Mae’r Angel Cyllyll, neu’r ‘Cerflun Cenedlaethol yn Erbyn Trais ac Ymddygiad Ymosodol’, yn waith celf teithiol a ddaeth i Wrecsam fis Hydref 2022. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau trosedd a thrais yn y gymdeithas – yn enwedig troseddau â chyllyll.

Cwblhawyd yr Angel yn 2018 gan artist, Alfie Bradley o Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt. Cynlluniwyd Bradley yr heneb i amlygu effaith negyddol ymddygiad treisgar a’r angen dybryd am newid cymdeithasol.

Image
Angel Cyllyll / Knife Angel

Ymgyrch ymwybyddiaeth

Ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru a sefydliadau partner eraill, cynaliasom ymgyrch fis i godi ymwybyddiaeth o droseddau â chyllyll i gyd-fynd ag ymweliad yr Angel Cyllyll. Roedd arnom ni eisiau mynd i’r afael â phryderon trigolion ynghylch troseddau â chyllyll a thrais, yn ogystal â chwalu camsyniadau a lleddfu ofnau pobl yn ein cymunedau. 

Cynaliasom ddigwyddiadau gwybodaeth ger yr Angel Cyllyll, a sesiynau addysgol mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid, yn ogystal â chynhyrchu llyfryn addysgiadol i bobl ifanc. 

Hefyd, lansiodd Senedd yr Ifanc ymgyrch yn erbyn troseddau â chyllyll lle cytunodd sefydliadau partner i barhau â’u gwaith yn erbyn troseddau â chyllyll yn dilyn ymadawiad yr Angel Cyllyll. 

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae gostyngiad wedi bod yn nifer y troseddau â chyllyll ac mae troseddau o’r fath yn dal yn isel yn Wrecsam. Ein nod yw parhau i ddarparu sicrwydd bod cymuned Wrecsam yn lle gwych, yn ogystal â diogel, i fyw a gweithio ynddo.

Dolenni perthnasol