Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cwestiynau Cyffredin am Goddefebau

 

Pryd NA FYDD Goddefeb Llinell Felen yn cael ei chaniatáu hyd yn oed os yw'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf?

Ni fydd Goddefeb llinell felen yn cael ei chaniatáu yn yr amgylchiadau a ganlyn:

  • Mynediad cyfyngedig – dim cerbydau mawr
  • Ffordd Breifat
  • Ffordd rhy gul

Am faint y mae'r Oddefeb yn ddilys?

  • Isafswm: 24 awr o’r amser y cafodd ei rhoi.  Ni ellir ei hôl‑ddyddio.  
  • Uchafswm: 7 diwrnod parhaol (gall gynnwys Sadyrnau a Suliau os yw’r parth parcio lle y maent yn gweithio yn cael ei reoli ar y dyddiau hynny. 

A allaf i brynu fy hawlen o flaen llaw, os gallaf faint o flaen llaw?

Gallwch.  Gellir prynu Goddefeb llinell felen mor bell o flaen llaw ag yr ydych yn ei ddymuno.  Nid oes yn rhaid iddi fod ar gyfer dyddiau olynol a gall gynnwys Sadyrnau a Suliau os yw’r parth parcio lle maent yn gweithio yn cael ei reoli ar y dyddiau hynny.

A allaf i adnewyddu fy Ngoddefeb Llinell Felen?

Na allwch – bydd yn rhaid i chi brynu un newydd gan Wasanaethau Parcio’r Cyngor.

A allaf i ofyn am ad-daliad am Oddefeb Llinell Felen na ddefnyddiais?

Nid ydym yn cynnig ad-daliadau ar oddefebau, hyd yn oed os oes gennych amser nad oeddech ei angen ar ôl heb ei ddefnyddio.

A allaf i ddefnyddio fy Ngoddefeb Llinell Felen i barcio mewn lle arall?

Na chewch, ni chaniateir hynny.  Bydd yn rhaid i chi drefnu Goddefeb arall sydd yn ddilys ar gyfer y parth parcio lle rydych yn dymuno parcio.

A allaf i ddefnyddio fy Ngoddefeb Llinell Felen gyda cherbyd arall?

Na chewch – ni chaniateir trosglwyddo goddefebau, dim ond ar y cerbyd ac i’r diben penodol y cawsant eu trefnu y caniateir eu defnyddio.  Bydd yn rhaid i chi brynu Goddefeb arall os ydych am ddefnyddio cerbyd gwahanol.

Beth ddylwn ei wneud os oes gennyf Oddefeb Llinell Felen ddilys a bod Swyddog Gorfodaeth Sifil neu Swyddog yr Heddlu yn gofyn i mi symud?

Gall Swyddog Gorfodaeth Sifil neu Swyddog yr Heddlu ofyn i ddeiliad Goddefeb ddilys symud er mwyn sicrhau bod traffig yn llifo’n rhwydd.  Hyd yn oed os oes gan gwsmer Oddefeb llinell felen ddilys mae’n rhaid i’r cwsmer ddilyn cyfarwyddiadau Gofalwr Parcio neu Swyddog yr Heddlu.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Gwasanaethau Parcio
Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC)
Siarter Barcio y Cyngor
Taflen Gwasanaethau Parcio
   

Cysylltiadau Allanol Bellach

Adran Drafnidiaeth
Tribiwnlys Cosb Traffig (TCT)
PATROL
Côd Priffordd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint