Datgelu Collfarnau Troseddol
Dan y Ddeddf hon, gofynnir i chi ddatgelu manylion o gollfarnau blaenorol,
hyd nes i gyfnod penodol o amser fynd heibio a daw’r collfarnau hyn yn
rhai ‘wedi darfod’.
Dan y Ddeddf uchod, nid oes raid i chi roi manylion am fân-droseddau
gyrru na chollfarnau blaenorol os ydynt ‘wedi darfod’. Mae hyn yn cynnwys
y dyddiad rydych yn llofnodi’r ffurflen gais.
Dylech nodi’r canlynol wrth ystyried a yw collfarn ‘wedi darfod’:-
- hanerir cyfnodau ‘wedi darfod’ os digwyddodd y gollfarn pan oeddech
yn 17 oed neu iau;
- ni fydd dedfryd o fwy na 2½ flynedd yn y carchar yn ‘darfod’
byth;
- nid yw dedfryd o gadw ataliol a dedfryd cadw yn ystod pleser ei Mawrhydi
byth yn ‘darfod’; neu
- nad yw’n bwysig i’r broses o gyfrif collfarn ‘wedi darfod’ pa un a
ohiriwyd y dedfryd neu beidio.
Ymdrinnir â’r wybodaeth a roddwch yn hollol gyfrinachol. Ni fydd cael
collfarn yn eich rhwystro rhag cael eich cyflogi o angenrheidrwydd. Bydd
yn dibynnu ar amgylchiadau a chefndir y drosedd ac ystyrir hyn wrth ystyried
pa mor addas ydych chi ar gyfer y math o waith dan sylw, os bydd eich
cais yn llwyddiannus.
Gallai methiant i ddatgelu unrhyw gollfarnau nad ydynt ‘wedi darfod’ arwain
at dynnu’r cynnig o waith yn ei ôl. Os penodwyd chi eisoes, gellid
eich diswyddo heb rybudd.
Darllenwch y rhestr isod sy’n manylu ar y cyfnodau ailsefydlu ar gyfer collfarnau
troseddol.
Collfarnau Troseddol a’r Cyfnodau Cyn iddynt Ddarfod
| Dedfryd |
Yn darfod ar ôl |
| Dedfryd o garchar neu ddalfa’r ifanc sy’n fwy na chwe mis ond nad yw’n fwy na dwy flynedd a hanner. |
10 mlynedd |
| Dedfryd o garchar neu ddalfa’r ifanc heb fod yn fwy na chwe mis. |
7 mlynedd |
| Dedfryd o hyfforddiant Borstal |
7 mlynedd |
| Dirwy neu ddedfryd arall dan y Ddeddf hon na chwmpaswyd hwy yn y tabl hwn |
5 mlynedd |
| Rhyddhad diamod |
6 mis |
| Gorchymyn prawf, rhyddhad amodol neu rwymo, gorchmynion
rhywun addas, gorchymyn goruchwylio neu orchymyn gofal dan Ddeddfau
Plant a Phobl Ifanc (a’r deddfau cyfatebol yn yr Alban) |
1 flwyddyn neu hyd nes i'r gorchymyn ddod i ben (pa un bynnag sydd hwy) |
| Dedfryd |
Yn darfod ar ôl |
| Dwyn arian, rhyddhad ag anurddas neu ddiswyddiad â chywilydd o Wasanaeth Ei Mawrhydi |
10 mlynedd |
| Diswyddiad o Wasanaeth Ei Mawrhydi |
7 mlynedd |
| Dedfryd cadw mewn perthynas â chollfarn mewn achos disgyblu mewnol |
5 mlynedd |
| Cadw dan gyfeiriad yr Ysgrifennydd Cartref , |
| am gyfnod sy’n fwy na chwe mis ond nad yw’n fwy na dwy flynedd a hanner |
5 mlynedd |
| am gyfnod nad yw’n fwy na chwe mis |
3 mlynedd |
| am orchymyn ganolfan ddisgyblu |
3 mlynedd |
| am orchymyn canolfan remán, gorchymyn ysgol a gymeradwyir neu orchymyn canolfan ymbresenoli |
Cyfnod y gorchymyn ynghyd â blwyddyn arall ar ôl i’r gorchymyn ddod i ben |
| am orchymyn ysbyty dan y Deddfau Iechyd Meddwl |
Cyfnod y gorchymyn ynghyd â 2 flynedd arall ar ôl i’r gorchymyn ddod i ben (â lleiafswm o 5 mlynedd o ddyddiad y gollfarn) |
Eithriadau dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr
Mae categorïau penodol o swyddi a dosbarthiadau cyflogaeth a eithrir
dan ddarpariaethau’r Ddeddf. Golyga hyn nad yw collfarnau’n “darfod”
ar gyfer swyddi yn y categorïau hyn. Felly, os ydych yn
ymgeisio am swydd sy’n dod o fewn un o’r categorïau gwaith a restrir
isod, bydd raid i chi ddatgan unrhyw gollfarnau sydd gennych pa un a yw’r
terfyn amser wedi dod i ben neu beidio. Fel arfer, ym maes llywodraeth
leol, maent fel a ganlyn:
-
Unrhyw swydd neu gyflogaeth sy’n ymwneud â darparu llety,
gofal, cyfleusterau hamdden ac adloniant, addysg, gwasanaethau cymdeithasol,
goruchwyliaeth neu hyfforddiant i unigolion dan 18 oed, sef swydd
neu gyflogaeth sy’n galluogi’r deiliad i gael mynediad, wrth gyflawni
ei ddyletswyddau arferol a gyflawnir yn hollol neu’n rhannol ar yr
eiddo lle cynigir y ddarpariaeth honno.
-
Cyflogaeth sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cymdeithasol
sy’n cynnwys pobl ifanc, pobl dros 65 oed, pobl ag anableddau meddwl
a chorfforol, pobl ddifrifol sâl, anabl neu bobl sy’n ddibynnol
ar gyffuriau neu alcohol.
-
Cyflogaeth sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau i oedolion
hawdd eu niweidio h.y. darparu llety a gofal nyrsio neu bersonol mewn
cartref gofal neu yng nghartref unigolion hawdd eu niweidio neu wasanaethau
a ddarperir mewn lleoliad sy’n diwallu ar gyfer unigolyn ag anawsterau
dysgu.
-
Cyflogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd, yn
y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol neu rywle arall, sy’n cynnwys mynediad
i gleifion.
Cau'r
ffenestr hon
|