|
Croeso i nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer ymgeiswyr swyddi
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyngor
a chyfarwyddyd defnyddiol i’ch cynorthwyo’n y broses o ymgeisio
am swydd gyda’r Cyngor.
Eich Ffurflen Gais
Mae eich ffurflen gais yn hynod bwysig. Dyma’r
unig wybodaeth y byddwn yn ei defnyddio i benderfynu a fyddwch yn cael
eich gosod ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Ni fydd unrhyw wybodaeth
flaenorol amdanoch na chais blaenorol sydd gennym yn cael ei hystyried.
Rhennir y ffurflen yn 16 rhan. Nid oes angen esboniad ar gyfer y rhan
fwyaf o’r ffurflen ac ni chynhwysir nhw yn y nodiadau hyn. Fodd
bynnag, rydym wedi cynnwys canllaw ac esboniadau ar gyfer y rhannau mwyaf
manwl, er enghraifft, y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer Deddf Ailsefydlu
Troseddwyr (1974).
Os ydych yn dymuno cwblhau ffurflen gais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu
cyfeiriad ebost a chyfrinair er diogelwch. Bydd hyn yn eich galluogi i
ddechrau cyfrif ymgeisio gyda’r Cyngor a’ch galluogi i gwblhau
eich ffurflen gais unrhyw amser cyn dyddiad cau’r swydd rydych yn
ymgeisio amdani.
Gellwch arbed eich ffurflen gais ar unrhyw adeg ac yna ailagor y ffurflen
pan fyddwch yn ymweld â’r safle, trwy arwyddo gyda’ch
cyfeiriad ebost a chyfrinair. Os byddwch wedi anghofio eich cyfrinair,
gallwn anfon un newydd atoch drwy’r ebost.
Ni chodir tâl am y cyfleuster hwn ac ni fyddwn yn defnyddio unrhyw
wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno hyd nes i chi gwblhau eich ffurflen
gais a’i hanfon i’r Cyngor.
Dalier Sylw: Nid yw anfon Curriculum Vitae yn lle cwblhau
ffurflen gais yn dderbyniol, ond mae croeso i chi atodi eich C.V. at y
ffurflen gais a gwblhawyd.
^ yn ôl i'r brig
Swydd Ddisgrifiad a Manylion yr Unigolyn
Mae gan bob swydd wag Swydd Ddisgrifiad a Manylion
yr Unigolyn.
Mae’r Swydd Ddisgrifiad yn esbonio beth yw gofynion
y swydd ac yn rhestru’r prif dasgau a dyletswyddau y mae disgwyl
i ddeilydd y swydd eu gwneud.
Mae Manylion yr Unigolyn yn nodi pa gymwysterau, sgiliau,
gwybodaeth a phrofiad a fydd eu hangen ar ddeilydd y swydd. Rhestrir y
rhain fel meini prawf ‘hanfodol’ neu ‘ddymunol’.
Bydd raid i chi gwrdd ag o leiaf y meini prawf hanfodol i gael gwahoddiad
i ddod i gyfweliad.
Rhestr Fer
Fel arfer, y rheolwr sy’n gyfrifol am y swydd sy’n penderfynu
pa ymgeiswyr a fydd yn cael gwahoddiad i fynychu cyfweliad. Gelwir y broses
hon yn ‘rhestr fer’. Os yw eich profiad, sgiliau a chymwysterau’n
cyd-fynd â’r meini prawf a nodwyd yn Manylion yr Unigolyn,
mae’n bur debyg y cewch eich cynnwys ar y rhestr fer. Ni ystyrir
y wybodaeth a nodir ar y ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal.
Y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal
Gofynnir i chi gwblhau Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal i’n helpu
ni i fonitro a gwella effeithiolrwydd ein Polisi Cyfle Cyfartal. Datgysylltir
hon oddi wrth eich ffurflen gais a’i chadw ar wahân yn gynnar
yn y broses recriwtio.
Os ydych chi’n unigolyn ag anableddau o dan ddarpariaethau Deddf
Anffafrio’r Anabl 1995 ac mae gennych y cymwysterau a’r profiad
a nodwyd yn Manylion yr Unigolyn, byddwch yn cael eich cynnwys ar y rhestr
fer yn awtomatig ar gyfer cyfweliad.
^ yn ôl i'r brig
Cwblhau’r Ffurflen Gais
1. Manylion y Swydd Wag
Cwblheir yr adran hon yn awtomatig gyda manylion y swydd wag rydych yn
ymgeisio amdani.
2. Manylion Personol
Bydd angen i ni wybod pwy ydych chi a sut gallwn gysylltu â chi.
Cwblhewch eich enw llawn, cyfeiriad, eich dewis o deitl a rhifau ffôn
cyswllt (rhif cartref, gwaith ac os yn bosibl, eich ffôn symudol.
Gofynnwn hefyd os oes gennych drwydded yrru lawn. Mae hyn yn bwysig os
yw’r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn gofyn am yrrwr cerbyd.
3. Manylion Geni/ Cenedligrwydd
Cwblhewch y manylion megis eich dyddiad geni a’ch dinasyddiaeth.
4. Manylion Cyflogaeth Bresennol
Rhowch fanylion eich swydd bresennol, gan gynnwys eich man gwaith, disgrifiad
byr o’ch dyletswyddau, pa mor hir rydych wedi gweithio yno a’ch
rheswm dros adael. Os nad oes gennych swydd ar hyn o bryd, gadewch yr
adran hon yn wag.
5. Absenoldebau o’r Gwaith
Os ydych wedi bod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch yn ystod
y tair blynedd ddiwethaf, rhestrwch y niferoedd o weithiau a chyfanswm
y dyddiau. Nid oes rhaid i chi ddweud pam eich bod yn absennol, ond mae
bwlch ar gael os ydych am nodi pam.
6. Swyddi Blaenorol
Rhestrwch eich cyflogwyr blaenorol yn ôl trefn amser, gan ddechrau
â’r diweddaraf. Cofiwch nodi teitl eich swydd ac ar gyfer
swyddi mwy diweddar, eich gradd a chyflog. Cofiwch wirio bod y dyddiadau
hyn yn gywir ac yn y drefn gywir!
7. Toriadau mewn Cyflogaeth
Unwaith eto, dylech ddechrau â’r diweddaraf, gan roi manylion
a dyddiadau unrhyw doriadau o’r gwaith am ba bynnag reswm (e.e.,
gwaith gwirfoddol, rhesymau cartref, teithio, meddygol).
8. Cymwysterau Addysgol, Proffesiynol a Galwedigaethol (diweddaraf yn
gyntaf)
Mae’n rhaid i chi ddangos bod gennych y cymwysterau hanfodol ar
gyfer y swydd. Nodwch eich holl gymwysterau, gan gynnwys y graddau/lefelau
a lle y gwnaethoch astudio amdanynt. Sicrhewch eich bod yn nodi unrhyw
gymwysterau proffesiynol (lle mae’n rhaid i chi fod yn aelod o gorff
proffesiynol – gweler Rhan 9).
Os cawsoch eich cymwysterau dramor, bydd raid i chi gael tystiolaeth
i ddangos eu bod gyfwerth â’r cymwysterau sy’n hanfodol
ar gyfer y swydd. Os bydd angen cymorth arnoch gyda hyn, ffoniwch UKNARIC
ar 01242 260010.
Gallwch ddefnyddio’r adran hon hefyd i nodi unrhyw gyrsiau hyfforddi
rydych wedi’u cwblhau a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer y swydd
hon (e.e. Hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gweithle, Cwrs Pendantrwydd,
hyfforddiant y cyflogwr).
9. Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol
Os yw’r swydd yn gofyn am gymhwyster proffesiynol fel maen prawf
hanfodol neu ddymunol ac mae’r cymhwyster gennych eisoes (neu rydych
yn astudio amdano), rhestrwch y corff aelodaeth, math o aelodaeth, teitl
eich cymhwyster a’r dyddiad yr enillwyd ef gennych.
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol na restrir yn Manylion yr Unigolyn,
gellwch ddefnyddio’r adran hon i’w cynnwys os ydych yn credu
eu bod yn berthnasol.
10. Profiad a Gwybodaeth Arall
Dyma ran bwysicaf eich cais. Ceisiwch gydweddu eich sgiliau, gwybodaeth
a phrofiad â’r gofynion a nodwyd yn Manylion yr Unigolyn.
Efallai byddai defnyddio’r meini prawf hanfodol/dymunol fel penawdau
o gymorth i chi. Nodwch eich hanes gyrfaol yn fras o dan y penawdau hyn.
Yn lle dweud eich bod wedi gwneud rhywbeth, byddai’n ddefnyddiol
ehangu ar hyn drwy roi manylion sut y gwnaethoch hyn, beth oedd yn ei
olygu a beth oedd canlyniad hyn.
11. Cofnodion Troseddol a Chyflogaeth
Os oes gennych hanes o droseddu, mae’n rhaid i’r Cyngor dderbyn
eich caniatâd i wneud cais am ddatguddiad Safonol neu Bellach o’r
Swyddfa Cofnodion Troseddol. Am wybodaeth bellach, gweler Nodiadau
Canllaw Deddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) (mae’r cyswllt hwn
yn agor mewn ffenestr porwr newydd).
12. Geirda
Bydd unrhyw ‘gynnig o gyflogaeth’ a wneir i chi yn amodol
ar eirda boddhaol.
Nodwch enw, cyfeiriad a swyddi dau ganolwr a all gadarnhau eich cymeriad
a’ch gallu. Sicrhewch mai’ch cyflogwr presennol yw o leiaf
un ohonynt (neu’r cyflogwr diwethaf os ydych yn ddi-waith).
Os nad ydych wedi cael eich cyflogi erioed o’r blaen, rhowch fanylion
athro neu ddarlithydd sy’n eich adnabod yn ddigon da i allu rhoi
sylwadau ar eich gallu i wneud y swydd.
Os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol, rydych yn newydd i’r
wlad neu nid yw’r cwmni y buoch yn gweithio iddo bellach yn bodoli,
byddai geirda gan unigolyn na fu’n gyflogwr i chi yn dderbyniol
(e.e. eich meddyg, cyfreithiwr neu gyn-athro).
Nid ydym yn derbyn geirda gan berthnasau, partneriaid neu Aelodau Etholedig.
13. Perthnasau ag Aelodau Etholedig y Cyngor
I sicrhau gwrthrychedd wrth ddewis staff, rhaid datgan unrhyw berthnasau
ag Aelodau Etholedig neu swyddogion yn yr adran hon (h.y. maent yn berthnasau
agos neu rydych yn rhannu ty â nhw).
14. Datganiad Gwarchod Data
Fel Rheolwr Data dros y Ddeddf Gwarchod Data (1998), mae Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch sut y prosesir
eich data personol a sut y gellir ei ddefnyddio.
Cyfrinachedd Gwybodaeth Bersonol
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei thrin yn gyfrinachol bob amser. Dim
ond y personél sy’n gysylltiedig â’r broses recriwtio
a dewis fydd yn gweld ei chynnwys.
Bydd rhywfaint o benderfyniadau awtomatig yn cael eu gwneud yn y broses
ddewis, fodd bynnag, panel staff sy’n gwneud y penderfyniadau recriwtio.
Os byddwch yn derbyn swydd, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw
ar gyfer pwrpasau sy’n ymwneud â’ch Cytundeb Cyflogaeth
yn unig.
Diogelwch Gwybodaeth Bersonol
Mae amddiffyniadau diogelwch yn eu lle i warchod eich manylion. Dim ond
staff personél penodol all gael mynediad ato, boed bod eich ffurflen
gais yn cael ei phrosesu gan gyfrifiadur neu â llaw.
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y manylion a roddwyd gennych
ar-lein yn cael eu dileu.
Mae’n bosibl y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonél ar gyfer
pwrpas monitro. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ynghylch diogelwch
data personol ar y ffurflen gais.
15. Datganiad
Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddod i gyfweliad, bydd raid i chi lofnodi
eich ffurflen gais â llaw fel datganiad swyddogol bod y wybodaeth
rydych wedi’i nodi’n gywir.
Mae’r ffurflen gais yn cynnwys mwy o wybodaeth ynghylch y datganiad
hwn.
16. Cyflwyno eich Cais
Sicrhewch eich bod wedi cwblhau pob adran ar y ffurflen – os nad
ydych chi, mae’n bosibl na fydd eich cais yn ddilys.
Rydym yn derbyn ceisiadau hyd at a chan gynnwys y dyddiad cau a nodwyd
ar yr hysbyseb. Sicrhewch nad yw’r dyddiad cau ar gyfer y swydd
wedi mynd heibio.
Os ydych chi’n fodlon bod eich ffurflen yn gyflawn a bod y wybodaeth
sydd arni’n gywir, rydych nawr yn barod i’w hanfon at y Cyngor.
Gellir cael manylion pellach ynghylch y cyfleuster ar-lein hwn ac eraill
(e.e. achub eich ffurflen) ar waelod y ffurflen gais hon.
^ yn ôl i'r brig
Pob lwc!
Beth sy’n digwydd nesaf?
Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais ac mae’r dyddiad cau wedi mynd
heibio, bydd y broses ganlynol yn digwydd:
Rhestr Fer – Bydd yr ymgeiswyr y mae’n ymddangos
eu bod yn gallu cyflawni’r anghenion hanfodol/dymunol a nodir yn
Manylion yr Unigolyn yn derbyn gwahoddiad i fynychu cyfweliad ffurfiol.
Gellir profi eu gwybodaeth a phrofiad ayb. yn erbyn yr ymgeiswyr eraill.
Proses Hysbysu – Mae’r dyddiad cau ar yr
hysbyseb swydd yn bwysig. Bydd yn rhoi syniad i chi pryd y dylech dderbyn
ymateb (drwy ebost) i’ch ffurflen gais neu ddyddiad cyfweliad.
Cyfweliad – Bydd y gofynion ar Manylion yr Unigolyn
yn cael eu cymharu â’r dystiolaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd.
Mae ochr dde Manylion yr Unigolyn yn cynnwys colofn “Sut y Nodwyd”
hefyd.
Gall tystiolaeth am y meini prawf hanfodol fod ar ffurf:
- Manylion ar eich ffurflen gais
- Eich ymatebion i gwestiynau a luniwyd yn benodol yn y cyfweliad
- Gweld eich Tystysgrifau Addysg/Proffesiynol
Neu ffyrdd eraill, megis:
- Cwestiwn cyflwyniadol – gan ddefnyddio testun perthnasol ar
gyfer trafod
- Profi Seicometreg, e.e. profi dawn
- ‘Ymarferion Mewnflwch' e.e. prawf teipio i fesur cyflymder a
chywirdeb
Y penderfyniad – Bydd ymgeisydd yn cael ei benodi
yn rhinwedd haeddiant.
^ yn ôl i'r brig
Gweler hefyd cwestiynau a ofynnir yn aml ar
gyfer Ymgeiswyr Swyddi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam >>
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch y swydd hon neu’r
broses y dylid ei dilyn, siaradwch â’r ‘enw cyswllt’
neu’r Adran Bersonél (rhif ffôn ar yr hysbyseb swydd).
Gweler hefyd:
Gwybodaeth am ymweld, byw a gweithio yn Wrecsam
Rhithdaith 360° o Wrecsam
Ffeithiau, ffigyrau ac ystadegau allweddol am Wrecsam
|