Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Yn Dda Ar Gyfer Busnes

 

Yn Dda Ar Gyfer Busnes

Mae tirnod enwocaf Wrecsam, twr Eglwys y Plwyf San Silyn wedi bwrw ei drem dros y dref ers pum canrif ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu un o Saith Rhyfeddod Cymru'n dyst i gyfnod mwyaf deinamig Wrecsam hyd yn hyn.

Mae cwmnïau rhyngwladol enwog yn Wrecsam yn cynnwys Kellogg’s, JCB, Duracell, Tetrapak, Cadburys, Continental Can, Calypso, Owens Corning, Sharp, Hoya a Brother Industries.

Mae brwdfrydedd ac ymdrechion pobl lleol gyda chefnogaeth anferth gan yr asiantaethau sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a busnesau preifat wedi trawsnewid Wrecsam i’w wneud yn bwerdy economi Gogledd-ddwyrain Cymru a chanolfan gweithgynhyrchu amrywiol a blaengar. Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yw’r fwyaf yng Nghymru a’r drydedd fwyaf yn y DU.

Mae llawer o sefydliadau wedi buddsoddi’n sylweddol yn yr ardal. Mae’r ffaith eu bod yn dal i ffynnu a chynnal eu hymroddiad i Wrecsam yn dangos ei bod fel lleoliad yn cynnig amgylchfyd busnes y gallant lwyddo, ffynnu a theimlo’n ddigon hyderus i ehangu ac ailfuddsoddi ynddi. Mae Wrecsam o fewn dwy awr i draean poblogaeth y DU a hanner ei diwydiannau gweithgynhyrchu.

Mae lle amlwg yn yr ardal gan beirianneg, rhannau modurol, pacediadau, gofal iechyd/meddygol/ fferyllol, electroneg, ffibrau optegol/ opto-electroneg, prosesu bwyd, aer ofod, cemegolion a phlastig.

Mae llawer o gwmnïau Wrecsam ar fan eithaf crefft gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae Parc Technoleg Wrecsam yn gartref i gwmnïau uwch dechnoleg sy’n ymwneud â busnesau cyfrifiaduraeth, meddygol a fferyllol. Mae ymchwil i wyddoniaeth a thechnoleg yng Ngholeg Cysylltiol Prifysgol Cymru – Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam (NEWI), yn cyfannu gwaith y Ganolfan MedTech gyda’i chysylltiadau ag Ysbyty Maelor Wrecsam ac Athrofa Feddygol Wrecsam.

Gwyl Wyddoniaeth Wrecsam fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’r wyl, a gynhelir bob gwanwyn, yn hyrwyddo gwyddoniaeth a thechnoleg drwy lu o ddigwyddiadau diddorol, lle mae gwyddonwyr byd enwog a phobl busnes yn cyfarfod myfyrwyr a phlant ysgol ac mae’n cynnwys rhywbeth at ddant pawb.

Mae digon o unedau ffatri o safon uchel a swyddfeydd ar gael yn Wrecsam. Mae’r Fwrdeistref Sirol yn enwog am ei gweithlu aml-sgiliau a disgybledig.

Mae gan y Fwrdeistref Sirol enw da i’w genfigennu wrtho mewn cysylltiadau gwaith, cynhyrchiant a chydweithio. Ar gyfartaledd mae un cwmni newydd yn cael ei sefydlu yn yr ardal bob wythnos.

Bydd unrhyw gwmni sy’n ystyried symud i Wrecsam yn dod i wybod bod Tîm datblygu Economaidd y Cyngor yn grwp o bobl broffesiynol a fydd yn gwneud eu gorau glas i ddiwallu anghenion pawb.

Mae Wrecsam yn gartref i Wasanaeth Erlyn y Goron yng Ngogledd Cymru a Swyddfa Gogledd-ddwyrain Cymru y Gwasanaeth Prawf, sy’n cefnogi Llysoedd y Goron a Llysoedd yr Ynadon sy’n bod eisoes. Mae pencadlys Adran Gogledd-ddwyrain Cymru Heddlu Gogledd Cymru yn Wrecsam ac mae’n gwasanaethu bron i hanner poblogaeth Gogledd Cymru.

Cysylltiadau perthnasol:

Mwy Gwybodaeth Busnes | Cysylltiadau Busnes

 
English
 

Cysylltiadau i

Treftadaeth Wrecsam
Yn Dda Ar Gyfer Busnes
Teithio a Chludiant
Wrecsam Map Canol y Dref
Twristiaeth yn Wrecsam
Hamddena
Gwynfyd y Siopwr
Y Pethe
Amgylchedd Gwyrdd
Materion Addysgol
Iechyd Da
Hanes Cyfoethog
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint