|
Mae gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf yn cynnwys halltu rhagofalus ac ar ôl rhew ac iâ, ynghyd â chlirio eira.
Blaenoriaethu Ffyrdd
Mae ffyrdd o fewn yr awdurdod wedi'u blaeoriaethu ar gyfer triniaeth yn ôl blaenoriaethau 1, 2 a 3.
Ffyrdd blaenoriaeth 1 yw'r ffyrdd sy'n cludo swm sylweddol o draffig ac sydd â nodweddion sydd angen amddiffyniad gan rew drwy'r nos. Mae'r ffyrdd hyn yn cynnwys ffyrdd dosbarth A a B.
Ffyrdd blaenoriaeth 2 yw'r ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd ond sy'n ffurfio'r prif lwybrau dosbarthu mewn ardaloedd trefol, llwybrau mynediad i gymunedau gwledig llai ac ysgolion, ffyrdd i ystadau diwydiannol a'r llwybrau bysiau sy'n weddill.
Ffyrdd blaenoriaeth 3 yw'r holl fyrdd sy'n weddill ac fel arfer cyfyngir y driniaeth i glirio eira neu halltu pan geir eira neu rew trwm parhaus. Gall y gwaith clirio eira gael ei gwblhau naill ai gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam neu gan gontractwyr a gedwir ar gontractau cyfnod.
Pan fydd yn bwrw eira, caiff ffyrdd blaneoriaeth 1 eu clirio'n gyntaf gyda blaenoriaeth 2 a 3 i ddilyn.
Amcan y Gwasanaeth
Bwriedir halltu ffyrdd blaenoriaeth 1 a 2 cyn cael iâ neu rew mewn ymateb i ragolygon tywydd.
Darperir rhagolygon tywydd dan gytundeb bob dydd am 13.00 o'r gloch, gan gynnwys swyddogion sydd ar ddyletswydd ar benwythnosau, a gellir eu diweddaru ar unrhyw adeg.
Mwy am gofalaeth gaeaf
|