Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Amgylchedd Gwyrdd

 

Amgylchedd Gwyrdd

Mae gan y Fwrdeistref Sirol, gyda'i arwynebedd o 50,500 hectar a phoblogaeth o 125,750 lawer i'w chynnig pa un a ydych yn ymwelydd, yn bresylydd neu'n fusnes yn ceisio ehangu neu adleoli.

r amgylchedd lleol yw adnodd gorau Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n rhan holl bwysig o ansawdd bywyd y trigolion ac yn natblygiad llwyddiannus mentrau diwydiannol a thwristiaeth.

Mae polisïau effeithiol a rheolaeth datblygiad sensitif yn sicrhau cydbwysedd rhwng datblygiad a gwarchod yr amgylched. Yr amcan yw sicrhau y bydd newidiadau angenrheidiol yn parchu ac yn cyfannu cymeriad yr ardal.

Mae gan ardal Wrecsam dirwedd gyfoethog gydag ardaloedd amrywiol o gefn gwlad sy’n ymestyn dros Mynydd Rhiwabon a Mynyddoedd y Berwyn at ddyffrynnoedd Dyfrdwy a Cheiriog a’r iseldir amaethyddol. Mae’r dirwedd amrywiol hon yn cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae ambell gynefin megis corsydd mawndir iseldir a rhostiroedd uwchdir yn brin yn genedlaethol. Mae cynefinoedd eraill megis coetiroedd, llynnoedd, gwrychoedd a choridorau afon, er eu bod yn niferus, yn ffurfio fframwaith amgylcheddol hanfodol y Fwrdeistref Sirol.

Mae olion archeolegol yn rhan bwysig o dreftadaeth y Fwrdeistref Sirol ac maent yn gofnod o hanes a diwylliant yr ardal leol. Maent yn bwysig am y wybodaeth maent yn eu rhoi am y gorffennol ac am eu rôl mewn addysg, hamdden a thwristiaeth.

Deilliodd Datblygiad Cynaliadwy o raglen weithredu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a gytunwyd arni gan arweinyddion y byd yng Nghynhadledd y Byd yn Rio yn 1992. Amcan y rhaglen yw gwella ansawdd bywyd i ni ein hunain ac ar gyfer cenedlaethau i ddod, drwy ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Cefnogir rhaglen Datblygiad Cynaliadwy Wrecsam gan amrywiaeth eang o fudiadau, unigolion a phrosiectau amrywiol sy’n weithredol ac maent yn cael eu datblygu o hyd. Mae busnesau, grwpiau gwirfoddol, ysgolion a cholegau a phobl leol yn archwilio ailgylchu, cludiant gwyrdd, planhigion a bywyd gwyllt lleol, Masnachu Teg, bwyta iach, clytiau go iawn ac ynni adnewyddol.

Drwy weithio’n galed byddwn yn cynorthwyo i wneud y Fwrdeistref Sirol yn le mwy gwyrdd fyth i fyw ynddi.

Cysylltiadau perthnasol:

Mwy Gwybodaeth Amgylchedd | Datblygiad Cynaliadwy | Safleoedd Aigylchu

 
English
 

Cysylltiadau i

Treftadaeth Wrecsam
Yn Dda Ar Gyfer Busnes
Teithio a Chludiant
Wrecsam Map Canol y Dref
Twristiaeth yn Wrecsam
Hamddena
Gwynfyd y Siopwr
Y Pethe
Amgylchedd Gwyrdd
Materion Addysgol
Iechyd Da
Hanes Cyfoethog
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint