|
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth a fydd o gymorth i bobl anabl sydd yn ymweld â Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac i’w thrigolion i ddod o hyd i leoedd parcio i’r anabl yn y Fwrdeistref.
Beth yw cynllun bathodyn glas?
Mae’r Cynllun Bathodyn Glas (y Cynllun Bathodyn Oren gynt) yn drefniant cenedlaethol i alluogi pobl sydd ag anawsterau cerdded, sydd naill ai yn teithio fel gyrwyr neu deithwyr, i gael consesiynau parcio.
Mae’r cynllun hefyd yn berthnasol i bobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall a phobl sydd ag anableddau braich uchaf difrifol sydd yn gyrru cerbyd yn rheolaidd ond yn methu â throi’r llyw â llaw.
Mae’r cynllun yn galluogi deiliaid bathodyn i barcio’n agosach i’w cyrchfan, fodd bynnag dim ond i barcio ar-stryd y mae’r consesiynau yn berthnasol.
I gael copi o daflen y cynllun bathodyn glas cysylltwch â Llywodraeth Cynulliad Cymru (cyswllt allanol) neu eich adran leol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Trigolion y Fwrdeistref sydd ag anableddau
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth i Drigolion y Fwrdiestref sydd ag anableddau.
A allaf i gael Bathodyn Glas?
Gallwch gael Bathodyn Glas os:
- ydych yn derbyn y gyfradd uwch o'r elfen symudedd o’r Lwfans Byw i'r Anabl.
- ydych yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel.
- ydych wedi eich cofrestru yn ddall.
- oes gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich uchaf, yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd ond ni fedrwch droi'r llyw gyda llaw hyd yn oed os oes nobyn troi ar y llyw.
- oes gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na fedrwch gerdded neu y cewch anhawster sylweddol wrth gerdded.
A oes tâl am y Bathodyn Glas?
NAC OES. Ni chodir unrhyw dâl i gael Bathodyn Glas gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - efallai y bydd awdurdodau lleol eraill yn codi tâl bychan.
Sut ydw i yn gwneud cais am Fathodyn Glas?
Medrwch wneud cais am Fathodyn Glas naill ai trwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein, neu trwy gysylltu â’r Adran Gofal Cymdeithasol, a fydd yn afon ffurflen gais atoch trwy'r post.
Gallwch gysylltu â ni i ofyn am gopi o'r ffurflen gais - ffoniwch: 01978 292066 neu anfonwch ebost at:
socialservices@wrexham.gov.uk.
Gwneud cais ar-lein am Fathodyn Glas
Os hoffech wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein, bydd eich gwybodaeth yn cael ei derbyn a'i phrosesu gan Adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi anfon dau ffotograff diweddar, math pasbort, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd ar y cefn.
Peidiwch ag anfon ffotograffau tan y gofynnir ic hi wneud hynny.
Byddwn yn gofyn i chi ymweld â swyddfa’r adran Gofal Cymdeithasol i nôl eich Bathodyn Glas a chyflwyno'r ddau ffotograff, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y bydd eu hangen fel rhan o'r broses.
Gwneud Cais am Fathodyn Glas
Ffurflen Gais Trwy'r Post
Dylech gwblhau'r ffurflen a'i hanfon at swyddfa’r adran Gofal Cymdeithasol, ynghyd â dau ffotograff diweddar, maint llun pasport, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd ar y cefn.
Peidiwch ag anfon ffotograffau tan y gofynnir ic hi wneud hynny.
Mae'r broses yn cymryd tua chwe wythnos fel rheol.
Beth sydd yn digwydd i fy nghais?
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar y cais a wnewch am Fathodyn Glas, a beth sy'n digwydd nesaf.
Gwneud cais ar lein am Fathodyn Glas
Gwneud cais am Fathodyn Glas gan ddefnyddio ffurflen gais safonol
Cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth Bellach
Adran Gofal Cymdeithasol
Llawr Cyntaf
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8ZE
Ffôn: 01978 292066
Ebost: socialservices@wrexham.gov.uk
|