|
Mae’r
ystod eang o gyfleoedd mewn Awdurdod Lleol yn golygu bod cyfleoedd i bob
mathau o bobl, gan gynnwys recriwtiaid â chymwysterau proffesiynol,
gyda phrofiad blaenorol yn y sector preifat neu gydag awdurdodau lleol
eraill.
Ar ba bynnag lefel rydych yn gweithio arni, rydym yn canolbwyntio’n
fawr ar hyfforddiant a datblygiad gyrfaol. Bydd yr holl weithwyr cyflog
yn derbyn cefnogaeth wrth weithio tuag at gymwysterau a hyfforddiant pellach
ar lefel sy’n berthnasol i anghenion unigol.
Byddwn, dan nifer o amgylchiadau’n caniatáu rhyddhau bloc
i alluogi gweithwyr, ar bob lefel, i ddilyn rhaglenni datblygu gyrfa neu
astudio am gymwysterau.
Anogir gweithwyr i weithio tuag at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol
a ellir eu gwneud yn y gweithle. Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal
ein cyrsiau hyfforddi byr ein hunain a byddwn yn noddi gweithwyr i gwblhau
cymwysterau proffesiynol yn aml.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflogi oddeutu pum mil o bobl
mewn ystod eang o swyddi. Pan ddaw swyddi gwag, byddant yn cael eu harddangos
ar y wefan hon hyd nes y dyddiad cau.
Gweler hefyd:
Gwybodaeth am ymweld, byw a gweithio yn Wrecsam
Rhithdaith 360° o Wrecsam
Ffeithiau, ffigyrau ac ystadegau allweddol am Wrecsam
|