Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r toiledau ar gau, ond gallwch fynd i archwilio’r goedwig a’r cefn gwlad yn nyffryn cyfagos Clywedog. Mae’r ardal o gwmpas yr hen felin ŷd yn lleoliad gwych ar gyfer cerddwyr neu deuluoedd.

Mae ardal bicnic ac ardal chwarae ger y coetir hynafol sy’n rhedeg wrth ochr Afon Clywedog. Mae Melin y Nant ar Lwybr Dyffryn Clywedog sy’n llwybr 6.5 milltir trwy gefn gwlad gogoneddus. Mae’r llwybr yn cychwyn o Byllau Plwm y Mwynglawdd ac yn rhedeg trwy Goed y Nant a Choed Plas Power, heibio i Weithfeydd Haearn y Bers, Ystad Erddig ac ymlaen i Felin y Brenin yn Wrecsam.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Codir tâl ar ymwelwyr y parc am barcio bob dydd.

Y tâl dyddiol yw £1, fodd bynnag gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim mewn unrhyw le parcio heb gyfyngiad amser.

Mae’r peiriannau talu ac arddangos wedi’u lleoli mewn mannau cyfleus yn y maes parcio. Dim ond arian parod a dderbynnir fel tâl gan y peiriannau.

Gall ymwelwyr hefyd ddewis talu trwy ddefnyddio system dalu ddi-arian JustPark.

Tocyn tymor

Gellir prynu tocyn tymor ar gyfer parcio ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Melin y Nant a Pharc Gwledig Tŷ Mawr am gost o £50 y flwyddyn.

Mae tocynnau tymor ar gael i’w prynu yng nghanolfan ymwelwyr Tŷ Mawr, canolfan ymwelwyr Dyfroedd Alun neu ar-lein trwy ein e-siop.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Melin y Nant ond mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth bob amser ac ar dennyn o fewn yr ardaloedd dynodedig sydd wedi'u harwyddo. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Cyfeillion Melin y Nant

Mae Pwyllgor ‘Cyfeillion Melin y Nant’ yn cyfarfod bob mis i drafod y parc a sut i'w reoli.

Mae Cyfeillion Melin y Nant yn gobeithio cynrychioli trigolion sy’n byw yn lleol ac ymwelwyr sy’n dod o du allan i’r ardal. Maent yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol sy'n addas i oedran, diddordebau a galluoedd pobl, yn ogystal â rolau gwirfoddoli gan gynnwys codi arian a helpu i ddarparu lluniaeth.

Mae’r grŵp yn cylchredeg gwybodaeth ac yn ymgynghori â’i aelodau yn rheolaidd, i hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau. Maent yn helpu i ddatblygu cyfleusterau Melin y Nant, codi arian ar gyfer prosiectau datblygu a chyfleoedd gwirfoddoli.

Am ragor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at countryparks@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 822780.

Cyfeiriad / cyfarwyddiadau

Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant
Ffordd Rhos y Bers
Coedpoeth
Wrecsam
LL11 3BT

Mae’r ganolfan ymwelwyr dair milltir i’r gorllewin o Wrecsam ger pentref Coedpoeth. Cymerwch y troad am Rhuthun oddi ar yr A483 ac ewch tuag at Rhuthun.  Mae'r arwyddbost am 'Melin y Nant' i'w weld ar y troad cyntaf ar y chwith ym mhentref Coedpoeth.

Fel arall gallwch ddilyn yr arwyddion am Johnstown/Rhosllanerchrugog oddi ar yr A483 ac yna arwyddion ‘Clywedog / Y Bers’. Trowch i’r chwith yn y Bers am Felin y Nant. Cynghorir bysiau i fynd i mewn i’r parc o gyfeiriad y Bers.

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)