Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Croeso i Wrecsam

 

Croeso i Wrecsam!

Mae'r adran hon yn cynnig ystod eang o wybodaeth er mwyn rhoi blas i chi ar gywyd a gwaith yn Wrecsam.

 Am Wrecsam

 

 Treftadaeth Wrecsam

 Gwybodaeth Busnes

 

 Teithio a Chludiant

 Twristiaeth

 

 Hamdden

 Siopwr

 

 Y Pethe

 Amgylchedd

 

 Addysgol

 Iechyd

 

 Hanes


Gellir cael gwybodaeth bellach ar bob un o'r pynciau a drafodir ar y wefan hon, a cheir cysylltiadau perthnasol ar bob tudalen.


Am Wrecsam

Buddsoddwyd miliynau o bunnoedd cyhoeddus a phreifat mewn ysgolion, ffyrdd, colegau, gofal iechyd a’r sector manwerthu. Trawsnewidiwyd y dref farchnad hanesyddol gyda diwydiannau sylfaenol i fod yn brif ganolfan gweinyddol, addysgol, masnachol diwylliannol a diwydiannol Gogledd Cymru.

Mae Wrecsam bellach yn atynfa heb ei hail ar gyfer chwaraeon a diwylliant, gyda’i hamgueddfeydd, rhaglenni celfyddydau, theatr a chanolfan y cyfryngau a stadia ar gyfer achlysuron chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys rygbi, pêl-droed, tennis, rasio ceffylau ac athletau.

Mae gan Wrecsam sector addysg sy’n tyfu ac sy’n cynnwys Coleg Addysg Bellach Iâl enwog ac Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru, sy’n ymgeisio am statws prifysgol ar hyn o bryd.

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam, yr ysbyty mwyaf ar un safle yng Ngogledd Cymru wedi bod trwy raglen foderneiddio helaeth sawl miliwn o bunnoedd yn ddiweddar, ac mae ei statws academaidd yn datblygu mewn cysylltiad â Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.

Mae gwaith ar fin dechrau ar theatr newydd canol y dref man eithaf y grefft ac mae Wrecsam am fod yn gartref i lethr sgïo sych cyntaf y DU gyda chyfleusterau neidio sgi maint llawn. Mae’r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda datblygwyr hefyd i ddod â gwesty moethus pedair seren Holiday Inn i’r dref.

Mae cynlluniau ar y gweill, yn ychwanegol at y can miliwn a hanner o bunnoedd a dywalltwyd i mewn i’r dref eisoes, ar gyfer gorsaf bysiau newydd gyda mannau gwerthu a hefyd ar gyfer datblygiad hamdden mawr yn agos at ganol y dref. Mae cynllun manwerthu 10 miliwn o bunnoedd, heb fod yn gwerthu bwyd, yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Hyd yn oed gyda’r adfywiad anferth mae Wrecsam wedi cadw ei swyn. Mae’r rhai hynny sy’n well ganddynt wasanaeth mwy personol wrth eu bodd o hyd gyda’r hyn y gall busnesau bychain yn unig ei roi a marchnadoedd traddodiadol, gan gynnwys Marchnad y Ffermwyr fisol.

Prif ased y Fwrdeistref Sirol yw lleoliad Wrecsam gyda’i golygfeydd gwych a’i hamgylchedd gwyrdd yng nghanol y DU.

Mae tirnod enwog arall yn Wrecsam, Traphont Ddwr wych, Thomas Telford ym Mhontcysyllte, yn ymestyn ar draws cefn gwlad gorau’r DU.

Mae’r Canllaw hwn yn rhoi rhagflas i chi o’r hyn sydd gan Wrecsam i’w chynnig, ond dim ond drwy ymweld â’r Fwrdeistref Sirol y gallwch brofi ei phrydferthwch, ei bywiogrwydd a chynhesrwydd a brwdfrydedd pobl leol wrth iddynt groesawu’r unfed ganrif ar hugain.

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint