Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cais Am Wirfoddolwyr

 

Mae llawer o gynlluniau cludiant cymunedol yn bodoli fel elusennau neu ffurfiau eraill o fudiadau gwirfoddol.  Mae’r amser a roddir gan wirfoddolwyr yn allweddol i sicrhau llwyddiant a pharhad y cynlluniau hyn.

Heb gymorth gwirfoddolwyr mae’n debygol y byddai llawer o’r cynlluniau yn dod i ben. Golyga hyn y byddai gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan y cynlluniau cludiant i ddefnyddwyr rheolaidd ac achlysurol hefyd yn dod i ben, a gallai hyn arwain at ynysu unigolion.

Mae recriwtio gwirfoddolwyr yn broblem barhaus ac yn mynd yn fwyfwy anodd.  A oes gennych chi amser y gallech ei gynnig fel gwirfoddolwr i wneud gwahaniaeth?  Gall yr oriau fod mor hir neu fyr ag y dymunwch ac mor aml ag y dymunwch.  Fel rheol, bydd gyrrwr gwirfoddol yn derbyn mân dreuliau.

Os oes gennych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, yna ysgrifennwch neu ffoniwch yr isod heddiw.

Cludiant Cymunedol
Y Cydlynydd Cludiant
Adeiladau’r Goron
31 Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG

Ffôn:01978 297132
Ebost: community_transport@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Y Fforwm Cludiant Cymunedol
Cludiant Cymunedol yn Wrecsam
Chariotts
Trwyddedau Adran 19 ac Adran 22
Cais am Wirfoddolwyr
AVOW
Cyswlltwch â Cludiant Cymunedol
Cludiant & Teithio Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint