Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Hamddena

 

Hamddena

Mae'n hawdd dewis fford iach o fyw yn Wrecsam a chymryd rhan mewn gweithgaredd rheolaidd. Mae nifer o gyfleusterau modern ledled y Fwrdeistref Sirol gan gynnwys wyth canolfan hamdden, stadiwm athletau rhyngwladol, hifer o gyrsia golff, dros 100 maes chwaraeon, Canolfan Tennis Gogledd-ddwyrain Cymru ynghyd â chanolfannau iechyd a ffitrwydd.

Mae’r Byd Dwr gyda’i do siâp cyfrwy amlwg arobryn wedi’i leoli yng nghanol y dref. Mae’r ganolfan hamdden yn cynnwys pwll nofio chwe lôn, pwll dysgwyr, reid rafftio, pwll hamdden afon araf a sba o fewn ei gyfadail nofio. Mae gan y cyfleuster hamdden cyffrous hwn ystafell ffitrwydd ac ystafell iechyd gyda chyfarpar llawn ynghyd â sawna, ystafell stêm a jacuzzi.

Ewch i weld y Lagwn Trofannol yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc sy’n le delfrydol ar gyfer y teulu i gyd. Mae’r Lagwn yn cynnwys llithrennau (Llithren Troelli 60m a Llithren Sarff i’r Plant) a pheiriant creu tonnau i ychwanegu at yr hwyl. Gall y plant fwynhau man chwarae meddal y Chwaraefa Drofannol.

Trefnir nifer o gyrsiau mewn sawl camp drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â digwyddiadau a chystadlaethau arbennig. Er enghraifft, Triathlon Wrecsam, Cystadleuaeth Lloeren y Gymdeithas Tennis Lawnt yn y Ganolfan Tennis, digwyddiadau athletau pwysig a chystadlaethau rhanbarthol tennis bwrdd, badminton, cleddyfa a karate.

Cynhelir gemau Rygbi’r Undeb a Rygbi Cynghrair rhyngwladol a gemau pêl-droed yn Stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam a chynhaliwyd gemau Cwpan y Byd ym mhob un o’r tair camp yno.

Mae’r Fwrdeistref Sirol yn gartref i Gae Ras Bangor Is-coed. Mae’r cae ras cyfeillgar hwn yn un o ddau yn unig yng Nghymru ac mae mewn man godidog ar orlifdir afon Dyfrdwy. Mae afon Dyfrdwy yn un o afonydd eog gorau Cymru.

Gallwch hwylio ar y Flash ac mae nifer o glybiau bwrddhwylio, gleidio a chrogleidio yn yr ardal.

Mae chwe pharc gwledig yn cynnig mynediad i gefn gwlad rhagorol. Gallwch fwynhau mynd am dro drwy’r coetiroedd prydferth, crwydro glannau afonydd Clywedog a Dyfrdwy neu ymweld â Thraphont Cefn a Thraphont Ddwr Pontcysyllte odidog.

Maer pob parc gwledig yn unigryw: Mae gan Barc Gwledig Dyfroedd Alun ganolfan ymwelwyr, man chwarae mawr a rhwydwaith beiciau ardderchog. Mae gan Barc Gwledig Ty Mawr gasgliad o anifeiliaid a golygfeydd gwych o Ddyffryn Llangollen; Mae Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant yn swatio mewn cwm coediog serth gyda chyfleusterau picnic ardderchog a llwybrau coetir ar hyd glannau afon Clywedog.

Parc Gwledig a Phyllau Plwm Mwynglawdd yw’r adwy i Lwybr Clywedog sy’n wyth milltir o hyd ac yn rhoi mynediad i dir cerdded rhagorol. Mae Parc Stryt Las a Pharc Gwledig Bonc yr Hafod yn gartref i’r madfall gribog fawr. Ceir golygfeydd gwych o Wrecsam a Mynydd Rhiwabon godidog os cerddwch i ben y bryn.

Pa un ai coedydd, dolydd, afonydd ynteu llynnoedd sy’n dwyn eich bryd, maent i gyd ar gael ym mharciau gwledig Wrecsam.

I’r rhai anturus mae Wrecsam yn cynnig, gyrru cerbydau gyriant 4 olwyn drwy dir garw, canwio, marchogaeth, gemau rhyfel peli paent a llawer mwy.

Dim ond taith awr mewn car o Wrecsam ac rydych ym Mharc Cenedlaethol Eryri, un o barciau cenedlaethol enwocaf a godidocaf y DU. Mae Eryri’n cynnig posibiliadau di-rif ar gyfer gweithgareddau awyr agored, ac ynghyd â gweddill Gogledd a Chanolbarth Cymru ac ardaloedd cyfagos Gogledd-orllewin Lloegr, mae’n rhaid bod yr ardal yn darparu ar gyfer pob math o weithgaredd awyr agored.

Mae Wrecsam yn cynnal Gwyl Gelfyddydau reolaidd, mae’n croesawu Rali Ceir Cymru ac mae hefyd yn gartref i wyl Wyddoniaeth Wrecsam.

Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn darparu amgylchfyd cyffrous ar gyfer astudiaeth anffurfiol a darllen adloniadol.

Mae’r llyfrgell ganolog yn Wrecsam yn darparu amrediad eang o ddeunyddiau benthyca ar gyfer pob oed a mynediad cynorthwyedig at ffynonellau gwybodaeth. Ceir hefyd rhwydwaith o lyfrgelloedd cymuned a gwasanaeth llyfrgell teithiol yn gwasanaethu pentrefi llai ac ardaloedd gwledig. Mae’r gwasanaeth cyswllt cartref ar gael i bobl sy’n gaeth i’w tai.

Mae canolfannau dysgu gydol oes yn cael eu sefydlu ym mhob llyfrgell, gan ddarparu mynediad am ddim i’r Rhyngrwyd drwy Rhwydwaith y Bobl a’r cyfle i ddefnyddio cyfrifiaduron ar gyfer astudio ac adloniant. Mae amrediad o ddeunyddiau astudio a CD-ROM au ar gael i’w benthyca a gwneud defnydd cyfeiriol ohonynt.

Ceir gwasanaethau gwybodaeth wedi’u targedu yn Llyfrgell Wrecsam, gan gynnwys gwasanaeth gwybodaeth fusnes Linell Fusnes gwerth ychwanegol, Canolfan Wybodaeth Ddemocrataidd sy’n darparu cyhoeddiadau Ewropeaidd, Seneddol, a’r Cynulliad Cenedlaethol a’r Ganolfan Wybodaeth am Blant sy’n darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr.

Cysylltiadau perthnasol:

Mwy Gwybodaeth Hamdden | LlyfrgelloeddParc Gwledig | Cerdded

 
English
 

Cysylltiadau i

Treftadaeth Wrecsam
Yn Dda Ar Gyfer Busnes
Teithio a Chludiant
Wrecsam Map Canol y Dref
Twristiaeth yn Wrecsam
Hamddena
Gwynfyd y Siopwr
Y Pethe
Amgylchedd Gwyrdd
Materion Addysgol
Iechyd Da
Hanes Cyfoethog
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint