|
Mae Cyngor Wrecsam yn cynnig dau wasanaeth i gerbydau sydd angen parcio tu allan i adeiladau i gyflawni gwaith neu i ddosbarthu eitemau trwm.
Goddefebau
Mae goddefeb llinell felen yn caniatáu pobl i barcio ar un llinell felen (neu mewn achosion neilltuol ar linellau melyn dwbl) os yw cerbyd yn gorfod cyflawni gwaith penodol, bod mor agos â phosibl i’r adeiladau a does dim lle parcio arall ar gael.
Yn gyffredinol ni chaniateir eu defnyddio mewn ardaloedd gyda gwaharddiad llwytho (a nodir fel rheol gyda marciau ar y cwrbyn).
Meini Prawf Cymhwyster
Gallech fod yn gymwys i gael goddefeb os ydych yn dod o fewn un o’r tri categori a ganlyn:
- Mae eich cerbyd yn rhy fawr i ffitio i gilfach barcio arferol (e.e. trelar/generadur cysylltiedig /cerbyd masnachol) a bod angen i chi barcio mor agos â phosibl i’r adeilad ar linell felen.
- Rydych yn cyflawni un o’r mathau canlynol o waith neu’n trin un o’r sylweddau a ganlyn:
- Cludo neu dynnu bwyler tar
- Tynnu a llwytho asbestos
- Cario cemegolion peryglus i’w defnyddio yn yr adeilad
- Gosod gwydr/ffenestri pan fydd rac gwydr wedi’i osod ar ochr y cerbyd
- Sgwrio â thywod neu waith tebyg pan fydd ceblau neu diwbiau yn rhedeg o’r cerbyd i’r ffasâd neu du mewn adeilad
- Gweithdy symudol gydag offer yn sownd yn llawr y cerbyd (e.e. offer weldio, generaduron neu gywasgyddion)
- Trin offer gosod to neu ddraenio
- Angladdau
Sut I Wneud Cais
Mae dwy ffordd i wneud cais am oddefeb llinell felen:
Dros y ffôn
Ffoniwch 01978 292042 – 8.30am – 5.30pm, Llun - Gwener.
Drwy'r Post
Gwasanaethau Parcio
Adran Cludiant a Rheoli Asedau
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG
Bydd angen i chi roi:
- Cyfeiriad llawn lle mae’r gwaith neu’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
- Rhif cofrestru’r cerbyd a ddefnyddir.
- Disgrifiad o’r gwaith neu’r gwasanaeth a ddarparir.
- Y dyddiadau pan fyddwch angen yr hawlen.
- Eich manylion cyswllt (cyfeiriad post neu e-bost).
Faint fydd y gost?
Ni does tâl ar hyn o bryd am drwydded parcio arbennig.
Amodau Defnyddio
Cwestiynau Cyffredinol am Goddefebau
|