Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Troedffyrdd a Ffyrdd Cerbydau

 

Archwiliadau'r Briffordd

Cynhelir archwiliadau rheolaidd gan oruchwylwyr priffyrdd ar droedffyrdd a ffyrdd cerbydau bob 5 wythnos mewn ardaloedd siopa a phob 15 wythnos ar bob ffordd arall. Archwiliadau diogelwch yw'r rhain yn bennaf i nodi diffygion megis bagladau, peryglon a rhwystrau.

Yn ogystal â hyn, cynhelir archwiliadau arbennig o'r briffordd pan fydd aelodau o'r cyhoedd, c C ynghorwyr ac ati yn ein hysbysu am broblemau posibl.

Arolygon Gallu i Wrthsefyll Sgidio

Caiff y gallu i wrthsefyll sgidio ei fesur gan ddefnyddio arolygon SCRIM (sideways force coefficient routine investigation machine) a gynhelir yn unol â HD 28/94, Gallu i Wrthsefyll Sgidio y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd. Cynhelir arolygon bob tair blynedd ar ffyrdd Dosbarth A a B i'r ddau gyfeiriad. Fel arfer, cynhelir yr arolygon gan gontractwr allanol.

Cynnal a Chadw Ymatebol

Mae cynnal a chadw ymatebol yn ymwneud yn bennaf â gwella sefyllfaoedd anniogel wrth iddynt godi.

Caiff sefyllfaoedd peryglus megis ceudyllau sy'n fwy na 40mm o ddyfnder ar ffyrdd cerbydau a 20mm o ddyfnder ar droedffyrdd a llwybrau beiciau eu hatgyweirio o fewn 24 awr.

Gwaith Graddfa Fechan

Gwelliannau bychan i ffyrdd cerbydau, troedffyrdd, systemau draeniad, ffensys ac ati yw'r rhain.

Ardaloedd a Dirluniwyd a Choed

Y tu allan i gyfyngiadau 40mya torrir glaswellt gwledig am bellter o 1m o ymyl y briffordd d dwywaith y flwyddyn gan ddechrau ym mis Mai. Torrir y glaswellt i uchder o tua 75mm. Ceir gwared ar laswellt sydd o amgylch gwaith haearn ac yn y blaen â llaw.

Cynhelir gwaith torri cloddiau mewn lleoliadau gwledig a benderfynir ac a fesurir ymlaen llaw yn seiliedig ar faterion diogelwch h.y. gwelededd ger cyffyrdd ac mewn ardaloedd lle mae torri glaswellt â thractor yn anymarferol. Torrir y glaswellt i uchder o tua 75mm. Cynhelir pedair rhaglen fisol gan ddechrau ym mis Mai.

Gwneir pob gwaith torri glaswellt trefol (o fewn cyfyngiadau 40mya) a gwaith cynnal a chadw prif fynedfeydd i Wrecsam, megis Mynedfa Ffordd yr Wyddgrug yr A541 gan yr Adran Gwasanaethau Cymunedol.

Mae Is-adran Cynnal a Chadw Priffyrdd yr Adran Cludiant a Pheirianneg yn cynnal gwaith rheoli chwyn ar ymylon y priffyrdd y tu allan i gyfyngiadau 40mya. Gwneir pob gwaith rheoli chwyn arall gan yr Adran Gwasanaethau Cymunedol.

Caiff unrhyw lystyfiant sy'n rhwystro rhywun rhag gweld goleuadau strydoedd neu arwyddion traffig ei dorri'n ôl.

Draeniad

Caiff pob ffosdwll (tua 30,000) e u g i ? lanhau unwaith y flwyddyn, a'r rhai hynny sydd mewn safleoedd lle ceir llifogydd d dwywaith y flwyddyn.

Caiff ardaloedd sydd angen sylw pellach eu nodi a'u cynnwys ar raglen chwistrellu.

Cynhyrchir amserlenni sy'n rhoi manylion ynghylch gwacáu ffosdyllau fesul mis a chymuned.

Caiff cloriau tyllau caead, fframiau ffosdyllau a gwaith haearn arall eu hailosod os ystyrir eu bod yn rhy uchel neu'n rhy isel.

Arwynebu ac Ailadeiladu

Cynhyrchir rhaglenni blynyddol ar gyfer gwaith megis arwynebu ffyrdd, arwynebu/ailadeiladu troedffyrdd a gwella draeniad.

 

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Rhaglen o Waith Priffyrdd
Troedffyrdd a Ffyrdd Cerbydau
Marcio Ffyrdd ac Arwyddion a Physt Nad Ydynt yn Oleuedig
Goleuadau Stryd a Chelfi goleuedig ar y Stryd
Signalau Traffig a Chroesfannau Pelican
Gweithgareddau Rheoleiddiol
Cynnal a Chadw yn Ystod y Gaeaf
Tywydd ac Argyfyngau Eraill
Cludiant & Teithio Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint