Mae'r cyfleuster chwilio hwn yn eich galluogi i chwilio drwy fynegai genedigaethau Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer y blynyddoedd 1837 i 1950. Mae'r canlyniadau'n dangos enw, rhanbarth cofrestru a chyfnod y digwyddiad.

Rhowch cymaint o wybodaeth â phosib yn y dewisiadau chwilio a chliciwch y botwm ‘Chwilio’.

Mae'r cyfleuster chwilio hwn wedi cael ei gynhyrchu o ganlyniad i gydweithio rhwng Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd (dolen gyswllt allanol) a swyddfa gofrestru Wrecsam er mwyn sicrhau bod mynegai o'r cofnodion hyn ar gael ar-lein yn hawdd.

  • Yn swyddfa gofrestru Wrecsam, y Cofrestrydd Arolygol sy’n gyfrifol am gadw holl gofrestrau geni, marwolaeth a phriodasau yn ddiogel ers 1 Mehefin 1837 (dyma pryd ddechreuodd cofnodion swyddogol o enedigaethau, marwolaethau a phriodasau yng Nghymru a Lloegr).
  • Cafodd Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd ei sefydlu ym 1980, a nawr mae mwy na 1100 o aelodau'n fyd-eang.
  • Mae’r Gymdeithas yn aelod o Ffederasiwn Cymdeithasau Hanes Teuluoedd a Sefydliad Cymdeithasau Hanes Teuluoedd Cymru.