Daeth ein Safonau’r Gymraeg i rym yn 2016 gan ddisodli’r Cynllun Iaith Gymraeg. Cyflwynwyd y safonau hyn fel rhan o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’u pwrpas oedd gosod lefel gyson o wasanaeth y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl ei derbyn yng Nghymru. 

Drafftiwyd y safonau gyda’r nod o:

  • wella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yng Nghymru
  • cynyddu defnydd pobl o wasanaethau Cymraeg
  • rhoi gwybod yn glir i gyrff cyhoeddus beth sydd angen iddyn nhw ei wneud o ran y Gymraeg
  • sicrhau lefel briodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sector.

Drwy’r mesur hwn hefyd y crëwyd rôl Comisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Mae dwy egwyddor sy’n sail i waith y Comisiynydd:

  1. Yng Nghymru, ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
  2. Dylai pobl Cymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Dogfennau

Mae'r ddogfen ‘Safonau'r cyngor' yn rhestru'r holl safonau y mae'n ofynnol i ni (y cyngor) gydymffurfio â nhw.

Y Gymraeg – wnaethon ni rywbeth o’i le?

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Ond, rydym yn deall efallai y bydd adegau pan na fyddwn yn bodloni eich disgwyliadau neu efallai y gwelwch wallau gennym o ran y Gymraeg.

Os  mai dyma’r achos, rydym eisiau clywed gennych! Gallwch adrodd am unrhyw fethiant posibl gan y cyngor i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg drwy gwblhau ein ffurflen cwyno Iaith Gymraeg.

Byddwn yn ystyried eich adroddiad yn llawn ac yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn cael ei wneud i ddelio â’r mater. Os ydych yn dal yn anfodlon, mae gennych hawl i gwyno drwy’r weithdrefn cwynion corfforaethol.

Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a amlinellir yn ein Hysbysiad Cydymffurfiaeth Terfynol. Dyma grynodeb o’r hyn y mae’r cyngor wedi ymrwymo i’w wneud er mwyn cydymffurfio â’r Safonau a rhoi cyfle cyfartal i’n cwsmeriaid i gyfathrebu gyda ni naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Adroddiadau

Adroddiad ar ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg - 4 Mehefin 2020

Lluniwyd yr adroddiad hwn yn unol ag adran 73 ac adran 74 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Adroddiad am ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg – 29 Awst 2019

Yn unol ag adran 77(3)(b) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Adroddiad am ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â gofyniad angenrheidiol – 24 Ionawr 2019

Cynhaliwyd yr ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol yn unol ag adran 71 ac Atodlen 10 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Adroddiad am ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg – 20 Mehefin 2018

Ymchwiliad o dan adran 71 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 o fethiant posibl i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Cysylltu â ni

cymraeg@wrexham.gov.uk