|
Yn ystod 2003/4, comisiynwyd Arolwg o Ymwelwyr Gogledd Cymru gyfan i ddadansoddi proffil a chymelliadau ymwelwyr gogledd Cymru. Mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill ac amryw o gyrff allanol megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, cydlynwyd y prosiect gan Adran Datblygiad Economaidd CBS Wrecsam.
Bydd gwybodaeth o'r arolwg yn helpu i strwythuro gweithgaredd twristiaeth a gyflawnir dros y blynyddoedd nesaf. Bydd marchnata a datblygu'n cael ei bennu gan ddarganfyddiadau'r arolwg, yn lleol, yn rhanbarthol ac ar hyd gogledd Cymru. Heb ddealltwriaeth o ganfyddiadau ac anghenion ymwelwyr, ni allwn ddarganfod meysydd sydd â gwendidau a chryfderau. Mae angen i ni wybod beth mae'n ymwelwyr yn ei feddwl er mwyn darparu gwell gwasanaeth iddynt yn y dyfodol.
Bydd canlyniadau cynhwysfawr Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gael o fewn y misoedd nesaf. Am wybodaeth bellach ynglyn â'r Arolwg Ymwelwyr, cysylltwch â Rheolwr Datblygiad Gwledig yr Adran Twristiaeth, ar 01978 292461 neu anfonwch e-bost at: tourism@wrexham.gov.uk.
|