Treftadaeth Wrecsam
Mae pobl wedi gadael eu hôl ar dirlun Wrecsam
drwy gydol hanes, naill ai tra'n fyw - bryngaerydd oes yr haearn - neu
wrth farw - y beddrodau Oes Efydd.
Gwnaed darganfyddiad pwysig gan weithwyr yn cloddio ffos ym mhentref
Brymbo yn 1958 a oedd profi bod gweithgaredd dynol cynhanesyddol yn yr
ardal. Roedd y dynion wedi darganfod cist gladdu Oes yr Efydd yn cynnwys
olion ysgerbwd, cyllell fflint a bicer.
Mae
Dyn Brymbo, ysgerbwd enwog Wrecsam, yn dyddio o oddeutu 1600
CC. Adferwyd ei ei wyneb yn ddiweddar a gallwch weld y canlyniadau diddorol
iawn yn Amgueddfar
Fwrdeistref Sirol, sydd newydd gael ei adnewyddu.
Gadawodd y Rhufeiniaid eu hôl yng nghanol y ganrif gyntaf OC drwy
sefydlu cymunedau ffermio ym Mhlas Coch ar Waun. Roeddent yn cynhyrchu
teiliau a chrochenwaith yn Holt ac yn mwyngloddio plwm yn Ffrith ar gyfer
yr 20fed Lleng a leolwyd yng Nghaer gerllaw.
Maer cyfeiriad cyntaf at Wrecsam iw gael yn 1161 pan soniwyd
am y castell Wristesham yn y Rholiau Siecr. Rhwng 1086 a 1277,
roedd yr ardal yn Nhywysogaeth Powys Fadog ac fei rheolwyd gan arglwyddi
Maelor o Gastell Dinas Bran.
Yn ystod yr Oesoedd Canol datblygodd y dref i fod yn ganolfan farchnad
bwysig. Mae marchnadoedd yn dal i chwarae rhan bwysig mewn bywyd lleol
bob dydd.
Cafwyd sawl ymweliad brenhinol â Wrecsam. Gwerthfawrogodd Edward
I safle milwrol manteisiol y Fwrdeistref Sirol ac ymwelodd â hi
ar sawl achlysur yn ystod goresgyniad Cymru. Ymwelodd Siarl I â
Wrecsam Freninol yn ystod y Rhyfel Cartref a thraddododd araith angerddol
o Neuadd y Sir yn y Stryt Fawr.
Daeth Wrecsam yn amlwg ddiwedd y ddeunawfed ganrif hwyr pan oedd John
Hurt am Haearn Wilkinson ai Waith Haearn Y Bers enwog
ar flaen y gad yn y Chwyldro Diwydiannol. Cymerodd Wilkinson batent ar
gyfer tyllu canonau yn 1774 a dywedir iddo gyflenwi canonau ir ddwy
ochr yn Rhyfel Annibyniaeth America!
Cynhyrchodd llawer or canonau a ddefnyddiwyd yn Rhyfeloedd Napoleona
rhan fwyaf or silindrau ar gyfer peiriannau stêm enwog Boulton
and Watt.
Golygodd
sefydlu rhwydwaith rheilffyrdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei bod
yn haws cludo nwyddau, gan roi hwb i ddiwydiannau sefydledig. Golygodd
datblygu camlesi, megis yr un y gallwch weld enghraifft wych ohoni yn
Nhraffont Pontcysyllte yn Nhrefor, bod Wrecsam yn gallu allforio ledled
y byd.
Roedd diwydiant mwyngloddio plwm helaeth ym Mwynglawdd ac arweiniodd dyddodion
clai at ddiwydiant bric, teiliau a therracotta yn Rhiwabon. Golygodd dyddodion
glo bod gweithgarwch cloddio eang yn yr ardal. Pwll Glo Gresffordd oedd
yr un mwyaf drwgenwog, lle cafwyd ffrwydrad enbyd yn 1934, gan ladd 265
o ddynion.
Bragu a thrin lledr oedd prif ddiwydiannau Wrecsam. Adeiladwyd bragdy
lager cyntaf Prydain yn Wrecsam yn 1880 gan fewnfudwr or Almaen,
Ferdinand Graesser.Cyflenwodd Gwaith Lledr y Cambrian y lledr ar gyfer
rhwymo 11eg argraffiad or Encyclopaedia Britannica (1910/11). Roedd
angen bron i filiwn o grwyn i wneud hyn!
Mae
gan bêl-droed le amlwg yn nhreftadaeth Wrecsam. Ffurfiwyd Cymdeithas
Pêl-droed Cymru yn y Wynnstay Arms yn Wrecsam yn 1876. Mae Tîm
Pêl-droed Wrecsam, syn enwog am eu hanturiaethaun curor
cewri, yn un o dimau mwyaf llwyddiannus Cymru ac maent wedi ennill Cwpan
Cymru dros ugain gwaith.
Mae mwy o wybodaeth am hanes cymdeithasol a diwydiannol yr ardal yn Amguedddfar
Fwrdeistref Sirol. Canolfan A N Palmer ar gyfer Astudiaethau Lleol ac
Archifau yw'r lle i ymchwilio i hanes teuluol a lleol.
Mae treftadaeth Wrecsam mor gyfoethog fel ei fod yn un or ychydig
leoedd yny byd i gael ei wyddoniadur arbenigol ei hun.
Cysylltiadau perthnasol:
Amgueddfar
Fwrdeistref Sirol | Pobl
Enwog | Archaeoleg
Wrecsam
|