Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Thwristiaeth yn Wrecsam

 

Thwristiaeth yn Wrecsam

Mae tref fodern, fywiog Wrecsam yn gorwedd yn rhan isaf dyffryn Afon Dyfrdwy, rhwng gwastadeddau gwyrddion Sir Gaer a bryniau Cymru ac fe'i hamgylchynir gan olygfeydd trawiadol, cefn gwlad godidog ac anheddau darluniadwy.

Mae gan y Fwrdeistref Sirol gyfoeth o atyniadau a lleoedd i ymweld â nhw. Ymysg y rhai mwyaf poblogaidd mae Eglwys y Plwyf Wrecsam a dau eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef Plas Erddig a Chastell y Waun.

Mae Eglwys y Plwyf Wrecsam yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg ac mae wedi ei chysegru i San Silyn. Mae ei phigdwr nodedig yn enwog fel un o saith rhyfeddod Cymru. Claddwyd Elihu Yale yn y fynwent. Arweiniodd ei rodd i goleg Americanaidd mewn trafferthion ariannol at sefydlu Prifysgol Yale.

I nodi’r cysylltiadau rhwng yr Eglwys a Yale, adeiladwyd copi o’r pigdwr enwog yng nghampws y Brifysgol. Mae Castell y Waun yn enghraifft wych o gaer y Gororau. Fe’i cwblhawyd yn 1310 ac mae’r castell hanesyddol, ‘Siambrau, ceginau gwynion, Simneuau brics ym min bron’, y bu Roger Mortimer yn berchennog arni bellach yn blasty godidog gydag ystafelloedd swyddogol cain, dodrefn dull Adam, tapestrïau a darluniau gwych. Mae gan y castell ardd 6 erw wedi’i lleoli mewn 500 erw o barcdir y ddeunawfed ganrif.

Mae Plas Erddig yn un o enghreifftiau gorau o ‘fywyd lawr grisiau’ ym Mhrydain. Mae’r plas diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, a leolwyd mewn ystad 1,900 erw, yn cynnig cipolwg ar fywyd pob dydd bonheddwyr y wlad yn ystod y ddau can mlynedd diwethaf. Mae cyfres o adeiladau allanol yn cynnwys cegin, golchdy, crasdai, stablau, melin lifio, efail a gweithdy saer, tra bod yr ystafelloedd swyddogol yn dangos y rhan fwyaf o ddodrefn gwreiddiol y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adferwyd yr ardd fawr â mur o’i chwmpas i’w chynllun ffurfiol y ddeunawfed ganrif ac mae’r Parc Gwledig sy’n ei amgylchynu yn le ar gyfer teithiau cerdded bendigedig.

Mae lleoedd eraill o ddiddordeb yn cynnwys Camlas enwog Llangollen, efallai mai dyma’r darn prydferthaf o gamlas yn unman, ac ychwanegir at hyn gan nodweddion mawr fel Traphont Ddwr syfrdanol Thomas Telford ym Mhontcysyllte (safle Treftadaeth Byd arfaethedig) a Thraphont Ddwr a Thwnnel y Waun.

Mae gan bentref tlws Bangor Is-coed bont wych o’r ail ganrif ar bymtheg a gynlluniwyd gan Inigo Jones.

Sefydlwyd un o fynachlogydd hynaf Prydain ym Mangor Is-coed yn y bumed ganrif ac roedd dros 2,400 o fynaich yno unwaith. Mae’r pentref hefyd yn gartref i Gae Ras dros y Clwydi Cenedlaethol ardderchog.

Mae’r cae ras cyfeillgar hwn yn un o ddau yn unig yng Nghymru ac mae mewn lle bendigedig gyda golygfeydd gwych o fynyddoedd Cymru a gorlifdir afon Dyfrdwy.

Mae llwybr Clywedog yn daith 8 milltir, sy’n mynd heibio cadwyn o leoedd diddorol fel Canolfan Treftadaeth y Bers, Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant a Phyllau Plwm Mwynglawdd.

Mae gan y Fwrdeistref Sirol lety at bob dant a phoced, o wersylla a charafanio i westai gwledig moethus, ffermdai cyfeillgar ac eiddo hunan arlwyo mewn lleoliadau bendigedig.

Mae Wrecsam yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer crwydro ac ymdeimlo â’r gorau sydd gan Ogledd Cymru i’w chynnig – o drefi gwyliau’r arfordir i Ddyffryn Clwyd ir, mynyddoedd geirwon Eryri a phleserau Dyffryn Ceiriog.

Cysylltiadau perthnasol:

Mwy Gwybodaeth Thwristiaeth | Mapiau Canol Tref Wrecsam

 
English
 

Cysylltiadau i

Treftadaeth Wrecsam
Yn Dda Ar Gyfer Busnes
Teithio a Chludiant
Wrecsam Map Canol y Dref
Twristiaeth yn Wrecsam
Hamddena
Gwynfyd y Siopwr
Y Pethe
Amgylchedd Gwyrdd
Materion Addysgol
Iechyd Da
Hanes Cyfoethog
Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint