylweddol
2 - Angen gwella
3 - Boddhaol ar y cyfan
4 - Da
5 - Da iawn

Os na ddyfernir y sgôr uchaf, bydd y swyddog yn egluro i’r busnes pa welliannau sydd eu hangen i gyflawni’r sgôr uchaf o ‘5’. Dylai unrhyw fusnes allu cyrraedd y sgôr uchaf.

Oes rhaid i fusnesau arddangos eu sgôr?

Oes – Mae’n ofynnol dan gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sgorau mewn lle amlwg (fel y drws ffrynt, mynedfa neu ffenestr y busnes). Rhaid i holl fusnesau yng Nghymru ddarparu gwybodaeth ar eu sgorau yn llafar oes y gwneir cais amdano yn bersonol neu dros y ffôn.

Mae’r cynllun yn gymwys i fusnesau sy’n gwerthu i fusnesau, gan gynnwys cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr bwyd.

Rhaid i safleoedd prydau parod gynnwys datganiad dwyieithog ar bamffledi / taflenni bwydlen, yn rhoi gwybod i’r prynwyr lle i ddod o hyd i fanylion sgôr ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Apeliadau

Gellir gwneud apêl i’n Swyddog Arweiniol Bwyd o fewn 21 niwrnod o’r hysbysiad sgôr (gan gynnwys gwyliau banc a phenwythnosau). Os ydych yn apelio o fewn yr amser hwn bydd gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos bod eich sgôr hylendid bwyd yn ‘aros am arolygiad’.

Bydd apeliadau’n cael eu penderfynu o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r apêl gael ei wneud ac yna bydd y sgôr yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Sut i apelio

Byddwch angen cwblhau’r ffurflen apeliadau safonol, sydd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (o fewn gwybodaeth ddiogelu Cymru).

Dylid anfon y ffurflen wedi’i chwblhau at ein Swyddog Arweiniol Bwyd (bydd manylion cyswllt y swyddog yn cael eu rhoi pan gewch wybod eich sgôr).

Newid y sgôr

Os yw’r holl waith sy’n ofynnol gan y swyddog archwilio wedi’i gwblhau yn dilyn yr archwiliad cychwynnol, mae gennych hawl i wneud cais am ymweliad er mwyn sgorio’r busnes eto.

Dim ond un cais am ail-sgorio y gellir ei wneud unrhyw adeg ar ôl yr archwiliad rheolaidd cychwynnol.

Ni weithredir am dri mis ar ôl yr archwiliad cychwynnol ac mae gan y swyddog dri mis arall ar ôl y cyfnod hwn i ailymweld. Ni roddir rhybudd o flaen llaw am yr ymweliad.

Gellir rhoi sgôr newydd yn seiliedig ar y lefel o gydymffurfiad yn ystod yr ail ymweliad. Gall y sgôr fynd i fyny neu i lawr, neu aros yr un fath.

Sut i wneud cais am archwiliad ail-sgorio 

Byddwch angen cwblhau ffurflen i wneud cais am archwiliad ail-sgorio Cymru, sydd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dylid anfon y ffurflen wedi’i chwblhau i’n Swyddog Arweiniol Bwyd (bydd manylion cyswllt y swyddog yn cael eu rhoi pan gewch wybod eich sgôr).

Yr hawl i ymateb

Mae ‘Hawl i Ymateb’ yn golygu y gall y gweithredydd busnes bwyd wneud sylwadau ar y sgôr a roddir.  Dyma gyfle i hysbysu cwsmeriaid o’r camau a gymerwyd i wella safonau hylendid, neu i egluro os oedd amgylchiadau anarferol ar amser yr archwiliad.

Caiff y sylwadau hyn eu harddangos ar y wefan Safonau Bwyd ynghyd â’r sgôr (oni bai bod yr ymateb yn cynnwys sylwadau sarhaus, difrïol, anghywir neu amherthnasol).

Sut i gyflwyno sylwadau ‘hawl i ymateb’

Byddwch angen cwblhau ffurflen hawl i ymateb Cymru, sydd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dylid anfon y ffurflen wedi’i chwblhau i’n Swyddog Arweiniol Bwyd (bydd manylion cyswllt y swyddog yn cael eu rhoi pan gewch wybod eich sgôr).

Rhagor o wybodaeth

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth i brynwyr ac i fusnesau am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Cysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd