Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Herio Rhybudd Talu Cosb (RhTC)

 

Mae’r adran hon yn dweud wrthych sut y gallwch herio RhTC os ydych yn teimlo eich bod wedi ei gael ar gam neu yn anghywir.

Mae nifer o gamau i’r broses herio:

Apêl anffurfiol

Byddwch yn medru cyflwyno apêl anffurfiol hyd at 28 diwrnod ar ôl i’r RhTC gael ei gyhoeddi, fodd bynnag, argymhellir eich bod yn gwneud hynny o fewn 14 diwrnod, fel bod gennych gyfle i fanteisio ar yr 50% o ostyngiad petai eich apêl yn cael ei wrthod.

Nid oes yn rhaid i chi dalu ar yr adeg hon.  Os bydd eich apêl yn cael ei derbyn, bydd eich RhTC yn cael ei ganslo ac ni fydd angen unrhyw gamau pellach.

Rhaid cyflwyno pob her yn ysgrifenedig.  Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen a ganlyn i herio eich RhTC.  Gwnewch yn sir eich bod yn rhoi’r manylion i gyd yn llawn a phostiwch hi i:

Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru
Blwch Post 273
Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 9EJ

Amgaewch y canlynol gyda’r ffurflen apêl hon os gwelwch yn dda:

  • Unrhyw Docynnau Talu ac Arddangos yr oeddech wedi’u prynu
  • Y Tocyn Taliad Ychwanegol a gawsoch
  • Llungopi o’ch bathodyn i’r anabl (os yn briodol)
Rydym yn argymell eich bod yn anfon copïau o unrhyw dystiolaeth.

Ffurflen Apêl

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Apêl (Saesneg yn unig) - fformat Word 110Kb

Ffurflen Apêl (Saesneg yn unig) - fformat PDF 29Kb

Ffurflen Apêl (Saesneg yn unig) - fformat Testun Plaen 257Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

Apêl Ffurfiol

Os nad ydych wedi talu na herio eich RhTC o fewn 28 diwrnod o’i gyhoeddi, bydd Rhybudd i Berchennog (RhIB) yn cael ei anfon at berchennog cofrestredig y cerbyd.  Bydd hwn yn dweud bod yn rhaid i chi naill ai dalu’r RhTC (yn llawn), neu gyflwyno achos ffurfiol trwy ysgrifennu at:

Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru
Blwch Post 273
Rhyl
Sir Ddinbych
LL19 9EJ

Gallwch gyflwyno achos yn erbyn y RhTC ar y sail a ganlyn:

  1. (a) Ni fu'r cerbyd yn eiddo i chi erioed.

    (b) Nid chi bellach oedd perchennog y cerbyd ar ddyddiad y gamwedd. Bydd yn rhaid i chi roi enw a chyfeiriad yr unigolyn a brynodd y cerbyd gennych ynghyd â phrawf o ddyddiad y gwerthiant.

    (c) Nid oedd y cerbyd yn eiddo i chi tan ar ôl y dyddiad. Bydd yn rhaid i chi roi enw a chyfeiriad yr unigolyn ar werthodd y cerbyd i chi ynghyd â phrawf o ddyddiad y pryniant.

  2. Ni ddigwyddodd y gamwedd.

  3. Digwyddodd y gamwedd tra roedd y cerbyd o dan reolaeth rhywun heb ganiatâd y perchennog.  Bydd yn rhaid i chi roi cyfeirnod gamwedd ac enw Swyddfa’r Heddlu lle yr hysbyswyd bod y cerbyd wedi’i ddwyn.

  4. Roedd y Gorchymyn Traffig yn annilys h.y. ni wnaeth y Cyngor gydymffurfio â’r gofynion statudol wrth wneud y Gorchymyn.

  5. Mae’r cerbyd yn eiddo i gwmni llogi cerbydau ac roedd y cerbyd wedi’i logi i rywun o dan drefniant llogi ffurfiol.  Bydd yn rhaid i chi ddarparu copi o’r cytundeb llogi sydd yn dangos enw a chyfeiriad yr unigolyn a logodd y cerbyd yn glir.   Mae’n rhaid i’r cytundeb gynnwys datganiad o atebolrwydd a lofnodwyd gan y llogwr ac yn cydnabod atebolrwydd y llogwr i dalu taliadau cosb.

  6. Mae tâl y gosb yn fwy na’r swm sydd yn berthnasol i’r gamwedd h.y. mae’r swm yn fwy nag yr ydych yn atebol i’w dalu yn ôl y gyfraith.

  7. Cafodd y Rhybudd i Berchennog ei gyflwyno’n rhy hwyr.  Fel rheol mae’n rhaid i’r Cyngor anfon Rhybudd i Berchennog o fewn chwe mis i ddyddiad y Rhybudd Talu Cosb, ond weithiau maent yn cymryd yn hwy, os bu oedi wrth gael  y manylion o’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, neu os oes datganiad statudol wedi’i wneud. 

  8. Ni chafodd y Swyddog Gorfodaeth Sifil ei rwystro rhag rhoi’r Rhybudd Talu Cosb.  Mae hyn yn berthnasol pan anfonodd y Cyngor y Rhybudd Talu Cosb atoch drwy’r post oherwydd mae’n dweud bod rhywun wedi rhwystro’r Swyddog Gorfodaeth Sifil rhag rhoi’r Rhybudd Talu Cosb yn y lleoliad a dydy chi ddim yn derbyn hynny.

Beth yw'r cam nesaf?

Pan dderbynnir y gynrychiolaeth bydd yr holl ffeithiau perthnasol yn cael eu hystyried.  Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a gedwir ar gofnodion cyfrifiadurol ac yn nodiadau’r Swyddog Gorfodaeth Sifil yn cael eu hystyried hefyd. 

Os derbynnir eich cynrychiolaeth, cewch wybod bod y Rhybudd Talu Cosb wedi ei ganslo ac ni fydd angen unrhyw gamau pellach.

Os gwrthodir eich cynrychiolaeth, anfonir ‘Rhybudd o Wrthodiad’ ffurfiol atoch ynghyd â ffurflen apêl.  Dylech naill ai dalu’r rhybudd talu cosb yn llawn nawr neu wneud apêl i ddyfarnwr annibynnol y Tribiwnlys Cosb Traffig (TCT).

Mae’r dyfarnwr annibynnol yn cael ei gyfyngu gan y gyfraith i ystyried cynrychiolaethau ar y rhesymau a restrir.  Ni allwch fynd â’ch achos i’r TCT tan y byddwch wedi gwneud cynrychiolaeth ffurfiol i’r Cyngor ac mae unrhyw benderfyniad a wna’r TCT yn rhwymo’n gyfreithiol.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Gwasanaethau Parcio
Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC)
Siarter Barcio y Cyngor
Taflen Gwasanaethau Parcio
   

Cysylltiadau Allanol Bellach

Adran Drafnidiaeth
Tribiwnlys Cosb Traffig (TCT)
PATROL
Côd Priffordd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint