Trwyddedau Adran 19
Yn unol â Deddf Cludiant 1985 (adran 19) gall mudiad nad yw’n gwneud elw godi tâl ar deithwyr am ddarparu cludiant i’r bobl y mae’r mudiad yn eu gwasanaethu heb orfod gwneud cais am drwydded gweithredu. Gall deilwyr trwyddedau Adran 19 ddarparu gwasanaethau i’w haelodau eu hunain neu grwpiau eraill y mae’r mudiad yn eu gwasanaethu yn unig. Gall y canlynol fod yn cymwys am drwydded Adran 19.
Unrhyw gorff nad yw’n gwneud elw sy’n ymwneud ag:
- Addysg
- Crefydd
- Lles cymdeithasol
- Adloniant
- Gweithgareddau eraill er budd y gymuned
Anfonwch e-bost at community_transport@wrexham.gov.uk am gymorth os ydych yn dymuno cael trwydded Adran 19.
Trwyddedau Adran 22
Yn unol â Deddf Cludiant 1985 (adran 22) rhoddir trwyddedau bysiau cymunedol i gyrff sy’n dymuno gweithredu gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth gwirfoddol nad yw’n gwneud elw, ac sy’n defnyddio gyrwyr gwirfoddol nad ydynt yn derbyn cyflog. Y prif bwrpas yw gwasanaethu cymuned lle na cheir darpariaeth briodol ar hyn o bryd.
Rhaid i’r gwasanaeth bws gydymffurfio ag amserlen a gyhoeddir a chynnal yr un safonau gweithredu proffesiynol a ddisgwylir gan sefydliadau masnachol gan y Comisiynydd Traffig.
|