Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Hanes Cyfoethog

 

Hanes Cyfoethog

Oddeutu 1600 CC
Gweithgaredd dyn cyn hanesyddol yn yr ardal. Datgelwyd hyn yn narganfyddiad gweddillion ysgerbwd ‘Dyn Brymbo’ mewn claddfa Oes yr Efydd ym Mrymbo yn 1958.

48 AD - 450 AD
Gweithgaredd Rhufeinig yn Wrecsam. Roedd Holt a Phlas Coch yn ffermydd mawr. Cofnodwyd enw’r dref am y tro cyntaf yn y ‘Rholiau Siecr’, fel ‘Castell Wristleha’.

1220
Y cyfeiriad cyntaf at Eglwys y Plwyf Wrecsam.

1282, 1284, 1295
Ymwelodd Edward I wrth oresgyn Cymru.

1290
Adeiladwyd Castell y Waun, cartref arglwyddi’r Gororau.

1391
Y cyfeiriad cyntaf at sefydlu marchnad a ffair yn Wrecsam.1411 Siarter i Fwrdeiswyr Holt ac fe’i cadarnhawyd yn ddiweddarach gan Elizabeth I, gan roi statws tref iddynt.

1506
Cwblhawyd Twr Eglwys y Plwyf San Silyn. Mae bellach yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

1584
Erlyn a dienyddio yr ysgolfeistr Pabyddol, Richard Gwyn, y merthyr Cymreig cyntaf dros yr achos Pabyddol.

1642
Ymwelodd Siarl I â Wrecsam Freninol.

1643
Dioddefodd Wrecsam pan ddinistriwyd chwarter y dref gan dân yn ystod y Rhyfel Cartref.

1645
Gorchfygwyd y Brenhinwyr yn Rowton Moor, ger Caer a meddiannwyd Wrecsam gan y Pengryniaid.

1645
Sefydlwyd Morgan Llwyd, tad anghydffurfiaeth Gogledd Cymru, fel Ficer Wrecsam.

1648
Ganwyd yr anfad farnwr George ‘crogwr o farnwr’ Jeffreys yn Wrecsam. Daeth Jeffreys yn enwog am ei gosbau llym yn ystod gwrthryfel Dug Mynwy yn ystod teyrnasiad Siarl II.

1720
Sefydlwyd tanerdai yn Wrecsam. Byddai Gwaith Lledr y Cambrian yn cyflenwi lledr yn ddiweddarach i rwymo’r unfed argraffiad ar ddeg o’r Encyclopaedia Britannica (1910/11) Roedd angen bron i filiwn o grwyn i wneud hyn!

1721
Bu farw Elihu Yale, cymwynaswr Prifysgol Yale yn America, a anwyd yn Wrecsam ac fe’i claddwyd ym Mynwent Eglwys y Plwyf Wrecsam.

1762
Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yn Wrecsam.
Daeth John ‘Hurt am Haearn’ Wilkinson ag amlygrwydd i Ffowndri Haearn y Bers ei dad, a’i ddilyn gyda’r gwaith mwyndoddi ym Mrymbo yn 1793.

1805
Agorwyd Traphont Ddwr enwog Thomas Telford.

1819
Canwyd yr Emyn ‘From Greenland’s Icy Mountains’ gyntaf yn Eglwys y Plwyf Wrecsam.

1820
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Wrecsam. Bu sawl ymweliad ar ôl hynny.

1833
Sefydlwyd Ysbyty cyntaf Wrecsam, o’r enw ‘The Dispensary’.

1857
Sefydlwyd Bwrdeistref Wrecsam drwy Siarter a roddwyd gan y Frenhines Victoria.

1857
Adeiladwyd Eglwys Gatholig y Santes Fair.

1858
Rhoddwyd Comisiwn Heddwch i’r dref.

1870
Cwblhawyd rhwydwaith mawr o reilffyrdd.

1872
Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Wrecsam.

1876
Sefydlwyd Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn yr Wynnstay Arms, Wrecsam.

1877
Sefydlwyd Pencadlys Swyddogol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

1880
Adeiladwyd bragdy lager cyntaf Prydain yn Wrecsam gan Ferdinand Graesser - mewnfudwr o’r Almaen.

1889
Ymwelodd y Frenhines Victoria â Wrecsam ar gyfer ei Jiwbilî Diemwnt.

1900
Agorwyd y baddonau nofio cyhoeddus cyntaf.

1910
Y sinema bwrpasol gyntaf yng Ngogledd Cymru yn agor yn Wrecsam.

1934
Tanchwa Pwll Glo Gresffordd, Medi 22. Lladdwyd 265 o ddynion.

1945
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhosllannerchrugog. Torrwyd ar ei thraws i gyhoeddi diwedd yr Ail ryfel Byd.

1946
Dyfarnwyd Rhyddid y Fwrdeistref i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

1953
Ymwelodd y Frenhines Elizabeth II â Wrecsam fel rhan o’i choroni. Enwyd Coronation Walk i ddathlu’r achlysur.

1970
Sefydlwyd Partneriaeth Gefeilldref gyda Kreis Iserlohm, Markisher Kreis, yr Almaen.

1972
Cyhoeddwyd Richard Gwyn, yr ysgolfeistr Pabyddol a’r merthyr Cymreig cyntaf dros yr achos Pabyddol, yn Sant.

1975
Sefydlwyd Athrofa Gogledd- ddwyrain Cymru gan gynnwys Coleg Technegol Sir Ddinbych a Choleg Cartrefle.

1975
Enillodd Clwb Pêl-droed Wrecsam Gwpan Cymru am yr ugeinfed tro.

1977
Ymwelodd y Frenhines Elizabeth II fel rhan o’i Blwyddyn Jiwbilî.

1985
Agorodd Duges Caint ran gyntaf yr Ysbyty Maelor newydd.

1991
Agorodd y Dywysoges Diana Ganolfan Ymwelwyr Melin y Brenin adnewyddedig.

1992
Ymwelodd y Frenhines Elizabeth II ag Owrtyn i ddathlu pen- blwydd 700 mlynedd Siarter Owrtyn.

1996
Agorwyd Ty’r Eos gan Dduges Caerloyw.

1998
Agorodd Dug Caint ail ran Ysbyty Maelor Wrecsam.

1998
Agorwyd Byd Dwr gan y Frenhines Elizabeth II a Dug Caeredin.

1999
Agorwyd dwy ganolfan siopa, Sgwâr Henblas a’r Werddon a gostiodd sawl miliwn o bunnoedd.

2001
Tywysog Cymru yn ymweld â Wrecsam i lansio Llinell Gymorth Gymunedol Wledig.

2002
Tref Dathlu Cyfnewid Baton Jiwbilî Gemau'r Gymanwlad

Cysylltiadau perthnasol:

Amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol | Pobl Enwog | Archaeoleg Wrecsam

 
English
 

Cysylltiadau i

Treftadaeth Wrecsam
Yn Dda Ar Gyfer Busnes
Teithio a Chludiant
Wrecsam Map Canol y Dref
Twristiaeth yn Wrecsam
Hamddena
Gwynfyd y Siopwr
Y Pethe
Amgylchedd Gwyrdd
Materion Addysgol
Iechyd Da
Hanes Cyfoethog
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint