Iechyd
Da
Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r ysbyty ar un safle
mwyaf yng Ngogledd Cymru gyda thros 700 gwely. Mae'n darparu ystod eang
o wasanaethau clinigol gan gynnwys Uned Ddamweiniau ac Argyfwng a thriniaethau
meddygol a llawfeddygol argyfwng ac wedi'u cynllunio, gwasanaethay mamolaeth
a gofal iechyd meddwl.
Mae arbenigrwydd llawdriniaethol yn cynnwys trawma ac orthopedig, wroleg
a gwaedlestrol, clust, trwyn a gwddf, offthalomeg a gynecoleg tra bod
rhewmatoleg, dermatoleg, cardioleg a meddygaeth ir henoed ymysg
yr ystod cynhwysfawr o arbenigedd meddygol a ddarperir. Mae Canolfan Iechyd
Plant newydd Wrecsam yn dod â nifer o wasanaethau plant at ei gilydd,
gan gynnwys iechyd plant, datblygiad a gwarchod.
Maer Ysbytyn allbost academaidd ar gyfer gwasanaethau arennol
Coleg Meddygaeth Ysbyty Prifysgol Cymru ac maen ymwneud ag ystod
o weithgareddau ymchwil yn Athrofa Feddygol a Chanolfan Astudiaethau Iechyd
Wrecsam gyfagos. Gerllawr Ysbyty mae Prifysgol Cymru Bangor hefyd
yn rheoli Colegau Nyrsio a Bydwreigiaeth a Radiograffeg.
Cyflawnir gweithgareddaur ysbyty gan ddatblygiad cwmnïau meddygol
a fferyllol tra arbenigol yn y Parc Technoleg cyfagos.
Mae gan Wrecsam hefyd ysbyty preifat Ysbyty BUPA Iâl, sydd
y drws nesaf i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth gyda
sefydliadau iechyd eraill i hyrwyddo iechyd gwell yn y gymuned. Maer
Cyngor hefyd wedi cydlynu cynllunio prosiectau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol
ar sector gwirfoddol i ddatblygu blaengareddau syn unigryw
i Wrecsam. Mae gan y Cyngor unedau arbennig wediu lleoli yn Ysbyty
Maelor Wrecsam gan gynnwys y Tîm Iechyd ac Anableddau Plant ar
Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Ysbyty i Oedolion.
Maer Awdurdod Lleol yn ymroddedig i gyflenwi gwasanaethau effeithiol
ac effeithlon syn cwrdd â gofynion y gymuned o ran ansawdd
a bod yn fforddiadwy. Trwy weithio gydar gymuned ai phartneriaid
maer Cyngor bob amser yn ceisio cwrdd â gofynion a disgwyliadau
ei drigolion ai gwsmeriaid.
Tyr Eos yw Hosbis a Chanolfan Gefnogi Canser Wrecsam. Maen
darparu Hosbis, a adeiladwyd yn bwrpasol, gan gynnig gofal i glaf mewn
ysbyty a chleifion allanol a chyfleusterau gofal dydd yn ogystal â
chwnsela a chefnogaeth i gleifion au teuluoedd.
Mae gofal cleifion yn rhad ac am ddim. Mae gan yr Hosbis adran 16 gwely
ar gyfer cleifion, cyfleusterau gofal dydd ar gyfer hyd at 15 claf yn
ddyddiol, ffisiotherapi a hydrotherapi, clinig cleifion allanol a lymffedema,
ynghyd â chefnogaeth cynghori, ysbrydol, ac addysgol amrywiol a
gyflenwir gan staff tra hyfforddedig ac ymroddgar.
Dawr rhan fwyaf o arian cynnal Tyr Eos o gyfraniadau gwirfoddol
ac mae ymdrechion codi arian lleol yn dangos haelioni a charedigrwydd
anhygoel pobl leol.
Cysylltiadau perthnasol:
Iechyd
Cymunedol | Sut
i gyrraedd Ysbyty Maelor | Cysylltiadau
i Ysbyty Maelor | Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru
|