Beth yw’r Ddeddf Rheoli Traffig 2004?
“Bwriad Deddf Rheoli Traffig 2004 yw darparu amodau gwell i bob defnyddiwr ffordd drwy reolaeth ragweithiol y rhwydwaith ffyrdd cenedlaethol a lleol ffordd” (Gwefan AdD)
Mewn termau ymarferol i’r modurwr, mae’r Ddeddf Rheoli Traffig yn darparu’r fframwaith gyfreithiol ar gyfer parcio.
Pa bryd mae’r Ddeddf Rheoli Traffig newydd yn dod i rym?
Ar 31 Mawrth 2008, mae’r Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (DRhT) yn disodli Deddf Traffig y Ffyrdd 1991 (DTFf) fel y rhan sylfaenol o ddeddfwriaeth dros barcio yn Lloegr a Chymru.
Beth yw’r prif newidiadau?
Ar sail dydd i ddydd bydd newid amlwg yng ngwasanaeth gorfodi parcio’r Cyngor.
Mae’r DdRhT yn cyflwyno ychydig o newidiadau cynnil yn yr ystyr y bydd Gorfodaeth Dad-droseddu Parcio (GDP) yn newid i Orfodaeth Parcio Sifil (GPS) ac adwaenir cynorthwywyr parcio fel swyddogion gorfodaeth parcio (SGP). Bydd y geiriad ar Rybudd Tâl Cosb (RhTC) yn newid hefyd i adlewyrchu’r ddeddf newydd.
Mae’r DdRhT yn hyrwyddo cysondeb mewn rheoliadau parcio, prosesau a gorfodaeth oddi mewn ac oddi allan i Lundain. Mae’n ymdrechu i daro cydbwysedd rhwng system sy’n deg i’r modurwr, ond yn parhau’n effeithiol wrth orfodi rheoliadau parcio.
Swyddogion Gorfodaeth Sifil
Beth yw Swyddog Gorfodaeth Sifil (SGS)?
Gelwir Gofalwr Maes Parcio nawr yn Swyddog Gorfodaeth Sifil (SGS), a disgwylir iddo gyflawni ystod ehangach o gylch gwaith nag o’r blaen o dan y Ddeddf Traffig y Ffyrdd (DTFf).
A fydd gwaith Swyddog Gorfodaeth Sifil yn newid?
Mae prif nod SGS yn aros sef sicrhau y cedwir at a gorfodir rheoliadau traffig mewn modd teg, cywir a chyson. Er hynny, bydd dyletswyddau SGS hefyd yn cynnwys gweithgareddau fel:
- Archwilio offer parcio;
- Gwirio ac adrodd am arwyddion a marciau parcio diffygiol; a
- Cyflwyno taflenni gwybodaeth a hysbysiadau rhybudd lle bo’n briodol.
Gellir gofyn i’r SGS hefyd gyflawni tasgau eraill, yn cynnwys:
- adrodd am gerbydau y drwgdybir eu bod wedi cael eu gadael;
- adrodd am gerbydau heb ddim disgiau treth dilys i’r DVLA; ac
|