Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cyfarwyddiadau Swyddi Gwag Ar-Lein

 

Cyfarwyddiadau Swydd Gwag Ar-Lein

Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi ddefnyddio Swyddi Gwag Ar-lein, cymerwch ychydig funudau i ddarllen y cyfarwyddiadau ar gyfer Defnyddiwr Newydd isod gan y byddant yn eich galluogi i ganfod y wybodaeth/gwasanaethau sydd eu hangen arnoch yn gynt.

Os ydych am chwilio am swydd ar unwaith, cliciwch ar y cyswllt isod:-

Rwyf eisiau Chwilio am Swydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 


Cyfarwyddiadau i Ddefnyddwyr Newydd

Cyfarwyddod

Wrth fynd i mewn i Swyddi Gwag Ar-lein i ddechrau byddwch yn gallu pori a chwilio drwy'r holl swyddi sydd ar y rhestr ar hyn o bryd. Bydd eich bar cyfarwyddo yn darllen fel a ganlyn:

Hafan Swyddi | Llofnodi i mewn

 

Er mwyn gallu defnyddio Swyddi Gwag Ar-lein yn llawn, mae'n rhaid i chi Llofnodi i mewn a bydd hyn yn eich galluogi i wneud cais ar-lein am swyddi gwag a chreu/addasu eich proffil er mwyn derbyn negeseuon ebost. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich bar cyfarwyddo yn darllen fel a ganlyn:

Hafan Swyddi | Fy Ngheisiadau Swyddi | Fy Mhroffil | Llofnodi Allan

 

^ yn ôl i'r brig

Chwilio am swydd

I ganfod swydd, teipiwch eich meini prawf i chwilio yn y blwch allweddair a dewis sut yr ydych am weld y canlyniadau oddi ar y rhestr trefnu. Cliciwch ar chwilio.

I weld yr holl swyddi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cliciwch Rhestr Gyflawn.

 

Rwyf eisiau Chwilio am Swydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

^ yn ôl i'r brig

Llofnodi i mewn

Os ydych am wneud cais am swydd ar-lein neu am gofrestru i dderbyn negeseuon ebost mae'n rhaid i chi arwyddo i mewn. Cliciwch ar y cyswllt 'arwyddo i mewn' ar frig y sgrin.

Bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos. Cliciwch ar 'Defnyddiwr Newydd, Cliciwch yma i gofrestru'.

 

Bydd angen i chi nodi eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair. Mae'n rhaid i chi gadarnhau eich cyfrinair cyn symud ymlaen i gofrestru.

Byddwch yn derbyn neges ar y sgrin eich bod wedi cofrestru ac anfonir ebost i gadarnhau hyn at y cyfeiriad ebost a ddarparwyd.

Rwyf eisiau Chwilio am Swydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

Os fyddwch yn anghofio eich cyfrinair ar unrhyw bryd, cliciwch 'Wedi Anghofio'ch Cyfrinair? Cliciwch yn y fan hon i wneud cais am un', bydd hyn yn anfon cyfrinair at eich cyfeiriad ebost.

^ yn ôl i'r brig

Fy Mhroffil / Cofrestru i Rhybudd Swyddi

I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn mae'n rhaid i chi llofnodi i mewn . Gellwch gofrestru i dderbyn negeseuon am swyddi drwy'r ebost. Cliciwch 'Fy Mhroffil' ar frig y sgrin.

Yn y fan hon bydd angen i chi nodi pa grwpiau gwaith y mae gennych ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth amdanynt, unrhyw allweddeiriau sy'n gysylltiedig â swyddi penodol, cyfnod y swydd a'r cyflog. Bydd angen i chi nodi p'un ai ydych am dderbyn neges ar yr ebost a darparu cyfeiriad ebost hefyd a nodi ym mha iaith yr hoffech dderbyn y manylion. Mae'n rhaid i chi hefyd gyflwyno eich enw yn llawn gan gynnwys eich teitl. Drwy bwyso 'Cadw' byddwch yn cofrestru am negeseuon ebost.

NODWCH: Wrth ddewis grwpiau gwaith amrywiol, mae'n rhaid i chi bwyso'r byselledd Ctrl .

Rwyf eisiau Chwilio am Swydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

^ yn ôl i'r brig

Fy Ngheisiadau Swyddi

I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn mae'n rhaid i chi llofnodi i mewn . Wrth wneud cais am swydd, gellwch gadw eich cais ar unrhyw bryd a dychwelyd ato'n ddiweddarach. I ail agor cais cliciwch ar 'Fy Ngheisiadau am Swydd' ar frig y sgrin.

Arddangosir rhestr o'r swyddi yr ydych wedi ymgeisio amdanynt. Cliciwch ar 'Golygu' i ddychwelyd at eich cais. Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais am swydd, rhestrir hyn i chi, fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu golygu'r ffurflen.

 

Rwyf eisiau Chwilio am Swydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
 
English
 

Cysylltu i:

Mynegai Gweithio
Nodiadau Cyfarwyddyd ar Gyfer Ymgeiswyr am Swyddi
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ar Gyfer Ymgeiswyr am Swyddi
Gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Chwilio am Swyddi
Gwybodaeth Cysylltu
Gofyn am Becyn Ymgeisio am Swyddi Ar-Lein
Strwythur Cyfundrefn y Cyngor
eform icon
Cofrestru am Rhybudd Swyddi

 

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint