Materion
Addysgol
O'r feithrinfa i'r dosbarth nos, o gyrsiau byr
i gyrsiau gradd, wrth ystyried Addysg - mae Wrecsam ar frig y dosbarth!
Mae darpariaeth addysgol dda i unigolion a chwmnïau i ddilyn eu
huchelgais dysgu a hyfforddi a chyflawni eu hamcanion gydol oes yn y Fwrdeistref
Sirol. O addysg sylfaenol i lefelau gradd a graddau uwch galwedigaethol
ac academaidd, drwy astudion ffurfiol neun anffurfiol
mae ystod eang o gyfleoedd ar gael.
Mae pob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol yn cynnig y safonau uchaf ac ystod
ehangaf o gyfleoedd cwricwlaidd ac allgyrsiol.
Mae 72 ysgol gynradd, 10 ysgol uwchradd gan gynnwys a 3 ysgol sector
arbennig. Lleolir y rhan fwyaf ohonynt yng nghanol eu cymunedau lle mae
cysylltiad cryf gydar rhieni ar teulu yn y broses addysgol.
Athrofa
Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWI) yw Coleg Cysylltiol Prifysgol Cymru Wrecsam
gyda thros 4,500 of fyfyrwyr o dros 30 gwlad. Maen brifysgol mewn
pob peth ond enw. Mae NEWI yn ymgyrchu i ennill y teitl hwn.
Maer Athrofa yn cynnig ystod eang o gymwysterau, o HND a graddau
cyntaf i raddau Meistri a PhD mewn nifer o bynciau yn y celfyddydau, astudiaethau
cymdeithasol ac iechyd, busnes a rheolaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg,
cyfrifiadureg ac addysg.
Mae gan Goleg Celf a Dylunio Gogledd Cymru, nid nepell or campws,
enw da ac maen cynnwys gweithdai a stiwdios a adeiladwyd ir
pwrpas. Mae Canolfan Ian Anderson yn cynnwys yr offer celf man eithaf
y grefft ar gyfer gwaith ffilm, teledu ac animeiddio. Maer Coleg
Celf a Dylunio yn brif gyflenwr graddedigion tra medrus ir diwydiant
ffilm a theledu yn y rhanbarth ac yn un or rhai sydd ar flaen y
gad ledled y DU.
Mae gan NEWI swyddogaeth bwysig yn y gymuned o ran ei chyfleusterau celfyddydau
a chwaraeon. Mae hefyd yn lleoliad ar gyfer dwy Ganolfan Ragoriaeth
Awdurdod Datblygu Cymru.
Mae Coleg Iâl Wrecsam, y mae cryn enw da iddo, yn un or colegau
trydyddol syn datblygu gyflymaf yng Nghymru. Ystyrir Coleg Iâl
fel sefydliad banerlong o ran safon ei waith ac maen cynnig ystod
eang o gymwysterau. Mae Coleg Iâl yn Goleg Mynediad Agored
nid yw oed yn rhwystr, syn darparu ar gyfer gwahanol oedrannau a
gallu dros 16+ oed.
Mae ansawdd a chyflawni safonau uchel yn nodweddiadu darpariaeth addysg
yn y Fwrdeistref Sirol.
Cysylltiadau perthnasol:
Mwy Gwybodaeth
Addysg | Cysylltiadau
Addysg | Cronfa
Ddata Ysgolion
|