Canolfan Groeso Wrecsam

Mae Canolfan Groeso Wrecsam yn cynnig croeso cynnes ac ystod eang o wasanaethau. Fel rhan o'r Rhwydwaith Siarter Canolfannau Croeso Cymru Gyfan, mae Canolfan Groeso Wrecsam yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel iawn.

  • Gall y Ganolfan Groeso neilltuo llety nid yn unig yn Wrecsam, ond ledled y wlad;
  • Gall ymwelwyr neilltuo ystafell o flaen llaw yn ystod eu hymweliad â Wrecsam;
  • Mae gan y Ganolfan Groeso gyflenwad o lenyddiaeth rhad ac am ddim am ddigwyddiadau, gweithgareddau a lleoedd i ymweld â nhw, yn lleol ac ar draws gogledd Cymru;
  • Mae'n Asiant Tocynnau ar gyfer nifer o theatrau a lleoliadau cyngherddau;
  • Mae'n gwerthu llyfrau, mapiau a swfeniriau;
  • Mae'n darparu gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ac mae'n cynnig cyngor i ymwelwyr sydd ag anghenion penodol megis mynediad i bobl ag anableddau.

Oriau Agor

Mae Canolfan Groeso Wrecsam ar agor trwy'r flwyddyn.

Haf ( Dechrau 22 Mawrth )

Llun - Gwe. 10.00a.m. - 5.00 p.m.
Sad. 9.00a.m. - 4.00 p.m.

Gaeaf

Llun - Sad. 10.00a.m. - 4.00 p.m.

Manylion Cyswllt

Canolfan Groeso Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AY
Ffôn: 01978 292015
Ffacs: 01978 292467
E-bost: tic@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig