Cyngor i’ch helpu i hawlio budd-daliadau y gallwch fod â hawl iddynt

Image
safon ansawdd cyngor

Mae'r Uned Hawliau Lles yn darparu cyngor a chynrychiolaeth ynglŷn ag unrhyw fater sy’n ymwneud â budd-daliadau lles, gan gynnwys taliadau nawdd cymdeithasol a chredyd treth.

Gall unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Wrecsam ffonio’r Llinell Gyngor Hawliau Lles i gael cyngor a gwybodaeth. Ein nod yw ateb ymholiadau mewn modd clir a defnyddiol o fewn 24 awr.

Rydym yn cynnig gwasanaeth gwaith achosion am ddim i rai grwpiau o gleientiaid. Fel arfer mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi gael rhyw fath o gyswllt neu gymorth gan Ofal Cymdeithasol Oedolion neu Blant. Mae gwaith achosion yn cynnwys eich helpu i hawlio, neu i herio penderfyniadau.  

Mae ffi bellach yn berthnasol i rai cleientiaid. Bydd trafodaeth ynghylch ffioedd (ble’n berthnasol) yn digwydd pan fyddwch yn cysylltu â’r Uned Hawliau Lles.

Cysylltu â’n Huned Hawliau Lles

E-bost: welfarerights@wrexham.gov.uk

Llinell Gyngor: 01978 298255 
Dydd Llun i Ddydd Gwener: 9.30am -12pm

Dolenni perthnasol