|
Ers 1 Mawrth, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn gyfrifol am reoli gorfodaeth parcio ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae Swyddogion Parcio (swyddogion gorfodaeth sifil nawr) a gyflogir gan y Cyngor wedi bod yn cylchwylio’r strydoedd a meysydd parcio’r Cyngor.
Pam y newid?
Nid yw’r orfodaeth parcio newydd am godi refeniw. Mae nifer o resymau a phob un o fudd i bobl sy’n byw, yn gweithio yma neu’n ymweld â’r Fwrdeistref Sirol.
- Annog parcio diogel a chall.
- Gwella diogelwch ar gyfer gyrwyr a cherddwyr.
- Gwella llif gyffredinol traffig ac amseroedd teithio drwy’r Fwrdeistref Sirol.
- Sicrhau na fydd cerbydau’r gwasanaethau cyhoeddus a brys yn cael eu rhwystro ar y ffordd.
- Gwella’r amgylchedd yn gyffredinol.
- Rhyddhau’r heddlu i ganolbwyntio’u hadnoddau ar faterion y cred y cyhoedd sy’n gyfrifoldeb mwy uniongyrchol iddynt.
Mae dros 220 o awdurdodau lleol ledled y wlad eisoes yn rheoli gorfodaeth parcio yn eu hardaloedd ac wedi gweld budd o hynny. Bydd llawer o awdurdodau eraill yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb yn y dyfodol.
Yr enw swyddogol ar y newidiadau hyn yw ‘gorfodaeth parcio wedi’i dad-droseddoli’ a golyga fod gorfodaeth parcio gan y cyngor yn peidio â bod yn dramgwydd troseddol ac yn dod yn dramgwydd sifil.
I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn cysylltwch ag adran meysydd parcio’r Cyngor ar 01978 292042 neu anfonwch e-bost i parking@wrexham.gov.uk.
|