Os ydych chi’n gwneud cais am Dŷ Cyngor ac os ydych chi (neu gyd-ymgeisydd neu aelod o’ch teulu) yn euog o ‘ymddygiad annerbyniol’ ar adeg y cais, bydd y Cyngor yn ystyried eich gwahardd o’r gofrestr dai.

Dyma enghreifftiau o ‘ymddygiad annerbyniol’:

  • Ôl-ddyledion rhent heb eu talu 
  • Niwsans neu boenydio wedi ei achosi gennych chi neu aelod o’ch teulu 
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi ei achosi gennych chi neu aelod o’ch teulu 
  • Collfarn am ddefnyddio’r eiddo at ddefnydd anghyfreithiol neu anfoesol

Mae’r polisi gwahardd yn berthnasol i...

  • Ymgeiswyr ar y rhestr aros – ymgeiswyr newydd, gan gynnwys cyn-denantiaid 
  • Ymgeiswyr di-gartref – bydd Rheolwr Stad y swyddfa dai y mae'r cais wedi ei atgyfeirio iddi gan Swyddog Dewisiadau Tai yn ail-asesu’r ceisiadau 
  • Ymgeiswyr sy’n gwneud cais i symud – ymgeiswyr sydd eisoes efo tenantiaeth efo ni

Beth fydd yn digwydd os wyf yn cael fy ystyried ar gyfer fy ngwahardd?

Bydd eich cais yn cael ei gofrestru a’i atal ar unwaith, hyd nes penderfynir eich gwahardd neu beidio.

O ganlyniad i natur sensitif posibl y broses, cyfrifoldeb staff tai uwch fydd ceisiadau gwahardd.

Cewch wybod yn syth bin, yn ysgrifenedig, os ydym ni’n ystyried eich gwahardd. Byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, i drafod y sail dros wahardd a’r rhesymau dros y cais.

Byddwn yn trefnu ac yn cynnal y cyfweliad dim hwyrach nag 14 diwrnod ar ôl anfon y llythyr cyntaf.

Byddwn yn cynnal y cyfweliad fel rheol yn y swyddfa dai lle mae’ch cais wedi ei gofrestru. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n mynychu’r cyfweliad gan ei fod yn gyfle i chi ddatgan yr achos.

Casglu tystiolaeth ac ymchwilio

Byddwn yn gwirio unrhyw ymddygiad annerbyniol gyda’r sefydliadau a’r bobl berthnasol. Os bydd eich cais yn cael ei dderbyn ar gyfer y gofrestr dai ar ôl yr ymchwiliad hwn, byddwn yn ysgrifennu atoch chi i’ch hysbysu.

Fodd bynnag, os ydym ni’n fodlon y dylid gwahardd eich cais yna bydd hynny’n cael ei wneud gan Reolwr y Stad neu, yn ei absenoldeb, Uwch Swyddog Tai. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi ynglŷn â’r gwaharddiad, gan nodi’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

Bydd pob penderfyniad i wahardd yn seiliedig ar haeddiant unigol pob achos, ar ôl casglu’r dystiolaeth briodol a chynnal ymchwiliadau priodol.

Byddwn yn anfon llythyr atoch chi ynglŷn ag a ydym yn bwriadu parhau â'r cais i wahardd a byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi am unrhyw oedi tebygol yn y broses o wneud cais am waharddiad.

Sut y gwneir y penderfyniad i wahardd?

Wrth ystyried gwahardd cais, rydym ni’n dilyn cod canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn defnyddio’r prawf tri cham canlynol...

1) Pan fo tystiolaeth o ymddygiad annerbyniol, a oedd yn ddigon difrifol i gael ‘Gorchymyn Meddiant Llwyr’?
2) A yw/oedd yr ymddygiad yn ddigon difrifol i olygu fod yr ymgeisydd neu aelod o’r aelwyd yn anaddas i fod yn denant?
3) Mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn dal yn anaddas ar adeg y cais.

Does dim rhaid i chi, fel yr ymgeisydd, fod yn Denant i'r Cyngor ar adeg yr ymddygiad annerbyniol (gall fod yn ymwneud â thenantiaeth bresennol neu flaenorol yn eich enw chi neu aelod o'ch teulu).

Y ffactor ar gyfer penderfynu yw a fyddai’r Cyngor wedi gallu hawlio Gorchymyn Meddiant Llwyr, pe bai’r ymgeisydd yn denant diogel dan yr amgylchiadau hynny. Mae derbyn Gorchymyn Meddiant Llwyr yn golygu eich bod chi wedi derbyn dyddiad gan y Llysoedd i adael eich cartref.

Os ydych chi’n ymgeisydd a ninnau’n ystyried eich gwahardd, byddwch yn cael eich hysbysu trwy gydol y broses.

Os byddwn yn penderfynu eich eithrio oddi ar y gofrestr tai, gallwch ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad i’ch eithrio.

Cais am adolygu penderfyniad

Mae rhwydd hynt i chi ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad ynglŷn â chymhwysedd i ymuno â’r gofrestr dai, os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gallu profi newid a gwelliant mewn ymddygiad.

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos bod eich ymddygiad wedi gwella, yn ogystal ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol a all brofi eich bod chi rŵan yn denant addas.

Sut ydw i’n gwneud cais am adolygu penderfyniad?

Mae’n rhaid i gais ar gyfer adolygu penderfyniad gael ei wneud o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

I wneud cais am adolygiad bydd arnoch chi angen llenwi ffurflen ‘Cais am Adolygiad’ (a fydd ynghlwm wrth y llythyr y byddwch chi’n derbyn yn cadarnhau eich bod wedi eich gwahardd) a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y llythyr.

Byddwn wedyn yn trefnu cyfarfod adolygu, a byddwch yn derbyn gwahoddiad i’w fynychu.

Cyfarfodydd adolygu

Mae’r Panel Adolygu yn cynnwys uwch aelodau o staff. Byddant yn cwrdd â chi ac yn rhoi cyfle i chi ddatgan eich achos. Gallwch hefyd ofyn i aelod o’ch teulu, neu gynrychiolydd arall, ddod efo chi i’r cyfarfod.

Bydd y Panel Adolygu yn ystyried unrhyw dystiolaeth neu amgylchiadau newydd yn ymwneud â'ch achos.

Sut byddaf yn cael gwybod am ganlyniadau’r adolygiad?

Byddwn yn ystyried pob cais ac yn ysgrifennu atoch chi os yw'r panel yn penderfynu bod y gwaharddiad yn dal yn berthnasol neu os yw'ch cais wedi ei dderbyn ar y gofrestr dai.

Mae gennych chi hawl ail-ymgeisio am dŷ os ydych chi’n teimlo bod eich ymddygiad neu’ch amgylchiadau wedi newid, fodd bynnag mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth.

Rhesymoldeb

Pan fyddwn yn penderfynu gwahardd cais, byddwn yn ystyried amgylchiadau personol pob ymgeisydd – gan fod Cod Canllawiau Llywodraeth Cymru yn deud bod cael polisi sy’n nodi bod pob ymgeisydd sydd wedi ei droi allan yn y gorffennol (am un o’r rhesymau yn ôl disgresiwn) yn anaddas yn anghyfreithlon.

Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw anghenion iaith, mynediad neu gyfathrebu wrth gysylltu ag ymgeiswyr a threfnu cyfweliadau.

Mae Polisi Gwahardd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn seiliedig ar ofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 a Chod Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd.