Ceisiadau am Swyddi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ym
mhle rydych yn hysbysebu swyddi gwag?
Alla'
i dderbyn copi o'r swydd ddisgrifiad a/neu fanylion yr unigolyn?
Alla'
i ymgeisio am swydd ar-lein?
Lle
yw'r man gorau i barcio yn Wrecsam os byddaf yn dod i adeiladau Neuadd
y Dref am gyfweliad?
Pam
mae gan y Cyngor broses mor hirwyntog i'w dilyn wrth hysbysebu swydd?
Os
ydw i am gael gwybod mwy am y swydd ym mhle/â phwy ddylwn i gysylltu?
Rydw
i wedi cwblhau fy ffurflen gais, ond ni chefais wahoddiad i ddod i gyfweliad.
Beth ddylwn i ei wneud nawr?
Gofynnwyd
i mi nodi enw a chyfeiriad dau ganolwr ar y ffurflen gais. Pam mae hyn
yn digwydd ac a fydd hyn yn effeithio ar fy sefyllfa gyda'm cyflogwr presennol?
Ym mhle fyddwch chi'n hysbysebu swyddi gwag?
Hysbysebir pob un o'n swyddi ar y wefan
hon, y ganolfan waith ac yn y wasg / mewn cyhoeddiadau lleol, rhanbarthol
neu genedlaethol, yn dibynnu ar y math o swydd.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Alla' i gael copi o'r swydd ddisgrifiad a / neu fanylion
yr unigolyn?
Gellwch, gellwch eu gweld ar ein tudalennau
swyddi gwag.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Alla' i wneud cais am y swydd ar-lein?
Gellwch, byddwch yn gallu gwneud cais am swydd wag ar-lein yn fuan iawn
– rydym bron iawn â gorffen datblygu cyfleuster ar-lein a
fydd yn eich galluogi i weld pob swydd wag, dogfennau atodol ac ymgeisio
ar lein. Bydd y cyfleuster newydd yn eich galluogi i achub eich cais a’i
gwblhau dros sawl cyfnod cyn y dyddiad cau. Byddwch hefyd yn gallu postio
copi o’ch curriculum vitae fel rhan o’ch cais.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth ynghylch y datblygiad hwn a rhai newydd,
cofrestrwch i dderbyn ein bwletinau
gwe-newyddlen.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Lle yw'r man gorau i barcio yn Wrecsam os byddaf
yn dod i adeiladau Neuadd y Dref am gyfweliad?
Gellwch chwilio am fewysydd parcio sy'n agos i Neuadd y Dref drwy edrych
ar ein map rhyn gweithiol
o ganol y dref.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pam mae gan y Cyngor broses mor hirwyntog
i’w dilyn wrth hysbysebu swydd?
Prif nod y Cyngor hwn yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel a chost effeithiol
i’r gymuned. Mae sicrhau ein bod yn cael yr unigolyn iawn yn y swydd
iawn yn ein helpu i gyflawni hyn. Rydym yn defnyddio proses strwythurol
yn seiliedig ar ‘penodi yn ôl haeddiant’ pan fyddwn
yn recriwtio a dewis staff.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Os ydw i am gael gwybod mwy am y swydd
ym mhle/â phwy ddylwn i gysylltu?
Dylech ddod o hyd i enw cyswllt, teitl swydd a rhif cyswllt ar hysbyseb
y swydd.
Bydd yr unigolyn hwn wedi bod yn gysylltiedig â nodi gofynion y
swydd a dylai allu eich cynorthwyo chi. Gall hefyd roi gwybod i chi ynghylch
sut mae eich cymwysterau yn mesur yn erbyn yr gofynion.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Rydw i wedi cwblhau fy ffurflen gais, ond
ni chefais wahoddiad i ddod i gyfweliad. Beth ddylwn i ei wneud nawr?
Os nad ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, neu os nad ydych wedi clywed
dim gennym, mae’n bosibl y byddwch am wybod pam.
Rydym yn darparu cyfleoedd i dderbyn atborth, lle gellwch drafod â
rhywun (fel arfer yr enw cyswllt ar yr hysbyseb) pam nad oeddech chi’n
llwyddiannus. Byddant yn nodi pam nad oeddent yn credu eich bod yn cwrdd
â’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Gofynnwyd i mi nodi enw a chyfeiriad dau
ganolwr ar y ffurflen gais. Pam mae hyn yn digwydd ac a fydd hyn yn effeithio
ar fy sefyllfa gyda’m cyflogwr presennol?
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd unrhyw gynigiad o swydd yn dibynnu ar
eirda ac archwiliadau meddygol boddhaol. Fodd bynnag mae lle ar y ffurflen
gais sy’n nodi eich caniatâd i ni gysylltu (neu beidio) â’ch
cyflogwr presennol am eirda ar yr adeg hon.
Os yw’r swydd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu’r henoed,
rhaid gwneud Archwiliadau Heddlu pwysig ychwanegol, y mae’n rhaid
eu gwneud cyn dechrau gweithio.
Os byddwch yn cytuno i gynigiad o gyflogaeth, ni ddylech gyflwyno rhybudd
i’ch cyflogwr presennol hyd nes y byddwch wedi derbyn hysbysiad
gennym yn nodi bod popeth yn dderbyniol.
^ yn ôl i'r brig | Yn
ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch y swydd hon
neu’r broses i’w dilyn, siaradwch gyda’r ‘enw
cyswllt’ neu’r Adran Personél (rhif ffôn ar hysbyseb
y swydd hon).
Gweler hefyd:
Gwybodaeth am ymweld, byw a gweithio yn Wrecsam
Rhithdaith 360° o Wrecsam
Ffeithiau, ffigyrau ac ystadegau allweddol am Wrecsam
|