|
Mae dau o feysydd parcio’r Cyngor sy’n gwasanaethu canol tref Wrecsam wedi ennill Gwobr Parcio Mwy Diogel am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, ac mae maes parcio arall wedi’i achredu am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r ailachrediadau hyn yn cydnabod nod Cyngor Wrecsam i leihau troseddau ceir a darparu amgylchedd mwy diogel i bobl sy’n dod i Wrecsam.
Dyfernir y wobr i feysydd parcio sy’n bodloni safonau uchel o ran goleuadau ac addurniad, gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng (TCC) a chynlluniau tirlunio.
Y tri maes parcio sydd wedi ennill y wobr yw maes parcio aml-lawr Marchnad y Bobl, Cilgant San Siôr a Ffordd y Cilgant, sy’n cynnig dros 500 o leoedd parcio.
Gweithredir y cynllun meysydd parcio diogel gan y Gymdeithas Barcio Brydeinig, ac fe’i cefnogir gan yr heddlu.
Mae pob maes parcio’n cael ei wirio’n rheolaidd i sicrhau bod unrhyw broblemau o ran diogelwch a gwaith cynnal a chadw yn cael eu trin yn gyflym. Wrth barcio, sicrhewch eich bod yn tynnu unrhyw eitemau gwerthfawr o’ch cerbyd, sicrhewch nad oes unrhyw beth yn cael ei arddangos a sicrhewch fod eich ffenestri wedi’u cau a’ch drysau wedi’u cloi.
Efallai y byddwch yn clywed llais yn eich atgoffa i ddilyn canllawiau diogelwch mewn gwahanol feysydd parcio, peidiwch â phoeni!... Mae'r 'arwyddion sy'n siarad' wedi'u gosod trwy fenter gan yr heddlu i leihau troseddau cerbydau.
|