Mae’r Sector Cyhoeddus yn y DU yn cynnwys cynghorau lleol, y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau brys a sefydliadau sydd yn darparu addysg bellach ac uwch, er enghraifft.

Mae gan bob maes o'r sector cyhoeddus gyllideb sylweddol i brynu unrhyw nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen.

Mae bron pob busnes (newydd a sefydledig) yn cael y cyfle i ennill gwaith gyda’r sector cyhoeddus drwy hysbysiad contract a elwir yn ‘dendr agored’.

Os yw eich busnes yn gymharol fach mewn maint, nid yw hyn yn golygu na fydd modd i chi gystadlu gyda busnesau mwy i ennill contract i ddarparu nwyddau neu wasanaethau.  

Pam cyflenwi'r sector cyhoeddus?

Mae llawer o fanteision i gyflenwi i sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys:

  • helpu i warantu gwaith (a allai helpu eich busnes i dyfu)
  • risg lleiaf posibl (mae sefydliadau sector cyhoeddus yn gweithio’n unol â chanllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn deg, yn agored ac yn onest â chyflenwyr)
  • taliadau prydlon (a all helpu eich busnes o safbwynt llif arian)
  • gwella canfyddiad darpar gleientiaid o'ch busnes

Dod o hyd i gyfleoedd a chontractau tendro sector cyhoeddus 

Os hoffech chi ennill gwaith gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru gallwch nodi cyfleoedd ar borth contractau GwerthwchiGymru. Yma hefyd gallwch gofrestru i glywed am gyfleoedd tendro sydd o ddiddordeb i chi pan fydd rhai ar gael.

Mae ein hadran gaffael yn rheoli contractau a ddyfernir gan Gyngor Sir Wrecsam. E-bost: procurement@wrexham.gov.uk 

Pyrth Llywodraeth y DU+

Pyrth rhanbarthol (y tu allan i Gymru)

Pyrth penodol i sector

Pyrth contract eraill

Mae yna nifer o wasanaethau masnachol annibynnol sy’n casglu cyfleoedd contract yn y sector cyhoeddus. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

Cefnogaeth dendro