Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Parcio Ar Stryd I'r Anabl

 

Nid trwydded i barcio lle y mynnoch yw’r cynllun bathodyn glas.  Ni chewch barcio mewn nifer o fannau o dan unrhyw amgylchiadau, felly gofynnwch am wybodaeth am y trefniadau lleol.

Yn gyffredinol, mae’r cynllun yn caniatáu’r manteision parcio a ganlyn, cyhyd â’ch bod yn arddangos eich bathodyn glas:

Gall y rhai sydd â bathodyn glas barcio am ddim heb gyfyngiad amser wrth beiriannau parcio a  ‘thalu ac arddangos’ ar stryd oni bai fod gorchymyn traffig lleol yn nodi bod cyfyngiad amser i ddeiliaid bathodyn glas mewn grym.  Gofynnwch am wybodaeth am y trefniadau lleol.

Mae’n bosibl bod deiliaid bathodyn glas yn cael eu hesgusodi o’r cyfyngiadau amseroedd parcio a osodir ar eraill.  Gofynnwch am wybodaeth am y trefniadau lleol.

Fel rheol caniateir i ddeiliaid bathodyn glas barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr yng Nghymru a Lloegr, neu heb gyfyngiad amser yn yr Alban, ac eithrio lle mae gwaharddiad ar lwytho neu ddadlwytho, ac mewn rhai lleoliadau lle mae cynlluniau lleol yn weithredol e.e. Canol Llundain.

Canol Tref Wrecsam - parcio ar y stryd i'r anabl

Gwahardd pob cerbyd

  • 11.30am to 5.00pm Llun - Gwener;
  • 9.30am to 5.00pm Dydd Sadwrn;
  • 1.00pm to 5.00pm Dydd Sul

I ddeiliaid bathodyn glas yn unig ar unrhyw adeg arall.

Stryt y Lampint

O bwynt 38m i’r gorllewin o’i chyffordd â Stryt Caer i’w chyffordd â Stryt y Frenhines.

Stryt y Frenhines

Ei hyd i gyd.

Stryt Henblas

Ei hyd i gyd.

Stryt Caer

O’i chyffordd â Stryt Siarl i’w chyffordd â Stryt Holt.

Stryt y Rhaglaw

O’i chyffordd â Stryt yr Allt i’w chyffordd â Stryt yr Hôb.

Stryt yr Hôb

Ei hyd i gyd. I fodurwyr anabl rhwng 11.30am a 5.00am o ddydd Sul i ddydd Gwener a rhwng 9.30am a 5.00am dydd Sadwrn.

Stryt Fawr

Ei hyd i gyd.

Cynllun Bathodyn Glas

Parcio i'r Anabl ym meysydd parcio

Mae lle parcio dynodedig i’r anabl ym mhob un o’n meysydd parcio a gall unrhyw un sydd â bathodyn parcio dilys i’r anabl ddefnyddio’r rhain, neu feysydd parcio eraill, yn ddi-dâl heb gyfyngiad amser.   Mae maes parcio neilltuol i’r anabl ar Ffordd Rhosddu yng nghefn y llyfrgell.  Yn ogystal â hynny mae gan Shopmobility le neilltuol ar gyfer cwsmeriaid Shopmobility.

Sylwch os gwelwch yn dda bod y Gofalwyr Meysydd Parcio yn brysur yn goruchwylio’r defnydd a wneir o fathodynnau glas ac mae ganddynt hawl i roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw gerbyd nad yw’n arddangos bathodyn dilys i’r anabl wrth ddefnyddio’r consesiynau parcio.  Bydd tocyn yn cael ei roi hefyd i gerbyd sydd yn arddangos tocyn talu ac arddangos dilys, ond sydd wedi parcio mewn lle i’r anabl.  Cofiwch nad yw’r rheol sydd yn caniatáu deiliaid Bathodyn Glas i barcio ar linellau melyn ar y stryd yn caniatáu iddynt wneud hynny ym meysydd parcio’r Cyngor.

Map Canol Tref Wrecsam

Cysylltiadau Defnyddiol

Parcio

Cyfeirlyfr Bathodyn Glas yr Adran Drafnidiaeth

Shopmobility Wrecsam

Sefydliadau

Comisiwn Hawliau'r Anabl

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Gwasanaethau Parcio
Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC)
Siarter Barcio y Cyngor
Taflen Gwasanaethau Parcio
   

Cysylltiadau Allanol Bellach

Adran Drafnidiaeth
Tribiwnlys Cosb Traffig (TCT)
PATROL
Côd Priffordd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint