Oherwydd newidiadau i’r gyfraith tai, mae eich cytundeb tenantiaeth yn awr yn cael ei alw’n ‘gontract meddiannaeth’. Yn lle tenant, rydych yn cael eich galw’n ‘ddeiliaid contract meddiannaeth’.  Mae tenantiaid newydd yn cael eu galw’n ddeiliaid contract cychwynnol, a gelwir tenantiaid presennol yn ddeiliaid contract diogel.

Cyn dod yn ddeiliad contract meddiannaeth gyda ni (Cyngor Wrecsam) mae’n rhaid i chi lofnodi contract meddiannaeth cyn i chi symud i mewn i’ch cartref. Mae’r contract meddiannaeth yn ddogfen gyfreithiol bwysig y gellir ei chyflwyno mewn llys barn.

Mae’r contract yn disgrifio:

  • beth mae’n rhaid i’r Cyngor ei wneud (ein cyfrifoldebau ni) a beth y mae’n rhaid i ddeiliad y contract meddiannaeth ei wneud (eich cyfrifoldebau chi).
  • yr hawliau y mae’r gyfraith yn eu rhoi i ddeiliaid contractau meddiannaeth ac i’r Cyngor.
  • yr hawliau ychwanegol a allai fod gan ddeiliaid contract meddiannaeth.
  • beth all ddigwydd os bydd y contract yn cael ei dorri.

Pan fyddwch yn llofnodi contract meddiannaeth gyda ni, rydym yn gofyn i chi gytuno i amodau’r contract. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall yr hyn yr ydych yn cytuno ei wneud. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i swyddog tai egluro unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.

Nid oes angen i denantiaid diogel lofnodi eu contractau wedi’u trosi newydd.

Cyfrifoldebau

Mae arnom gyfrifoldeb i gyflawni ein dyletswyddau fel y maent wedi’u hamlinellu yn amodau’r contract, sef yn bennaf cadw eich cartref mewn cyflwr da.

Mae gennych chi sawl cyfrifoldeb hefyd, gan gynnwys talu eich rhent, sicrhau eich bod chi a’r unigolion yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn gofalu am eich cartref ac yn ymddwyn yn rhesymol - heb aflonyddu'r cymdogion.

Mae eich cyfrifoldebau chi a’n cyfrifoldebau ni wedi’u rhwymo mewn cyfraith. Mae’r amodau yn rhan o’r cytundeb cyfreithiol yr ydych yn ei wneud gyda ni pan fyddwch yn derbyn eich contract meddiannaeth. Dylech gadw copi ohonynt mewn lle diogel gyda’ch contract meddiannaeth.

Os byddwch chi’n torri amod

Efallai y byddwn yn cymryd camau i derfynu eich contract meddiannaeth ac yn gwneud cais i’r llys i’ch symud chi o’ch cartref. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwn yn gwneud cais i’r llys am waharddeb, sy’n golygu y gall y llys roi gorchymyn i chi gadw at amodau eich contract meddiannaeth. Mewn rhai amgylchiadau penodol, efallai y cawn waharddeb i’ch atal rhag bod yn yr eiddo neu unrhyw ardal arall a nodir yn y gwaharddeb.

Os ydych yn ddeiliad contract meddiannaeth ar y cyd, gallwn orfodi’r amodau yn erbyn y ddau ddeiliad contract ar y cyd neu’n unigol.

Mathau o Gontract

Bydd ‘contract cychwynnol’ yn berthnasol i breswylwyr newydd ac yn para am y 12 mis cyntaf (y cyfnod treialu neu brawf). Os nad oes problem gyda’r contract yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn dod yn ‘gontract diogel’ yn awtomatig flwyddyn i’r dyddiad pan ddechreuodd y contract. Bydd gan ddeiliad y contract meddiannaeth wedyn holl hawliau a chyfrifoldebau deiliad contract diogel.

Mae gan ddeiliaid contract cychwynnol lai o hawliau na deiliaid contract diogel ac mae’n haws eu troi o’u cartrefi.

Bydd eich contract meddiannaeth yn dweud wrthych os ydych yn ddeiliad contract cychwynnol neu ddiogel.