Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Rhaglen o Waith Priffyrdd 2008/2009 (Ac eithrio gwaith cynnal a chadw strwythurau pontydd)

 

Mae'r ddogfen ganlynol yn manylu ar raglen arfaethedig o waith gwella priffyrdd a wneir gan Is-adran Treflun a Phriffyrdd Adran yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod blwyddyn ariannol 2008/2009

Mae'r rhaglenni wedi'u llunio i gefnogi nodau strategol y Cyngor Bwrdeistref Sirol i wella ffyrdd a chludiant.

Caiff y rhaglenni gwella a ariennir gan refeniw a chyfalaf ac sy'n ymwneud â thriniaethau strwythurol ac arwynebol ffyrdd a llwybrau cerdded eu blaenoriaethu o ddata arolwg cyflwr blynyddol i wella rhwydwaith mewnol priffyrdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cynllunio Rheoli Asedau Priffyrdd

O sylweddoli na ellir lleihau'r ôl-groniad presennol o waith cynnal a chadw strwythurol ar ffyrdd a llwybrau cerdded heb fabwysiadu ymagwedd strategol hirdymor tuag at wella'r rhwydwaith mewnol priffyrdd, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi mabwysiadu ymagwedd Cymru gyfan tuag at Gynllunio Rheoli Asedau Priffyrdd. Mae'r fethodoleg ganlynol yn esbonio'r egwyddorion sy'n deillio o flaenoriaethu rhaglenni gwaith cynnal a chadw arfaethedig:-

  • Asesiad mecanyddol a gweledol o'r rhwydwaith mewnol ffyrdd a llwybrau cerdded yn flynyddol.  Caiff y wybodaeth ei dehongli gan  system gyfrifiadurol dadansoddi pafinau'r Deyrnas Unedig (UKPMS) i ddangos lefel dirywiad ffyrdd a llwybrau cerdded unigol.
  • Mae allbwn UKPMS yn destun dadansoddiad peirianneg wedyn i ddarparu strategaethau hirdymor ar gyfer gwelliant sy'n cymryd i ystyriaeth cynlluniau corfforedig ar gyfer datblygiad economaidd a phreswyl, cynlluniau cludiant rhanbarthol, anghenion cymunedol ac ystadegau damweiniau lleol.
  • Caiff rhaglenni gwella eu paratoi ar sail blaenoriaeth gyda'r egwyddor "gwaethaf yn gyntaf" fel rheol gyffredinol. 

Defnyddir ymagwedd cost bywyd cyfan wrth benderfynu ar raglenni ar gyfer gwahanol fathau o brosesau gwella h.y.

  • Gwelliant strwythurol ar ffurf ailadeiladu lle mae lefel dibrisiad yr ased yn fawr.  Mae costau'r math hwn o welliant yn uchel ac mae'n arfer gan yr ymagwedd costau bywyd cyfan i gyflwyno rhaglenni trin arwynebau yn ystod cyfnod cynnar dirywiad er mwyn ymestyn bywyd ased i leihau lefel y gwaith ailadeiladu sy'n gosod baich mawr ar y cyllid sydd ar gael.
  • Amnewid neu atgyfnerthu'r arwyneb.
  • Trin yr arwyneb i ailsefydlu gwead yr arwyneb i ymestyn hyd bywyd yr arwyneb trwy amddiffyn cwrs yr arwyneb sy'n dangos arwyddion cynnar o ddirywiad trwy golli deunydd rhwymo /  cydgrynhoi.
  • Ail-wneud gwead arwyneb ffordd sydd â strwythur cadarn ond sy'n dangos diffyg gwrthiant sgidio trwy lathru'r deunydd cydgrynhoi o fewn cwrs yr arwyneb.
  • Er mwyn cynyddu budd costau'r adnoddau ariannol, rhaid cymryd i ystyriaeth y budd i'r cymunedau trwy gydnabod ardaloedd economaidd a chymdeithasol lleol o weithgaredd lle caiff ffyrdd sy'n dirywio ar lefel debyg eu hystyried a lle bo adnoddau'n gyfyngedig. Er enghraifft, caiff llwybr cerdded gerllaw ardal siopa fawr neu ysgol flaenoriaeth dros lwybr cerdded tebyg mewn lleoliad gwledig lle ceir llai o gerddwyr arnynt.

Mae'r categorïau canlynol wedi'u cynnwys yn y rhestr o gynlluniau sydd wedi'u trefnu i nodi'r ffactorau sy'n cefnogi eu cynhwysiad yn y rhaglen:-

A. Wedi'i nodi trwy broses arolygu cyflwr

B. Wedi'i nodi trwy ymchwiliadau damweiniau fel safle clwstwr damweiniau neu sy'n destun SCRIM isel.

C. Yn destun gwaith adfer cynnal a chadw uchel

CH. Llwybr wedi'i nodi mewn arolygon cyflwr ac yn ffurfio rhan o gynllun datblygu strategol

Nodyn

Er bod pob ymdrech wedi'i wneud i greu rhaglen derfynol a fydd yn darparu rheolaeth effeithiol o'r asedau priffyrdd, mae'n bosibl y bydd yn destun newid cynnwys a manylion trwy gydol y flwyddyn. Gall newidiadau fel hyn godi o'r angen i fynd i'r afael â gofynion cynnal a chadw anrhagweladwy sy'n codi yn ystod y flwyddyn h.y. gwaith gwasanaethau cyhoeddus brys ac addasu'r gyllideb.

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Rhaglen o Waith Priffyrdd
Troedffyrdd a Ffyrdd Cerbydau
Marcio Ffyrdd ac Arwyddion a Physt Nad Ydynt yn Oleuedig
Goleuadau Stryd a Chelfi goleuedig ar y Stryd
Signalau Traffig a Chroesfannau Pelican
Gweithgareddau Rheoleiddiol
Cynnal a Chadw yn Ystod y Gaeaf
Tywydd ac Argyfyngau Eraill
Cludiant & Teithio Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint