Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

YMATEB 999 - Mae Pob Munud Yn Cyfrif

 

Menter newydd yw YMATEB i geisio lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd.

Mae'r tri gwasanaeth brys yn crfnogi'r fenter, gyda chefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru.

Amcanion y Bartneriaeth yw:

  • Arbed bywydau
  • Gwella diogelwch ar y ffyrdd
  • Gwella amseroedd ymateb

Yr Adran Briffyrdd wnaeth adnabod y meysydd blaenoriaeth hyn yn ardal Wrecsam, a bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hyn i ddechrau.

  • A534 o ffordd gyswllt Llan-y-pwll i Hugmore Lane
  • A525 Cross Lanes i Halghton Mill - 2 ran o'r ffordd
  • Cylchfan Halton A5 at ffin y sir
  • A483 Croesfoel
  • A483 / A525 Cyffordd Ffordd Rhutun
  • A539 / A528 Erbistock
  • A528 / B5426 Croesffordd Eyton
  • Cyffordd Sandy Lane, Llannerch Banna (Penley)
  • Cyffordd y A534 / B5130 yn Holt
  • A541 ger cylchfan B&Q
  • B5425 Ffordd Newydd Llai

Defnyddiwyd system cyfeirnod map, a rhoddwyd rhif cyfeirnod unigryw ar lampau stryd a dodrefn ochr ffordd arall i nodi pob lleoliad.

Bydd Gweithredwyr Ystafell Reoli sy'n ateb galwadau 999 yn canfod:

  • natur y digwyddiad
  • niferoedd sydd yn y cerbyd(au)
  • os yw'r rhain wedi eu dal neu'n methu symud o'r cerbyd(au)
  • yr union leoliad

Gellir sicrhau'r union leoliad trwy anfon y galwyr at yr arwydd agosaf, lle gellir darllen y cyfeirnod map chwe rhif. Bydd hyn yn arbed amser gwerthfawr wrth geisio canfod lle mae'r digsyddiad a chyfeirio'r Heddlu, Ambiwlans a'r Gwasanaeth Tân ac Achub yno.

Mae amser yn hanfodol - mae rhoi cymorth i'r sawl a anafwyd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd o fewn yr 'awr aur' yn hollbwysig, felly mae pob munud yn cyfrif.

Bydd y cynllun peilot yn rhedeg i ddechrau am gyfnod o flwyddyn. Bydd y barneriaeth yn dadansoddi'r digwyddiadau'n fanwl. Bydd y fenter yn ehangu ar draws Gogledd Cymru ar sail canlyniadau'r cynllun peilot.

 
English
 

Cyswllt i

Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint